Neidio i'r cynnwys

Brechlyn ffliw - Canllawiau brechlyn ffliw ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal

Mae’r rhan fwyaf o’r brechlynnau ffliw sydd ar gael yn y DU yn anweithredol ac eithrio’r brechlyn ffliw byw wedi’i wanhau (LAIV) – dyma’r brechlyn sy’n cael ei roi i’r rhan fwyaf o blant cymwys. Yr enw brand ar gyfer y LAIV sydd ar gael yn y DU yw Fluenz®. Mae LAIV yn cynnwys feirysau byw sydd wedi’u gwanhau a’u haddasu’n oer fel mai dim ond yn nhymheredd is y llwybrau trwynol y gallant atgynhyrchu. 

Oherwydd natur gyfnewidiol feirysau’r ffliw, a newidiadau yn y straen sy’n cylchredeg ac yn achosi afiechyd, mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn monitro epidemioleg feirysau’r ffliw ledled y byd ac yn gwneud argymhellion blynyddol ynghylch pa straen y dylid ei chynnwys ar gyfer y gaeaf sydd i ddod.   

Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi cyhoeddi  cyfansoddiad a argymhellir ar gyfer brechlynnau feirws ffliw i’w defnyddio yn nhymor ffliw hemisffer y gogledd 2024-2025 (safle allanol) yn hemisffer y gogledd. 

Crynodeb o’r nodweddion cynnyrch

Mae nifer o frechlynnau ffliw anweithredol ar gael. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am bob brechlyn yn y crynodeb o nodweddion cynnyrch (SmPC) sydd ar gael yn y ddolen isod drwy roi enw’r brechlyn: 

Brechlynnau sy’n cael eu argymell

Arweiniad

Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod. 

Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar wefan llywodraeth DU (safle allanol) - darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch e.e. influenza.

Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru

Adnoddau hyfforddi

Modiwlau e-Ddysgu am y ffliw

  • Mae gan y modiwl e-ddysgu FluTwo enw newydd. Mewn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr, gelwir y modiwl hwn bellach yn Diweddariad Clinigol ar y Ffliw ar gyfer Cymru. Mae’r modiwl e-Ddysgu hwn yn addas ar gyfer pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys gweithwyr cymorth gofal iechyd sy’n imiwneiddio rhag y ffliw neu’n rhoi cyngor ar y pwnc. Dyma’r diweddariad clinigol ar gyfer Cymru ac mae wedi’i ddiweddaru ar gyfer tymor ffliw 2024-25. Mae’r modiwl hwn ar gael ar ESR ac ar y platfform Dysgu@Cymru.  
  • Mae gan y modiwl e-Ddysgu FluOne enw newydd a gwedd newydd hefyd! Enw’r modiwl bellach yw Gwybodaeth am y brechlyn ffliw ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Os ydych yn gweithio yn GIG Cymru, yn weithiwr iechyd nad yw’n gweithio i’r GIG, yn gweithio mewn cartref gofal, gofal cymdeithasol neu yn y sector gwirfoddol, bydd y modiwl hwn yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am y ffliw, a pham ei fod mor fuddiol i chi ac y rhai yr ydych yn gofalu amdanynt i gael y brechlyn ffliw. Mae’r modiwl hwn yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd a bydd ar gael ar y Cofnod Staff Electronig ac ar blatfform Dysgu@Cymru yn fuan.  

Bydd rhagor o wybodaeth am y modiwlau hyn a sut i gael mynediad atynt ar dudalen e-Ddysgu Imiwneiddio.

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

Gwybodaeth:

Cofiwch fod gwybodaeth am gymhwystra i gael brechlyn yng Nghymru a Lloegr yn wahanol.

Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau

Mae templedi Cyfarwyddiadau Grŵp Cleifion (PGD) ar gyfer y brechlyn ffliw ar gael ar dudalen Cyfarwyddydau Grŵp Cleifion Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru (safle allanol).

Adnoddau clinigol pellach a gwybodaeth

Y niferoedd sy’n cael y brechiad

Mae gwybodaeth am yr oruchwyliaeth ar y ffliw, gan gynnwys y niferoedd sy’n cael y brechiad, i’w gweld yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: Adroddiad wythnosol y ffliw a haint anadlol acíwt (I’w ddod yn fuan).

Mae posib defnyddio ‘cyflymderometr’ i ddangos data am y niferoedd sy’n cael brechiad y ffliw. Ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol a hoffai greu eu cyflymderometr eu hunain ar gyfer y niferoedd sy’n cael y brechiad, dyma dempled sy’n cynnwys cyfarwyddiadau.

Adnoddau templed ffliw

Anoddau hyrwyddwyr brechu

Data a goruchwyliaeth

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 18fed Chwefror 2026