Neidio i'r cynnwys

Brechlynnau sy'n cynnwys y frech goch, clwy'r pennau, rwbela a brech yr ieir (MMRV ac MMR) - Gwybodaeth brechlynnau MMRV ac MMR ar gyfer weithwyr iechyd

Cyflwyno rhaglen brechu rhag varicella (MMRV) reolaidd ar gyfer babanod a phlant bach.

Varicella (chickenpox) is a highly contagious disease caused by the varicella zoster virus that occurs Mae varicella (brech yr ieir) yn glefyd heintus iawn a achosir gan y feirws varicella zoster sy’n digwydd amlaf mewn plant ifanc. Mae varicella fel arfer yn ymddangos gyda brech goslyd, bothellog, sy’n dilyn twymyn ac anhwylder. Mae’r rhan fwyaf o achosion mewn plant yn ysgafn ac yn hunangyfyngedig. Fodd bynnag, mae rhai plant yn datblygu cymhlethdodau, gan gynnwys haint bacteriol o friwiau croen (gan gynnwys streptococws grŵp A) ac mewn achosion prin, enseffalitis, niwmonitis a strôc. Gall y cymhlethdodau hyn arwain at arhosiad yn yr ysbyty ac yn anaml iawn, gallant arwain at farwolaeth. 

Mae gwir raddau’r arosiadau yn yr ysbyty a achosir gan varicella wedi’u tanamcangyfrif trwy ffynonellau data arferol oherwydd gwallau codio. Mae llawer o dderbyniadau i’r ysbyty oherwydd cymhlethdodau eilaidd na chânt eu cofnodi fel derbyniad i’r ysbyty sy’n gysylltiedig â varicella. Efallai y bydd cymhlethdodau ychwanegol sy’n cael eu deall yn llai hefyd yn cael eu colli yn y data cyfredol. Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn bwyllgor cynghori gwyddonol arbenigol, sy’n cynghori llywodraeth y DU ar faterion yn ymwneud â brechu ac imiwneiddio. Adolygodd JCVI dystiolaeth o ddata rhaglenni varicella rhyngwladol, modelu cost-effeithiolrwydd, a baich y clefyd yn y DU. Maent wedi argymell cyflwyno rhaglen brechu reolaidd rhag varicella yn y DU a fydd yn dechrau ar 1 Ionawr 2026. Y brechlyn a ddefnyddir yw MMRV, sy’n helpu i amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau, rwbela, a varicella (brech yr ieir).  

Mae rhaglen dal i fyny MMRV ddetholus ar gyfer plant hŷn i helpu i gyflymu rheolaeth ac i leihau trosglwyddiad pellach yn y boblogaeth. Bydd plant yn cael eu gwahodd a’u hannog i gael eu brechu os nad ydyn nhw wedi cael brechlyn rhag brech yr ieir, na’r clefyd ei hun, eto. 

Fel y dangoswyd mewn gwledydd eraill sy’n cynnwys brechlyn rhag varicella yn eu hamserlen frechu reolaidd, rhagwelir y bydd amserlen MMRV dau ddos ​​​​yn lleihau nifer yr achosion o haint varicella a welir mewn plant yn sylweddol. Bydd y rhaglen yn atal achosion difrifol, a chymhlethdodau difrifol eraill sy’n gysylltiedig â varicella, er eu bod yn anghyffredin, a allai fod wedi arwain at arhosiad yn yr ysbyty neu ganlyniadau difrifol eraill fel arall. 

  • Mae’r brechlyn MMRV yn helpu i amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a brech yr ieir. 
  • Mae’r brechlyn MMR yn helpu i amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela.  

O 1 Ionawr 2026 ymlaen, mae’r brechlyn MMRV yn disodli’r brechlyn MMR yn yr amserlen imiwneiddio reolaidd i blant yng Nghymru. 

Pryd y dylid rhoi’r brechlynnau? 

