Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau cyffredin Sgrinio Serfigol - Eich canlyniadau prawf sgrinio serfigol (ceg y groth)

Ni ddarganfuwyd Feirws Papiloma Dynol (HPV) risg uchel

Mae fy llythyr yn dweud fy mod yn HPV negatif, ond nid ydych wedi archwilio fy nghelloedd i weld a oes newidiadau. Pam nad ydych chi wedi edrych ar fy nghelloedd?

Mae newidiadau i’r celloedd yn cael eu hachosi gan HPV. Os na ddarganfuwyd HPV yn eich prawf nid oes angen i ni edrych ar y celloedd. Os na ddarganfyddir HPV, nid oes angen i ni archwilio’ch celloedd gan fod eich risg o ddatblygu newidiadau i’r celloedd yn isel iawn. Rydym yn gwybod bod hyn yn peri pryder i rai unigolion, ond mae prawf sy’n dangos nad oes HPV yn bresennol yn fwy dibynadwy na dod o hyd i gelloedd normal.

Er fy mod yn HPV negatif, rwyf am i’m celloedd gael eu harchwilio. Ydy hynny’n bosibl?

Nac ydy. Os na ddarganfuwyd HPV nid oes angen i ni archwilio’r celloedd gan fod eich risg o ddatblygu newidiadau i’r celloedd yn isel iawn.

Rydym yn gwybod bod hyn yn peri pryder i rai unigolion, ond mae prawf sy’n dangos nad oes HPV yn bresennol yn fwy dibynadwy na dod o hyd i gelloedd normal.

Rwy’n HPV negatif, felly pam ydych chi’n fy ngwahodd i gael prawf sgrinio ymhen 12 mis?

Ar ôl eich prawf cyntaf wedi iachâd– Gan eich bod wedi cael triniaeth yn y clinig Colposgopi, byddwn yn eich monitro’n agosach i sicrhau bod y driniaeth wedi bod yn llwyddiannus. Mae hyn yn golygu cael profion sgrinio serfigol (ceg y groth) mwy rheolaidd am gyfnod byr.

I bobl â Salwch Retrofeirysol (RVI)– Gan fod gennych gyflwr a allai effeithio ar eich system imiwnedd, byddwn yn eich monitro’n agosach.

Rwyf wedi cael fy ngweld yn y clinig colposgopi ac rwy’n HPV negatif. Pam ydych chi’n fy ngwahodd i gael fy sgrinio cyn y bwlch arferol o bum mlynedd?

Gan eich bod wedi cael eich gweld yn y clinig Colposgopi, byddwn yn eich monitro’n agosach. Mae hyn yn golygu cael profion sgrinio serfigol (ceg y groth) mwy rheolaidd am gyfnod byr. Os bydd eich prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) nesaf yn HPV negatif, byddwn yn eich gwahodd i gael eich sgrinio eto ymhen pum mlynedd.

Dywedwyd wrthyf nad oes angen i mi gael prawf sgrinio serfigol mwyach oherwydd fy oedran. A yw’n ddiogel peidio ag anfon gwahoddiadau ataf os nad ydych wedi archwilio fy nghelloedd?

Ydy, mae’n ddiogel. Yng Nghymru, mae unigolion a all gael sgrinio serfigol yn cael eu gwahodd hyd at eu penblwyddi’n 64 oed. Yna, bydd y rhaglen sgrinio yn dod i ben i chi oherwydd bod unigolion nad oes ganddynt HPV (Feirws Papiloma Dynol) yn annhebygol iawn o ddatblygu canser ceg y groth yn eu blynyddoedd diweddarach.

Er bod canser ceg y groth yn gallu datblygu mewn unigolion hŷn, yn aml, mae’n digwydd i bobl nad ydynt wedi cael eu sgrinio, neu i bobl nad ydynt wedi cael digon o brofion sgrinio yn y gorffennol.

