Neidio i'r cynnwys

Brechlyn feirws papiloma dynol (HPV) - Am y brechlyn HPV

Mae cael y brechlyn feirws papiloma dynol (HPV) yn bwysig i atal amrywiaeth o ganserau a defaid gwenerol. Mae cael y brechlyn bellach yn eich amddiffyn rhag risgiau yn y dyfodol. 

Mae cael y brechiad yn bwysig oherwydd ni allwn ragweld pwy fydd yn datblygu canser neu ddefaid gwenerol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn a chlefydau ar wefan GIG 111 Cymru (safle allanol)

Enw brand y brechlyn a ddefnyddir yn y DU yw Gardasil 9. Mae’r brechlyn HPV fel arfer yn cael ei roi fel pigiad yn rhan uchaf y fraich.  

Mae un dos yn cynnig amddiffyniad gwych i blant cymwys, pobl ifanc ac oedolion o dan 25 oed. Mae angen i ddynion sy’n hoyw, yn ddeurywiol neu ddynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion 25 i 45 oed gael dau ddos o’r brechlyn i gael yr amddiffyniad gorau. Efallai y bydd angen i bobl sy’n imiwnoataliedig (sydd â system imiwnedd wan) neu sydd â HIV gael tri dos – siaradwch â’ch meddyg teulu neu’ch nyrs practis i gael cyngor am hyn os ydych o dan 25 oed. Os ydych yn ddyn cymwys 25 i 45 oed siaradwch â’ch meddyg neu nyrs iechyd rhywiol neu glinig HIV.

Newidiadau i’r rhaglen frechu HPV o 1 Medi 2023 ymlaen

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar raglen frechu’r feirws papiloma dynol (HPV), gan argymell bod un dos o’r brechlyn bellach yn rhoi amddiffyniad gwych.

Bydd y newid hwn (o ddau ddos) yn digwydd yng Nghymru a Lloegr o 1 Medi 2023.

Mae’r brechlyn HPV yn effeithiol iawn wrth ddiogelu yn erbyn canserau a achosir gan HPV gan gynnwys canser ceg y groth.

Pam mae’r dos o frechiad HPV yn cael ei leihau o ddau ddos i un a beth yw’r dystiolaeth i ategu’r penderfyniad hwn?

Mae ymchwil ar y brechiad HPV wedi bod yn mynd rhagddi ers llawer o flynyddoedd. Mae’r JCVI yn monitro rhaglenni brechu ac unrhyw dystiolaeth newydd o ymchwil i frechiadau. Yn seiliedig ar y dystiolaeth newydd, mae’r JCVI wedi cynghori bod un dos yn rhoi amddiffyniad gwych ymhlith pobl ifanc ac oedolion hyd at 25 oed.

Mae’r holl dystiolaeth a ystyriwyd gan y JCVI yn cael ei chyhoeddi yn ei ddatganiad sydd ar gael yn wefan Llywodraeth y DU (safle allanol).

Mae nifer o astudiaethau rhyngwladol hirdymor wedi helpu’r JCVI i wneud y penderfyniad hwn. Mae’r astudiaethau hyn yn darparu dros 10 mlynedd o dystiolaeth i gefnogi gwneud y newid hwn.

Mae’r dystiolaeth yn dangos bod un dos o’r brechiad HPV yn creu gwrthgyrff sy’n rhoi amddiffyniad parhaus cyn i bobl ddechrau cael rhyw. Mae un dos o’r brechiad HPV fwy na 97% yn effeithiol o ran amddiffyn yn erbyn y ddau straen o HPV sy’n achosi o leiaf 70% o ganser ceg y groth. 

Mae Grŵp Cynghori Strategol o Arbenigwyr Imiwneiddio (SAGE) Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud:

“….mae un dos o’r brechiad Feirws Papiloma Dynol (HPV) yn rhoi amddiffyniad cadarn yn erbyn HPV, y feirws sy’n achosi canser ceg y groth, y gellir ei gymharu ag amserlenni 2 ddos. Gallai hyn newid cywair o ran atal y clefyd…”

Mae rhagor o wybodaeth gan SAGE Sefydliad Iechyd y Byd am y rhaglen frechu HPV ar gael yn wefan WHO (safle allanol).

Beth mae’r newid hwn yn ei olygu i blant sy’n cael eu brechiad HPV yn yr ysgol?