O 1 Ionawr 2026: 

Brechiadau rheolaidd

  • Rhoddir y dos cyntaf o MMRV i fabanod yn 12 mis oed a’r ail ddos ​​yn 18 mis oed
  • Mae’r ymweliad yn 18 mis oed yn apwyntiad brechu newydd. Yn ystod yr ymweliad hwn, rhoddir pedwerydd dos o’r brechlyn amlfalent 6-mewn-1 (diftheria, tetanws, y pas, polio, Hib, a hepatitis B) hefyd. 

Brechiadau dal i fyny rhag brech yr ieir ar gyfer plant cymwys 

Mae rhaglen dal i fyny MMRV ddetholus ar gyfer plant hŷn yn hŷn na 3 blwydd a 4 mis oed i ychydig o dan 6 oed ar 1 Ionawr 2026 (DYDDIAD GENI: 01.01.2020 – 31.08.2022) i helpu i gyflymu rheolaeth ac i leihau trosglwyddiad brech yr ieir ymhellach yn y boblogaeth. Bydd y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno rhwng 1 Tachwedd 2026 a 31 Mawrth 2028. 

Brechiadau anarferol 

Nid yw’r brechlyn MMR ar gael mwyach ar gyfer rhaglen imiwneiddio reolaidd i blant y GIG o 1 Ionawr 2026 ymlaen.

Mae’r brechlyn MMR yn dal i fod ar gael i’w roi y tu allan i’r rhaglen imiwneiddio reolaidd i blant ar gyfer y bobl sydd ei angen. Mae hyn yn cynnwys plant hŷn ac oedolion nad ydynt wedi cael dau ddos ​​o MMR ac nad ydynt yn gymwys i gael MMRV.

Y clefydau 

Mae’r frech goch, clwy’r pennau a rwbela yn glefydau hysbysadwy yng Nghymru.  

Y brechlynnau  

Brechlyn MMRV – y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a varicella (brech yr ieir) 

Mae’r brechlyn MMRV yn frechlyn cyfun diogel ac effeithiol sy’n helpu i amddiffyn rhag pedwar clefyd difrifol, sef – y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a brech yr ieir. Mae’r brechlyn yn cynnwys feirysau gwanedig byw’r frech goch, clwy’r pennau, rwbela a varicella. 

Mae MMRV wedi cael ei ddefnyddio mewn gwledydd eraill gan gynnwys UDA, Canada, Awstralia a’r Almaen ers blynyddoedd lawer. Mae gwledydd sydd wedi gweithredu rhaglenni brechu rhag varicella wedi nodi gostyngiad sylweddol mewn achosion o varicella a’r derbyniadau i’r ysbyty cysylltiedig. 

Crynodeb o nodweddion cynnyrch y brechlyn MMRV  

Mae amserlen imiwneiddio reolaidd i blant y GIG yng Nghymru yn defnyddio dau frechlyn MMRV, sef: 

Ystyrir bod y brechlynnau’n gyfwerth yn glinigol ac yn gyfnewidiol, er y gallai Priorix-Tetra® fod yn well i blant nad ydynt yn derbyn gelatin porc. 

Bydd Priorix-Tetra® yn parhau i fod ar gael i gwsmeriaid sy’n gwasanaethu cymunedau nad ydynt yn derbyn brechlynnau sy’n cynnwys gelatin porc. Gall archebu Priorix-Tetra® trwy ImmForm fod yn destun cap; fodd bynnag, darperir opsiwn i ofyn am gynnydd. 

Ni chynigir brechlyn ‘varicella yn unig’ yn rhaglenni rheolaidd na dethol y GIG. 

Brechlyn MMR – y frech goch, clwy’r pennau a rwbela 

Mae’r brechlyn MMR yn frechlyn cyfun sefydledig, diogel ac effeithiol sy’n helpu i amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela. Mae’r brechlyn yn baratoad byw o’r frech goch, clwy’r pennau a rwbela wedi’u sychrewi ar ffurf brechlyn gwanedig byw.  

Mae’r brechlyn MMR yn hynod effeithiol ac mae ganddo hanes diogelwch rhagorol. Ers iddo gael ei gyflwyno ym 1988, mae’r frech goch, clwy’r pennau a rwbela wedi dod yn anghyffredin yn y DU. Ond weithiau mae achosion yn digwydd, yn enwedig y frech goch, pan nad yw digon o bobl yn cael eu brechu.  

