Neidio i'r cynnwys

Brechlyn Meningococol B (MenB) ar gyfer gonoroea - Am gonoroea

Mae gonoroea yn haint a all ledaenu yn ystod gweithgarwch rhywiol heb gondom.  

Mae brechlyn ar gael i helpu i amddiffyn rhag gonoroea. Yng Nghymru, mae’r GIG yn cynnig y brechlyn fesul achos i ddynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion (GBMSM). 

Efallai y bydd pobl eraill hefyd yn gymwys i gael y brechlyn, yn seiliedig ar gyngor gan weithiwr proffesiynol iechyd rhywiol. 

Byddwch yn cael cynnig y brechlyn os ydych:  

  • wedi cael haint bacteriol o ganlyniad i ryw, fel clamydia neu gonoroea, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, neu  
  • wedi cael pump neu fwy o bartneriaid rhywiol yn ystod y tri mis diwethaf. 

Gall y brechlyn helpu i leihau eich siawns o gael gonoroea ond ni fydd yn dileu’r risg yn llwyr. Mae hefyd yn helpu i amddiffyn rhag heintiau difrifol eraill, fel llid yr ymennydd (haint yn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn) a septisemia (gwenwyn y gwaed). 

Gweithredu: Os ydych yn meddwl eich bod mewn perygl, siaradwch â’ch gwasanaeth iechyd rhywiol.  

Gallwch ddod o hyd i restr o wasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru ar wefan GIG 111 Cymru (safle allanol).

Beth yw gonoroea a sut mae’n lledaenu?

Haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI) yw gonoroea sy’n lledaenu pan fydd pobl yn cael rhyw drwy’r wain, rhyw drwy’r geg, rhyw yr anws neu ryw heb gondom. Gall hefyd ledaenu wrth rannu dyfeisiau sy’n dirgrynu neu deganau rhyw eraill nad ydynt wedi cael eu golchi na’u gorchuddio â chondom newydd bob tro y cânt eu defnyddio. 

Mae gonoroea yn un o’r heintiau bacteriol mwyaf cyffredin a drosglwyddir yn rhywiol yn y DU. Yn anffodus, mae’n mynd yn fwy anodd ei drin. Mewn rhai achosion, nid yw gwrthfiotigau a ddefnyddir yn gyffredin yn gweithio mwyach. 

Oeddech chi’n gwybod? Bod dros 5,000 o bobl yng Nghymru wedi cael diagnosis o gonoroea yn 2023. 

Mae gonoroea yn cael ei ddiagnosio amlaf ymysg pobl rhwng 15 a 24 oed ac mewn GBMSM. Fodd bynnag, gall unrhyw un sy’n cael rhyw heb ddiogelwch gyda phartner heintiedig gael yr haint. Gall gonoroea hefyd ledaenu drwy gysylltiad â rhedlif heintiedig o’r pidyn neu’r wain.

Sut fyddaf yn gwybod bod gen i gonoroea?

Gall gonoroea achosi symptomau yn yr organau cenhedlu, yr anws, y gwddf neu’r llygaid. Efallai y byddwch chi’n cael poen neu redlif anarferol yn yr ardaloedd hyn. Gall symptomau amrywio yn dibynnu ar ba ran o’r corff yr effeithir arni. 

Mae symptomau cyffredin sy’n effeithio ar yr organau cenhedlu yn cynnwys:  

  • poen neu losgi wrth wneud dŵr, a 
  • hylif neu redlif gwyrdd neu felyn trwchus o’r pidyn neu’r wain.  

Fel arfer, bydd symptomau gonoroea yn ymddangos ymhen pythefnos o gael yr haint, ond weithiau ni fyddant yn ymddangos tan fisoedd lawer yn ddiweddarach.  

Oeddech chi’n gwybod? Y gallwch gael gonoroea heb fod â symptomau a dal i’w drosglwyddo i’ch partneriaid rhywiol. 

Os na chaiff ei ddiagnosio a’i drin, gall gonoroea achosi problemau iechyd difrifol, fel heintiau poenus yn y ceilliau ymysg dynion ac anffrwythlondeb ymysg dynion a menywod. Gall hefyd gynyddu eich risg o gael heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol, gan gynnwys HIV. 

Am ragor o wybodaeth am arwyddion a symptomau gonoroea, ewch i ircymru.online/am-gonorea (safle allanol).

Os ydych yn meddwl bod gennych gonoroea, ewch i NHS 111 Wales (safle allanol) neu cysylltwch â’ch gwasanaeth iechyd rhywiol lleol neu bractis meddyg teulu i wneud apwyntiad.

Pwy sydd mewn mwy o berygl o ddal gonoroea?

Mae pawb sy’n cael rhyw heb ddiogelwch mewn mwy o berygl o ddal gonoroea. Mae Dynion Hoyw, Deurywiol, a Dynion sy’n Cael Rhyw gyda Dynion (GBMSM) sydd â nifer o bartneriaid rhywiol yn fwy tebygol o gael diagnosis o gonoroea.

Pa mor gyffredin yw gonoroea?

Mae gonoroea yn un o’r heintiau bacteriol mwyaf cyffredin a drosglwyddir yn rhywiol  yn y DU. Yn 2023, cafodd dros 5,000 o bobl yng Nghymru ddiagnosis o gonoroea.   

Mae gonoroea yn cael ei ddiagnosio amlaf ymysg pobl ifanc rhwng 15 a 24 oed a dynion GBMSM. Fodd bynnag, gall pawb sy’n cael rhyw heb ddiogelwch gyda phartner heintiedig ddal yr haint.

Sut ydw i’n amddiffyn fy hun ac eraill rhag gonoroea?

Un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn eich hun a’ch partner rhag gonoroea a heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol, gan gynnwys HIV, yw ymarfer rhyw diogel. Mae hyn yn cynnwys defnyddio condom ar gyfer rhyw drwy’r wain, rhyw yr anws neu ryw drwy’r geg. Mae hefyd yn bwysig cadw teganau rhyw yn lân a rhoi condom newydd arnynt bob tro y byddant yn cael eu defnyddio. 

Oeddech chi’n gwybod? Y gallwch gael condomau am ddim o wefan Iechyd Rhywiol Cymru. Ewch i ircymru.online (safle allanol) a dewiswch ‘Condomau’ o’r opsiynau ar frig y dudalen. 

Os ydych chi’n gymwys, gallwch chi hefyd gael y brechlyn i helpu i amddiffyn eich hun rhag gonoroea.  

Os oes gennych nifer o bartneriaid rhywiol, dylech gael eich profi’n rheolaidd am gonoroea. Os byddwch yn cael diagnosis o gonoroea, gwnewch yn siŵr eich bod yn gorffen eich cwrs llawn o driniaeth, yn unol â chyngor eich meddyg neu nyrs.

Os ydych yn poeni am eich risg o gael gonoroea neu os ydych am gael rhagor o wybodaeth, siaradwch â’ch clinig iechyd rhywiol lleol. Gallwch ddod o hyd i’ch clinig iechyd rhywiol agosaf ar wefan GIG 111 Cymru (safle allanol) 

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 1af Gorffennaf 2025