Os bydd plentyn ym mlwyddyn 8 yn yr ysgol ym mis Medi 2023, bydd yn cael cynnig un dos o’r brechiad HPV. Bydd timau nyrsio ysgolion yn cyflwyno’r rhaglen frechu rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf 2024, oherwydd dyma’r adeg o’r flwyddyn pan roddir brechiadau HPV mewn ysgolion uwchradd.

Os bydd plentyn ym mlwyddyn 9 yn yr ysgol ym mis Medi 2023 a’i fod eisoes wedi cael un dos o’r brechiad HPV, nid oes angen iddo gael ail ddos bellach.

Os yw plentyn neu berson ifanc ym mlynyddoedd ysgol 9 i 13 ac nid yw wedi cael unrhyw ddosau o’r brechiad HPV eto dim ond un dos y bydd angen iddo ei gael.

(Noder: Dylai plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n imiwnoataliedig (sydd â system imiwnedd wannach) neu’n HIV positif gael tri dos o’r brechiad HPV.)

A yw dos y brechiad HPV yn newid i ddynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion (HDDRhD)?

Nac ydy, nid i bob HDDRhD. Mae’r dos dim ond yn newid i bobl o dan 25 oed. Mae HDDRhD sydd dros 25 oed ar hyn o bryd yn gymwys i gael dau ddos o’r brechiad nes eu bod yn 45 oed. Ni fydd y dos ar gyfer y grŵp hŷn hwn yn newid. Ar hyn o bryd nid oes digon o dystiolaeth y bydd HDDRhD sy’n cael eu dos cyntaf o frechiad HPV rhwng 25 a 45 oed yn cael digon o amddiffyniad o un dos, felly dylai’r grŵp hwn gael dau ddos o hyd.

A yw’r dos o’r brechiad HPV yn newid i bobl sydd â system imiwnedd wannach neu sy’n HIV positif?

Nid yw pobl â system imiwnedd wannach neu HIV yn ymateb i frechu yn yr un ffordd. Ar hyn o bryd, nid oes digon o dystiolaeth i ddangos y bydd brechu pobl imiwnoataliedig, neu’n HIV positif, â llai na thri dos yn rhoi digon o amddiffyniad iddynt yn erbyn HPV. Felly hyd nes bod rhagor o dystiolaeth ar gael, bydd y GIG yn parhau i gynnig tri dos o’r brechiad HPV i’r bobl hyn.

Sut y bydd pobl yn cael gwybod am y newid?

Bydd disgyblion yn yr ysgol yn cael gwybodaeth gan wasanaeth nyrsio ysgolion y GIG.

Bydd HDDRhD o dan 25 oed yn cael gwybod drwy eu clinig iechyd rhywiol.

A fydd unrhyw effeithiau andwyol yn sgil cael dau ddos os mai dim ond un sydd ei angen?

Na fydd. Mae sawl sefydliad o amgylch y byd wedi edrych ar ddiogelwch y brechiad HPV, yn seiliedig ar y rhaglenni tri a dau ddos. Maent i gyd wedi canfod nad oes pryderon ynghylch diogelwch dosau ychwanegol o’r brechiad HPV.

Beth os yw plentyn yn cael addysg yn y cartref neu os nad yw’n mynd i’r ysgol ar hyn o bryd?

Gall plant a phobl ifanc sy’n cael addysg yn y cartref neu nad ydynt yn mynd i’r ysgol ar hyn o bryd gael y brechiad HPV yn eu meddygfa drwy drefnu apwyntiad gyda’r nyrs practis.

Mae plant oedran ysgol a phobl ifanc sy’n cael addysg yn y cartref, neu nad ydynt yn mynd i’r ysgol ar hyn o bryd, hefyd yn gymwys i gael brechiad ffliw chwistrell trwyn bob hydref. Dylai’r rhai 13 oed a hŷn hefyd gael brechiad 3 mewn 1 (i hybu amddiffyniad yn erbyn difftheria, tetanws a pholio) a brechiad MenACWY (i amddiffyn yn erbyn rhai mathau o lid yr ymennydd septisemia). Gall plant a phobl ifanc nad ydynt yn mynd i’r ysgol hefyd gael y brechiadau hyn yn eu meddygfa.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y brechiadau arferol a argymhellir i bobl ifanc ar ein gwefan.

