Brechlyn ffliw - Brechlyn ffliw ar gyfer oedolion
Pryd ddylwn i gael brechiad y ffliw?
Mae brechlynnau ffliw ar gael fel arfer tua diwedd mis Medi neu ddechrau mis Hydref bob blwyddyn. Yn ddelfrydol, dylech gael eich brechlyn ffliw cyn i ffliw ddechrau lledaenu, nad yw fel arfer cyn canol mis Rhagfyr. Gallwch ei gael yn nes ymlaen, ond mae’n well ei gael cyn i’r ffliw ddechrau lledaenu. Mae amddiffyniad yn dechrau tua phythefnos ar ôl i chi gael brechlyn ffliw.
Os ydych mewn grŵp sydd mewn mwy o berygl o fynd yn sâl iawn os ydynt yn dal y ffliw, dylech gael brechiad ffliw bob blwyddyn.
A ellir rhoi’r brechlyn ffliw ar yr un pryd â brechlynnau eraill?
Gellir rhoi brechlynnau ffliw ar yr un pryd â’r rhan fwyaf o frechlynnau eraill gan gynnwys brechlynnau COVID-19 os oes angen. Fodd bynnag, ni fydd brechiadau COVID-19 neu ffliw fel arfer yn cael eu rhoi ar yr un pryd â’r brechlyn Feirws Syncytiol Anadlol (RSV). Bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gallu rhoi cyngor pellach.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich brechlynnau cyn gynted ag y cânt eu cynnig i chi.
A fyddaf yn cael unrhyw sgîl-effeithiau o frechiad y ffliw?
Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau. Mae hyn oherwydd bod brechlynnau’n gweithio trwy ysgogi ymateb yn eich system imiwnedd. Mae’r rhan fwyaf o sgîl-effeithiau yn rhai ysgafn a thymor byr, ac nid yw pawb yn eu cael.
Mae rhai o’r sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin yn ystod y diwrnod neu ddau gyntaf yn cynnwys:
- Poen, cleisio, cochni, caledwch neu chwyddo lle cawsoch y pigiad
- poenau cyffredinol neu symptomau tebyg i’r ffliw
- teimlo’n flinedig
- diffyg archwaeth
- dolur rhydd
- cur pen, ac
- twymyn ysgafn.
Efallai y bydd gennych dwymyn ysgafn am ddau neu dri diwrnod ar ôl cael brechlyn. Fodd bynnag, mae tymheredd uchel yn anarferol a gall fod oherwydd bod gennych haint neu salwch arall. Os ydych chi’n poeni, siaradwch â’ch meddyg teulu neu nyrs. Gallwch gymryd paracetamol (dilynwch y cyngor ar y pecyn a pheidiwch â chymryd mwy na’r dos a argymhellir). Dylech orffwys i’ch helpu i deimlo’n well.
Ni fydd y brechlyn ffliw yn rhoi ffliw i chi.
Os yw’n ymddangos bod eich symptomau’n gwaethygu neu os ydych chi’n bryderus, ffoniwch GIG 111 neu eich Practis Meddyg Teulu. Os byddwch yn cael cyngor gan feddyg neu nyrs, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthynt pa frechlynnau a gawsoch fel y gallant eich asesu’n llawn.
Ar gyfer pob sgil-effeithiau ac i gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn, gweler y daflen wybodaeth berthnasol i gleifion:
Oedolion 65 oed a throsodd
- Seqirus UK Limited aQIV (brechlyn ffliw trifalent sy’n cynnwys cyffur ategol) (emc) (safle allanol).
- Sanofi QIV-HD (brechlyn ffliw pedwarfalent dos uchel a dyfir mewn wy) (emc) (safle allanol).
- Seqirus UK Limited QIVc (brechlyn ffliw pedwarfalent seiliedig ar gelloedd) (emc) (safle allanol).
Oedolion 60 i 64 oed sydd mewn perygl
- Seqirus UK Limited QIVc (brechlyn ffliw pedwarfalent seiliedig ar gelloedd) (emc) (safle allanol).