Hyd yn oed pe bai pob un o’ch profion blaenorol yn gyffredin, mae’n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i’ch meddyg am unrhyw waedu anarferol, rhedlif neu symptomau eraill.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Gwaedu ar ôl rhyw, rhwng eich mislif neu ar ôl y menopos
  • Rhedlif newydd neu wahanol o’r wain (newid i’r lliw, i’r maint neu i’r trwch)
  • Poenau yng ngwaelod eich bol neu eich cefn, neu boen yn ystod rhyw

Darganfuwyd Feirws Papiloma Dynol (HPV) risg uchel, celloedd yn normal

Mae fy llythyr yn dweud fy mod yn HPV positif, ond roedd fy nghelloedd yn normal. Pam ydw i’n cael fy ngwahodd ymhen 12 mis?

Mae HPV yn feirws cyffredin y mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael gwared arno’n naturiol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhai unigolion yn cymryd ychydig yn hwy i gael gwared ar y feirws ac weithiau, bydd yr unigolion hyn yn datblygu newidiadau i’r celloedd.

Gan fod eich prawf yn dangos eich bod yn HPV positif, mae’n bwysig ein bod yn eich monitro’n amlach i wneud yn siŵr bod yr HPV yn cael ei waredu.

Os bydd angen i fi gael fy sgrinio’n amlach, pam nad ydych chi wedi fy anfon i’r clinig Colposgopi?

Mae HPV yn feirws cyffredin y mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael gwared arno’n naturiol o fewn dwy flynedd. Gan nad oes gennych unrhyw newidiadau i’ch celloedd, nid oes angen i ni eich anfon i’r clinig colposgopi ar hyn o bryd.

Byddwn yn parhau i’ch monitro a byddwn yn eich atgyfeirio at y clinig colposgopi os ydych yn dal yn HPV positif ar ôl 24 mis.

Mae fy llythyr yn dweud fy mod yn HPV positif, ond roedd fy nghelloedd yn normal. Pam ydw i wedi cael fy atgyfeirio i’r clinig Colposgopi?

Bydd pedwar o bob pump ohonom yn cael HPV ar ryw adeg yn ystod ein bywydau, fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf ohonom yn cael gwared â’r feirws yn naturiol o fewn dwy flynedd. Os na fydd eich corff yn cael gwared ar yr HPV, gall weithiau achosi newidiadau i gelloedd ceg y groth a all, os na chânt eu trin, arwain at ganser ceg y groth. Gan ein bod wedi darganfod bod gennych HPV o hyd, rydym wedi eich atgyfeirio at y clinig colposgopi i archwilio’ch serfics (ceg y groth) i weld a oes unrhyw newidiadau.

Mae fy llythyr yn dweud fy mod yn HPV positif, ond roedd fy nghelloedd yn normal. Cefais fy nhrin o’r blaen am newidiadau i’r celloedd, felly a gafodd rhywbeth ei golli?

Naddo. Mae ein sgrinwyr wedi archwilio eich sampl serfigol ac ni nodwyd bod unrhyw newidiadau i’r celloedd. Oherwydd ein bod wedi nodi bod gennych HPV o hyd, rydym wedi eich atgyfeirio at y clinig colposgopi i wneud yn siŵr nad oes unrhyw newidiadau i’ch serfics (ceg y groth).

Rwyf wedi cael fy rhyddhau gan y clinig Colposgopi, ond rwy’n dal i fod yn HPV positif. Roeddwn i’n arfer cael fy ngwahodd bob 12 mis. Pam mae hyn wedi cael ei newid i bob 36 mis? A ddylwn i gael fy ngweld yn gynt?

Gan fod y clinig colposgopi wedi archwilio’ch ceg y groth a heb ddod o hyd i unrhyw newidiadau, nid oes angen i ni eich gweld am gyfnod o 36 mis.

Mae tystiolaeth yn dangos ei bod yn cymryd tua 15 i 20 mlynedd i newidiadau i’r celloedd ddatblygu’n ganser ceg y groth mewn pobl â system imiwnedd arferol o’r adeg y cânt eu heintio ag HPV.

Mae gen i HPV parhaus. A allwn i ddatblygu canser ceg y groth sy’n gysylltiedig ag HPV yn ystod y tair blynedd nesaf?