A fydd y newid i un dos yn golygu y bydd pobl ifanc sy’n colli eu hapwyntiad yn cael llai o siawns i gael y brechiad HPV ar ddyddiad arall?

Gall plant a phobl ifanc sy’n colli eu brechiad HPV yn yr ysgol ei gael o hyd. Gallant naill ai drefnu apwyntiad gyda’u nyrs practis meddyg teulu neu byddant yn cael y cyfle i gael y brechiad yn yr ysgol (pan fydd y nyrsys ysgol yn bresennol) hyd nes iddynt orffen blwyddyn 11. Os bydd person ifanc yn gadael yr ysgol ac nad yw wedi cael y brechiad HPV, gall ei gael o hyd yn ei feddygfa hyd nes ei ben-blwydd yn 25 oed (ar gyfer bechgyn, mae hyn yn berthnasol dim ond i’r rhai a anwyd ar ôl 1 Medi 2006).

Mae’r newid hwn i un dos hefyd yn golygu y bydd nyrsys ysgol yn gallu rhoi’r cwrs llawn o’r brechiad HPV mewn un apwyntiad, yn hytrach na dau ddos dros ddau apwyntiad ar wahân. Bydd hefyd yn haws i fyfyrwyr sy’n colli eu hapwyntiad i ddal i fyny, gan y bydd angen iddynt ddal i fyny ag un apwyntiad yn unig.

Mae newid i un dos yn golygu y gall y GIG sicrhau bod cynifer o bobl gymwys â phosibl yn cael gwybod am fanteision y brechiad HPV ac yn cael eu hannog i gael eu brechu. Bydd cynyddu nifer y bobl ifanc sy’n cael un dos o’r brechiad HPV yn helpu i achub mwy o fywydau.

Pa wahaniaeth y mae’r brechiad HPV wedi’i wneud hyd yma?

Ers iddo gael ei gyflwyno yn 2008, mae wedi lleihau cyfraddau canser ceg y groth bron 90% mewn menywod yn eu 20au. Disgwylir i’r brechiad achub cannoedd o fywydau bob blwyddyn yn y DU.

A allaf gael canser neu ddafadennau gwenerol a achosir gan HPV os ydw i wedi cael fy mrechu?

Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal dafadennau gwenerol a chanserau a achosir gan haint HPV, gan gynnwys canser ceg y groth. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau haint HPV. Mae hefyd yn bwysig mynd i apwyntiadau sgrinio serfigol pan gewch eich gwahodd, hyd yn oed os ydych wedi cael eich brechu.

I gael rhagor o wybodaeth am HPV ewch i wefan GIG 111 Cymru (safle allanol) neu ewch ymweld â’n tudalen Feirws Papiloma Dynol (HPV).

Mae gennyf ragor o gwestiynau, i bwy y gallaf ofyn?

Gall plant a phobl ifanc, neu eu rhieni a gofalwyr, siarad â nyrs GIG yr ysgol am unrhyw gwestiynau sydd ganddynt. Bydd gan ysgolion fanylion cyswllt ar gyfer gwasanaeth nyrsio ysgolion y GIG.

Gall pobl ifanc o dan 25 oed nad ydynt wedi cael unrhyw frechiadau HPV eto, a phlant sy’n cael addysg yn y cartref  neu nad ydynt yn mynd i’r ysgol ofyn i’w nyrs practis meddyg teulu os bydd ganddynt unrhyw gwestiynau.

Gall dynion hoyw, deurywiol neu ddynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion ac sydd o dan 45 oed ofyn i’w meddyg neu nyrs yn y clinig iechyd rhywiol os oes ganddynt unrhyw gwestiynau.

Cymhwystra ar gyfer y brechlyn 

Mae’r brechlyn HPV yn cael ei gynnig i’r canlynol: 

  • bechgyn a merched 12 i 13 oed (blwyddyn 8 yn yr ysgol) yn yr ysgol, a’r 
  • rhai a allai fod wedi colli eu brechiad ond sy’n parhau’n gymwys hyd at 25 oed (hynny yw, bechgyn a oedd ym mlwyddyn 8 yn yr ysgol ar neu ar ôl 1 Medi 2019 a merched a ddaeth yn gymwys i gael y brechlyn ar neu ar ôl 1 Medi 2008). 

