Neidio i'r cynnwys

Brechlynnau sy'n cynnwys y frech goch, clwy'r pennau, rwbela a brech yr ieir (MMRV ac MMR) - Diogelwch ac effeithiolrwydd  brechlynnau MMRV ac MMR

Mae gan y brechlynnau sy’n cynnwys MMR (MMRV ac MMR) fathau gwanedig o feirysau byw. Mae pob meddyginiaeth a brechlyn wedi bodloni safonau diogelwch llym i’w defnyddio yn y DU ac maent yn ddiogel iawn.

Fel gyda phob meddyginiaeth a brechlyn, caiff unrhyw adroddiadau o sgil-effeithiau eu monitro a’u hadolygu’n agos. 

Sgil-effeithiau

Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau, ond nid yw pawb yn eu cael. Mae’r rhan fwyaf o’r sgil-effeithiau yn ysgafn a byddant fel arfer yn gwella ar ôl diwrnod neu ddau. Mae sgil-effeithiau fel arfer yn llai cyffredin ar ôl yr ail ddos. 

Mae’r sgil-effeithiau mwyaf cyffredin yn cynnwys

  • dolur, cochni a chwydd neu gleisio lle cafodd y pigiad ei roi 
  • twymyn
  • brech, a 
  • thymer flin

Gall y mathau gwanedig o feirysau yn y brechlynnau sy’n cynnwys MMR weithio ar adegau gwahanol. Mae sgil-effeithiau fel twymyn a brech yn fwy cyffredin ar ôl y dos cyntaf. Gall y rhain ddigwydd:  

  • Tua 6 – 11 diwrnod ar ôl y brechlyn (o ganlyniad i’r rhan sy’n cynnwys y frech goch) 
  • Tua 2 – 3 wythnos ar ôl y brechlyn (o ganlyniad i’r rhan sy’n cynnwys clwy’r pennau a rwbela) 
  • Tua 3 – 4 wythnos ar ôl y brechlyn (o ganlyniad i’r rhan sy’n cynnwys brech yr ieir) 

Gall brech fach brech yr ieir ymddangos yn agos at y man lle rhoddir y pigiad ar ôl y brechlyn MMRV. Gall plant fynd i’r ysgol neu i leoliad gofal plant o hyd ond, dylid gorchuddio unrhyw smotiau, er mwyn bod yn ddiogel.  

Sgil-effeithiau anghyffredin iawn 

Gall brech debyg i frech yr ieir ymledu dros gorff plentyn mewn achosion anghyffredin iawn.  Os bydd hyn yn digwydd, dylai unrhyw un sydd â system imiwnedd wan sydd wedi dod i gysylltiad agos â’r plentyn geisio cyngor meddygol. 

Gall ffitiau (trawiadau) ddigwydd pan fydd plentyn yn datblygu tymheredd uchel wedi’i achosi gan afiechyd plentyndod cyffredin, fel brech yr ieir. Ni fydd y rhain yn para’n hir iawn fel arfer ac ni fyddant yn achosi problemau iechyd hirdymor. Gall plant gael ffit fer wedi’i hachosi gan dwymyn ar ôl y dos cyntaf o’r brechlyn MMRV. Mae hyn yn anghyffredin ac yn digwydd mewn tua un o bob 1,000 o blant. Nid yw’r ffitiau hyn yn niweidiol fel arfer ond bydd angen rhoi sylw meddygol iddynt. I gymharu, bydd tua un o bob 43 o blant sy’n dal y frech goch yn cael ffit wedi’i hachosi gan dwymyn. 

Adroddwyd am chwydd yn yr ymennydd (enseffalitis) ar ôl cael brechiad MMRV mewn achosion anghyffredin iawn. Fodd bynnag, os bydd plentyn nad yw wedi cael ei frechu yn dal y frech goch, mae’r siawns o gael enseffalitis rhwng un mewn 200 ac un mewn 5,000. 

Ceisiwch gymorth meddygol ar unwaith os bydd eich plentyn yn profi un o’r symptomau canlynol: 

  • Ffitiau (trawiadau) 
  • Llewygu  
  • Yn llai effro 
  • Colli rheolaeth ar y corff, ynghyd â thwymyn a chur pen/pen tost  

Rhowch wybod i’r staff fod eich plentyn wedi cael y brechlyn MMRV os byddwch yn ceisio cymorth meddygol. 

Yn anghyffredin iawn, gall pobl gael adwaith difrifol yn fuan ar ôl y brechiad, sy’n achosi anawsterau anadlu a gall beri iddynt lewygu. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig. Gall ddigwydd hefyd gyda meddyginiaethau eraill a bwyd. Mae’r adweithiau hyn yn hynod o anghyffredin, ac yn effeithio ar lai nag un mewn miliwn o bobl. Mae staff sy’n rhoi brechiadau wedi’u hyfforddi i reoli’r adweithiau hyn.  

Gall pobl sy’n cael adwaith anaffylactig gael eu trin yn llwyddiannus ac fel arfer maent yn gwella o fewn ychydig oriau.    

I’r rhan fwyaf o bobl, mae manteision cael eu brechu yn llawer mwy na’r risgiau o fod heb amddiffyniad. 

Dysgu rhagor am sgil-effeithiau

Mae’r holl sgil-effeithiau wedi’u cynnwys yn y daflen wybodaeth i gleifion ar gyfer y brechlyn. I gael rhagor o wybodaeth am y sgil-effeithiau, ewch i: 

Brechlyn MMRV 

Brechlyn MMR 

Os bydd gennych gwestiynau am sgil-effeithiau, gallwch ofyn i’r unigolyn a fydd yn rhoi’r brechlyn i chi.    

Os bydd y symptomau’n gwaethygu neu os ydych chi’n pryderu, ymddiriedwch yn eich greddfau -ceisiwch gymorth meddygol ar unwaith. Ffoniwch GIG 111 Cymru ar 111 neu eich practis meddygon teulu. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol. 

Dylech roi gwybod ar-lein (Saesneg yn unig) am sgil-effeithiau a amheuir brechlynnau a meddyginiaethau, drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 5yh).

A yw’n bosibl cael y frech goch, clwy’r pennau, rwbela neu frech yr ieir ar ôl cael eich brechu?

Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o ganlyniad i’r frech gochclwy’r pennau, rwbela a brech yr ieir. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau’r clefydau hyn, hyd yn oed os ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich brechu.

A oes cysylltiad rhwng brechlynnau sy’n cynnwys MMR ac awtistiaeth?

Ni ddylech chi boeni am hyn. Nid oes tystiolaeth o gysylltiad rhwng brechlynnau sy’n cynnwys MMR ac awtistiaeth.

Dywed y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol “nad oes cysylltiad rhwng awtistiaeth a brechlynnau”. Mae yna lawer o astudiaethau sydd wedi ymchwilio i hyn. Mae gan Wybodaeth Brechlynnau Prifysgol Rhydychen (Saesneg yn unig) wefan o astudiaethau MMR i chi edrych arni.  

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 20fed Ionawr 2026