Mae’r clinig colposgopi wedi archwilio’ch ceg y groth ac ni ddaeth o hyd i unrhyw newidiadau. Mae tystiolaeth yn dangos ei bod yn cymryd tua 15 i 20 mlynedd o’r cyfnod y caiff pobl â system imiwnedd normal eu heintio cyn y byddant yn datblygu canser ceg y groth. Felly mae’n annhebygol iawn y byddwch yn datblygu canser ceg y groth sy’n gysylltiedig ag HPV yn ystod y tair blynedd nesaf.

Darganfuwyd Feirws Papiloma Dynol (HPV) risg uchel, gwelwyd newidiadau i’r celloedd

Mae fy llythyr yn dweud fy mod yn HPV positif ac mae newidiadau gradd isel i’r celloedd. Beth mae hynny’n ei olygu?

Mae eich prawf wedi dangos rhai mân newidiadau (gradd isel) i’ch celloedd. Mae angen archwilio ymhellach i hyn mewn clinig Colposgopi.

Gall darganfod bod gennych newidiadau i’r celloedd fod yn destun pryder. Mae’n bwysig nodi nad yw newidiadau i’r celloedd yn ganser ceg y groth. Nid yw newidiadau i’r celloedd yn golygu y byddwch yn datblygu canser ceg y groth chwaith.  Bydd y rhan fwyaf o’r newidiadau i’r celloedd yn gwella ar eu pen eu hunain neu wrth gael eu trin.

Mae fy llythyr yn dweud fy mod yn HPV positif ac mae newidiadau Gradd Isel i’r celloedd. Ydy hynny’n golygu bod gen i ganser ceg y groth?

Nac ydy. Mae eich prawf wedi dangos rhai mân newidiadau i’ch celloedd (gradd isel), ond nid yw hyn yn golygu bod gennych ganser ceg y groth.

Nid yw newidiadau i’r celloedd yn golygu y byddwch yn datblygu canser ceg y groth chwaith. Bydd y rhan fwyaf o’r newidiadau i’r celloedd yn gwella ar eu pen eu hunain neu wrth gael eu trin.

Rwyf wedi cael fy atgyfeirio at y clinig Colposgopi. Beth yw ystyr hyn?

Mae eich prawf wedi dangos rhai newidiadau i’r celloedd sy’n annhebygol iawn o fod yn ganser, ond mae angen eu harchwilio mewn clinig colposgopi. Mae colposgopi yn archwiliad sy’n edrych ar eich serfics (ceg y groth) yn fwy manwl. Bydd y colposgopydd yn chwilio am unrhyw newidiadau i geg y groth.

Beth fydd yn digwydd i mi yn y clinig colposgopi?

Byddwch yn cael eich archwilio gan nyrs neu feddyg o’r enw Colposgopydd. Bydd yn defnyddio colposgop, sy’n edrych fel pâr o ysbienddrych ar stand, i chwilio am newidiadau i’r celloedd. Mae cael colposgopi yn debyg iawn i gael prawf sgrinio serfigol (ceg y groth). Os bydd y Colposgopydd yn gweld unrhyw newidiadau i’r celloedd, mae’n bosibl y bydd yn cymryd biopsi (darn bach o’r croen). Weithiau, byddwch yn cael cynnig triniaeth yn ystod eich ymweliad cyntaf.

Ewch i’n tudalen Colposgopi a Thriniaeth i gael rhagor o wybodaeth.

Darganfuwyd Feirws Papiloma Dynol (HPV) risg uchel, ni chasglwyd digon o gelloedd

Mae fy llythyr yn dweud fy mod yn HPV positif, ond nid oeddech yn gallu archwilio fy nghelloedd. Pam na allech archwilio fy nghelloedd am unrhyw newidiadau?

Weithiau, yn ystod y prawf sgrinio serfigol (ceg y groth), ni fydd y nyrs neu’r meddyg yn gallu casglu digon o gelloedd o’r geg y groth. Mae hyn yn golygu nad oes modd archwilio’r sampl am newidiadau i’r celloedd, felly nid oes modd rhoi canlyniad cywir. Dylech fynd i gael prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) arall ymhen tri mis.

Rwyf wedi cael fy nghynghori i aros am dri mis cyn cael prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) arall. Pam mae angen i mi aros?

