Neidio i'r cynnwys

Brechlyn y rotafeirws - Am frechlyn y rotafeirws

Rhoddir brechlyn y rotafeirws i helpu i amddiffyn eich babi rhag haint y rotafeirws.

Mae bron pob plentyn wedi cael y rotafeirws erbyn eu bod yn bump oed. Mae nifer yr achosion o’r rotafeirws yr adroddir amdanynt wedi gostwng dros 70% ers i’r brechlyn gael ei gyflwyno i raglen plentyndod y DU.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y brechlyn a’r afiechyd mae’n amddiffyn yn ei erbyn ar wefan GIG 111 Cymru neu ewch i wefan Sefydliad Iechyd y Byd.

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Rhoddir y brechlyn rotafeirws i fabanod fel rhan o’u himiwneiddio rheolaidd yn ystod plentyndod. Cynigir brechlyn y rotafeirws i’ch babi yn wyth a 12 wythnos oed.

Mae angen dau frechlyn y rotafeirws ar eich babi o leiaf bedair wythnos ar wahân i gael ei amddiffyn yn llawn. Os bydd yn methu’r dos cyntaf, gall ei gael hyd at 15 wythnos oed. Os bydd yn methu’r ail ddos, gall ei gael hyd at 24 wythnos oed. Ni ddylid defnyddio Rotarix mewn plant dros 24 wythnos oed.

Diogelwch ac effeithiolrwydd

Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal dolur rhydd difrifol a chwydu a achosir gan haint rotafeirws. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau’r haint rotafeirws, hyd yn oed os ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich brechu. Ewch i’r dudalen rotafeirws i ddysgu mwy am arwyddion a symptomau rotafeirws.

Sgîl-effeithiau’r brechlyn

eithiau gall babanod sy’n cael y brechlyn fynd yn aflonydd ac yn bigog, a gall rhai ddatblygu dolur rhydd ysgafn.

Yn anaml iawn (rhwng 1 a 6 o bob 100,000 o fabanod sy’n cael eu brechu), gall brechlyn y rotafeirws effeithio ar goluddyn (bowel) babi, a gall ddatblygu anhwylder perfedd prin o’r enw llawesiad. Mae hyn yn achosi rhwystr yn y coluddyn.

Dyma symptomau llawesiad:

  • peon bol;
  • bod yn sâl; a
  • pŵ sy’n edrych fel jeli cyrens coch yng nghewyn y babi

Os bydd hyn yn digwydd, cysylltwch â’ch meddyg ar unwaith.

Mae adweithiau eraill yn brin. I gael rhagor o wybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin a phrin, ewch i daflen gleifion Rotarix.

Os ydych chi’n bryderus am symptomau, ffoniwch GIG 111 Cymru ar 111 neu eich meddygfa. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

Gallwch chi rhoi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy gynllun y Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy fynd i wefan Yellow Card neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 16eg Mai 2025