Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau cyffredin sgrinio llygaid diabetig - Ar ôl eich apwyntiad sgrinio llygaid diabetig

Pwy fydd yn cael fy nghanlyniadau sgrinio llygaid diabetig?

Byddwch yn cael eich canlyniadau yn y post.  Bydd eich meddyg a’ch arbenigwr diabetes (os oes un gennych chi) hefyd yn cael copi.

Os bydd angen i chi gael eich atgyfeirio byddwn yn anfon eich canlyniadau at yr arbenigwr llygaid.

Beth sy’n digwydd os oes gennyf retinopatheg diabetig?

Yn dibynnu ar lefel y retinopatheg diabetig, efallai y cewch eich atgyfeirio i glinig llygaid arbenigol ar gyfer asesiad pellach a thriniaeth.

Gall prawf sgrinio llygaid ganfod retinopatheg nad oes angen ei drin o bosibl.  Mae rhan fwyaf o bobl â retinopatheg yn cael eu monitro drwy apwyntiadau sgrinio blynyddol ac nid oes angen eu hatgyfeirio am asesiad pellach neu driniaeth.

Sut y gellir trin retinopathi diabetig?

Os cewch eich atgyfeirio at arbenigwr llygaid (Offthalmolegydd), bydd yn trafod eich opsiynau triniaeth gwahanol gyda chi.

Nid wyf wedi cael fy nghanlyniadau sgrinio eto, beth ddylwn i ei wneud?

Cysylltwch â ni os nad ydych wedi cael eich canlyniadau o fewn wyth wythnos.

A all sgrinio llygaid fy atal rhag cael retinopathi?

Ni fydd prawf sgrinio llygaid diabetig yn eich atal rhag cael retinopathi.

Mae profion sgrinio llygaid diabetig yn edrych am retinopathi diabetig cyn i unrhyw symptomau ymddangos.  Mae dod o hyd i newidiadau cynnar yn golygu y gallwch gael triniaeth i’ch atal rhag colli eich golwg.

A oes angen sgrinio pawb sydd â diabetes?

Oes.  Bydd pawb sy’n 12 oed neu’n hŷn sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes ac sydd wedi’u cofrestru gyda meddyg yng Nghymru yn cael cynnig prawf sgrinio llygaid diabetig rheolaidd am ddim.

Ni fydd pobl sydd â’r cyflyrau canlynol yn cael eu gwahodd:

  • Diabetes yn ystod beichiogrwydd, sy’n gyflwr dros dro.
  • Cyn-ddiabetes (a elwir hefyd yn oddefiad diffygiol i glwcos), sy’n gyflwr metabolig lle mae gennych lefelau glwcos gwaed uwch na’r arfer.

Efallai y bydd rhai pobl nad oes ei angen yn cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio llygaid diabetig. Siaradwch â’ch gweithiwr iechyd proffesiynol os ydych yn teimlo na fyddai unrhyw fantais i chi fynd i gael prawf sgrinio llygaid diabetig.

Os ydych yn cael eich trin ar gyfer retinopathi diabetig, nid oes angen i chi gael eich sgrinio.  Byddwch yn cael eich ail-wahodd unwaith y byddwch wedi eich rhyddhau.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 24ain Mawrth 2026