Rydym yn gofyn i bob unigolyn aros 12 wythnos i alluogi’r celloedd ceg y groth i dyfu’n ôl. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y bydd gennym ddigon o gelloedd i’w harchwilio yn ystod eich prawf nesaf.

Rwyf wedi cael fy nghynghori i aros am dri mis cyn cael prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) arall. A yw aros yn beryglus?

Rydym yn deall y gall gorfod aros beri pryder i chi os byddwch wedi cael canlyniad HPV positif. Mae’n bwysig eich bod yn aros 12 wythnos i alluogi’r celloedd ar geg y groth i dyfu’n ôl. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gallwn roi canlyniad cywir i chi.

Os ydych yn bryderus iawn, siaradwch â’r meddyg neu’r nyrs a gymerodd eich sampl neu cysylltwch â’r nyrs sgrinio serfigol ranbarthol, a fydd yn rhoi cyngor i chi am eich hanes sgrinio unigol.

Mae fy llythyr yn dweud fy mod yn HPV positif, ond nid oeddech yn gallu archwilio fy nghelloedd. Ydy hi’n bosibl fod gen i ganser ceg y groth?

Gan eich bod yn HPV positif a chan nad ydym wedi archwilio’ch celloedd, ni allwn roi canlyniad manwl gywir i chi. Mae canser serfigol yn anghyffredin iawn, fodd bynnag rydym yn deall y gall oedi cyn derbyn canlyniadau eich prawf beri pryder i chi.

Os ydych yn pryderu am hyn, siaradwch â’r meddyg neu’r nyrs a gymerodd eich sampl neu cysylltwch â’r nyrs sgrinio serfigol ranbarthol a all roi cyngor i chi yn seiliedig ar eich hanes sgrinio personol.  Mae’n bwysig nad ydych yn cael ail brawf sgrinio serfigol o fewn 12 wythnos i gael eich prawf sgrinio gwreiddiol er mwyn galluogi’r celloedd i dyfu’n ôl.

Dydw i ddim yn hoffi cael prawf sgrinio serfigol. Ydy hi’n bwysig fy mod yn dychwelyd am brawf sgrinio serfigol?

Ydy. Mae’n bwysig eich bod yn mynd i gael prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) arall. Mae hyn oherwydd ein bod wedi dod o hyd i Feirws Papiloma Dynol (HPV) risg uchel yn eich sampl. Gall y feirws hwn achosi newidiadau i’r celloedd ceg y groth, a all dros amser, os na chânt eu trin, ddatblygu’n ganser ceg y groth.

Canlyniad Feirws Papiloma Dynol risg uchel ddim ar gael/yn annibynadwy

Mae fy llythyr yn dweud nad oedd modd i chi brofi fy sampl ar gyfer HPV. Pam na allech chi brofi fy sampl?

Mae nifer o resymau a allai esbonio pam nad oedd modd i ni brofi eich sampl. Yn aml, bydd hyn oherwydd gwall a wnaed gan y person a gymerodd eich sampl neu broblem gyda’r ffiol yr anfonwyd eich sampl ynddi.

Oherwydd canlyniadau eich prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) blaenorol, rydym wedi eich atgyfeirio at glinig colposgopi i archwilio’ch serfics (ceg y groth) am unrhyw newidiadau, felly mae’n bwysig eich bod yn mynd i’ch apwyntiad

Nid wyf yn hoffi mynd am brofion sgrinio serfigol. A yw’n bwysig fy mod yn mynd i gael prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) arall?

Ydy, gan fod angen i ni wneud y prawf eto er mwyn gallu rhoi’r canlyniad i chi. Mae angen i ni allu gwirio a oes HPV gennych, er mwyn atal canser ceg y groth rhag datblygu.

Pam ydw i wedi cael fy ngalw yn ôl i’r clinig Colposgopi yn lle mynd am brawf sgrinio serfigol (ceg y groth) arall? Oes rhywbeth o’i le?

Gan na fu modd i ni roi canlyniad i chi o’ch dau brawf sgrinio serfigol (ceg y groth) diwethaf, rydym wedi eich atgyfeirio yn ôl at y clinig colposgopi gan fod angen i ni sicrhau nad oes unrhyw newidiadau i’ch serfics (ceg y groth).

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 17eg Chwefror 2026