- Sanofi QIV-HD (brechlyn ffliw pedwarfalent dos uchel a dyfir mewn wy) (emc) (safle allanol).
Oedolion mewn perygl (gan gynnwys menywod beichiog) o dan 60 oed
Dylech roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy gynllun y Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy fynd i wefan Yellow Card neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).
Beth sydd angen i mi ei wneud?
Os ydych chi’n oedolyn mewn grŵp risg, yn feichiog neu’n 65 oed neu hŷn, gallwch gael eich brechlyn ffliw yn eich Practis Meddyg Teulu neu mewn rhai fferyllfeydd cymunedol.
Dylai gweithwyr gofal iechyd rheng flaen gael brechlyn y ffliw trwy eu cyflogwr fel rhan o ofal iechyd galwedigaethol. Os nad ydych yn siŵr, gofynnwch i’ch cyflogwr ble y gallwch gael eich brechlyn.
Dylai gweithwyr cymdeithasol (mewn cysylltiad â phreswylwyr neu ddefnyddwyr gwasanaeth), staff cartrefi gofal a gofalwyr cartref siarad â’u rheolwr am gael y brechlyn ffliw.
Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, gellir rhoi’r brechlyn mewn rhai fferyllfeydd cymunedol.
Os ydych chi’n meddwl y gallech fod wedi colli’r apwyntiad i gael brechlyn y ffliw, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu eich fferyllfa gymunedol.
Os yw’ch plentyn yn gymwys i gael brechlyn ffliw, gweler yr wybodaeth yn yr adran ‘Plant a phobl ifanc’ ymhellach i lawr y dudalen.
A allaf gael y ffliw os ydw i wedi cael fy mrechu?
Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o’r ffliw. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau’r ffliw, hyd yn oed os ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich brechu.
I gael rhagor o wybodaeth am y ffliw ewch i wefan GIG 111 Cymru.
Sut byddaf yn gwybod a oes ffliw arnaf?
Pan fydd pobl yn cael y ffliw, maent yn tueddu i fynd yn sâl yn eithaf cyflym. Gall symptomau gynnwys twymyn, oerfel, cur pen a chyhyrau poenus, yn aml gyda pheswch a dolur gwddf.
Nid yw tua hanner y bobl sydd wedi’u heintio â’r ffliw hyd yn oed yn sylweddoli hynny, ac eto gallant ledaenu’r feirws i eraill o hyd. Gall hyn weithiau achosi salwch difrifol gan arwain at ofal ysbyty, ac mewn achosion prin, marwolaeth.
Mae rhai symptomau COVID-19 yn debyg i’r ffliw felly darllenwch y cyngor diweddaraf a dilynwch y canllawiau COVID-19 cyfredol sydd ar gael ar wefan llywodraeth Cymru.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n meddwl bod gen i’r ffliw?
Os oes gennych dymheredd neu beswch, dilynwch y canllawiau cyfredol sydd ar gael ar wefan llywodraeth Cymru.
Fel arfer rheolir y ffliw trwy orffwys gartref, cadw’n gynnes ac yfed digon o ddŵr. Gallwch gymryd paracetamol (dilynwch y cyngor yn y pecyn a pheidiwch â chymryd mwy na’r dos a argymhellir), i ostwng tymheredd uchel a lleddfu poenau os oes angen.
Fodd bynnag, os ydych mewn grŵp risg uchel dylech siarad â’ch meddygfa neu fferyllfa gymunedol ar unwaith os ydych yn meddwl y gallai fod gennych y ffliw, oherwydd efallai y byddant yn argymell cwrs o feddyginiaethau gwrthfeirysol.
Er mwyn helpu i atal y ffliw a feirysau eraill rhag lledaenu, cofiwch:
DALIWCH E
Defnyddiwch hances bapur pan fyddwch chi’n tisian neu’n peswch.
BINIWCH E
Rhowch yr hances bapur yn y bin cyn gynted â phosibl.
LLADDWCH E
Wash your hands or use hand sanitiser.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 18fed Chwefror 2026