Crynodeb o nodweddion cynnyrch y brechlyn MMR  

Defnyddir dau frechlyn MMR yn y DU ar hyn o bryd. Y rhain yw MMR  ar hyn o bryd  a elwir yn MMRvaxPro® a Priorix®. Mae MMRvaxPro® yn cynnwys gelatin porc. Nid yw Priorix® yn cynnwys gelatin.   

Mae canllawiau yn y Llyfr Gwyrdd yn disodli’r crynodeb o nodweddion cynnyrch (SmPC).  

Mae rhagor o wybodaeth am y brechlynnau sy’n cynnwys MMR ar gael ym mhenodau’r Llyfr Gwyrdd ar gyfer pob clefyd. Gweler yr adran Adnoddau a gwybodaeth glinigol.  

Dylai pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sicrhau bod pob cyswllt yn cyfrif a manteisio ar gyfleoedd presennol i wirio statws brechu a rhoi neu drefnu brechiadau sy’n cynnwys MMR ar gyfer:  

  • pob plentyn ac oedolyn ifanc nad yw wedi cael ei frechu 
  • newydd-ddyfodiaid i’r DU wrth gofrestru gyda phractis cyffredinol ac yn ystod asesiadau mewnfudo  
  • menywod ôl-enedigol trwy asesiadau gan ymwelwyr iechyd ac apwyntiadau chwe wythnos ar ôl geni’r baban  
  • menywod sy’n defnyddio gwasanaethau cyn cenhedlu neu ffrwythlondeb.  
  • Dylid defnyddio’r brechlyn MMR i amddiffyn menywod o oedran magu plant a gweithwyr gofal iechyd rhag haint rwbela.  

Adrodd am sgil-effeithiau brechlynnau sy’n cynnwys MMR 

Mae’n bwysig rhoi gwybod am adweithiau niweidiol a amheuir ar ôl awdurdodi’r cynnyrch meddyginiaethol. Mae’n galluogi i’r cydbwysedd budd/risg y cynnyrch meddyginiaethol gael ei fonitro’n barhaus. Dylech adrodd am amheuon am adweithiau niweidiol i frechlynnau a meddyginiaethau ar-lein (Saesneg yn unig), trwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 5yh).  

Cwestiynau Cyffredin 

Rhaglen MMRV: gwybodaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol  (Saesneg yn unig)  

Canllawiau

Am fanylion ynghylch newidiadau i’r amserlen imiwneiddio reolaidd i blant, gweler: 

Canllawiau’r Pwyllgor Cydweithredol ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) 

 Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru 

Canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru 

Gellir dod o hyd i bolisi a chanllawiau hefyd ar dudalen Polisi, llythyrau a Llywodraeth Cymru SharePoint Iechyd Cyhoeddus Cymru (mynediad i staff gofal iechyd y GIG)  

Mae’r Amserlen Imiwneiddio Reolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am frechiadau rheolaidd a’r rhai nad ydynt yn rheolaidd. 

Adnoddau hyfforddi a digwyddiadau 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu sesiynau codi ymwybyddiaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ar y brechlyn MMRV a’r frech goch: 

  • Setiau Sleidiau wedi’u Recordio  
  • Gweminarau 
  • Sleidiau hyfforddi 

Gellir cael mynediad at y rhain trwy’r dudalen E-ddysgu a’r dudalen Adnoddau Hyfforddi a Digwyddiadau

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

Adnoddau ar y frech goch 

Adnoddau ar glwy’r pennau 

Adnoddau ar rwbela 

Adnoddau ar varicella (brech yr ieir) 

Adnoddau brechlyn MMRV

Adnoddau MMR ar gyfer carchardai

Cyfarwyddiadau grwp cleifion a phrotocolau

Gellir dod o hyd i dempledi brechlyn PGD a Dogfennau Cynghori ar gyfer Cymru ar wefan Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru. 

Rhagor o adnoddau a gwybodaeth clinigol

Rhaglen frechu dal fyny ar gyfer plant oedran ysgol

Data a goruchwyliaeth

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 20fed Ionawr 2026