Mae’r brechlyn ar gael drwy wasanaethau iechyd rhywiol arbenigol a chlinigau HIV i ddynion sy’n 45 oed neu’n iau ac sy’n hoyw neu’n ddeurywiol, neu ddynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion (HDDRhD).

Trawsysgrif – Dylanwadwr X Clinigydd

Mikey:

Helo, enw fi yw Mikey Denman. Dwi’n cyflwynydd ac yn nyrs yn yr adran A&E.

Hawys:

Helo, Hawys Youlden ydw i, Prif Nyrs yn y rhaglen afiechydon a gallai atal trwy frechu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gallai gael whoop am ddweud hynny’n gywir, tro cyntaf erioid.

Mikey:

I ddweud y gwir, roedd hynny’n drawiadol iawn. Felly heddiw rydyn ni’n siarad am y frechlyn HPV i ddysgu tamaid bach mwy i fod yn onest. O’n ni eisiau gofyn, ti’n gwybod fel imiwneiddio, Beth yw’r brechlyn HPV?

Hawys:

Yn gyntaf, gadewch i ni sgwrsio am beth yw HPV ei hunain. Felly, efallai bod llawer o bobl wedi clywed am HPV neu’r feirws HPV ac mae’n enw byr ar gyfer feirws o’r enw Feirws Papiloma Dynol sef, mewn gwirionedd, grŵp o firysau. Mae yna dros gant o straen gwahanol o’r feirws HPV. Mae’n gyffredin iawn, a bydd tua wyth allan o ddeg person yn dod mewn i gysylltiad â’r feirws ar ryw bryd yn eu bywydau, a bydd rhan fwyaf o bobl yn clirio fe o’r corff heb unrhyw help o gwbl. Ond i rai bobl, gall aros yn y corff am amser hir a gall hyn achosi’r celloedd i newid yn y corff sy’n gallu achosi canser.

Mikey:

Ie, achos, wel i fi o’n i’n meddwl am HPV, o’n i’n meddwl am efallai smear tests gyda menywod,

ond nawr ni’n clywed bod y HPV vaccine, bod nhw’n rhoi e i dynion sy’n cael rhyw gyda dynion eraill.

Hawys:

Dyna ni, ie. Wel, tamaid bach o hanes am y brechlyn HPV te, wnaeth e ddechrau, gaeth e gyflwyno yn 2008 fel rhaglen i ferched yn eu harddegau am y rheswm yna, i arbed nhw cael canser ceg y groth. Ond dros y blynyddoedd wedyn, wnaeth yr arbenigwyr ffeindio mas bod y brechlyn hefyd yn gallu arbed rhai mathau o ganser arall oherwydd roedd e’n arbed heintiau oedd y feirws yn achosi. Felly wedyn yn 2017, wnaethon nhw gynnig y brechlyn HPV i dynion sydd yn hoyw, ddeurywiol , neu dynion sydd yn cael rhyw gyda dynion trwy glinigau iechyd rhywiol.

Mikey:

O’n i eisiau gofyn hefyd, os oedd gyda rhywun HIV, ydyn nhw’n dal yn gymwys ar gyfer y vaccine?

Hawys:

Ydyn, felly mae pobl gyda HIV, neu bobl gyda system imiwnedd wan dal yn gallu cael y brechlyn HPV ond mae’n bwysig bod nhw yn siarad gyda’i meddyg neu nyrs fel bod nhw’n gallu asesu nhw oherwydd efallai bydd angen dosau ychwanegol.

Mikey:

O iawn, ok, ok. Ti’n gwybod beth, mae e mor ddiddorol clywed gymaint amdano fe yn ogystal â gweld mwy o wybodaeth amdano fe ar lein a dwi’n meddwl bod hi mor bwysig achos gall y brechlyn yma stopio canser.

Hawys:

Dyna fe, yn union a phwy byth fyddai’n meddwl y byddwn ni’n byw mewn amser ble mae gennyn ni brechlyn sy’n gallu atal canser? Mae hwnna yn anhygoel i fi.

Mikey:

Ac mae’r diolch i nyrsys fel ti.

Hawys:

O diolch. Jyst fi.

Mikey:

Dwi’n caru hyrwyddo iechyd gymaint, a dwi’n meddwl bod rhoi camau ataliol yn eu lle yn gynnar mae e mor bwysig a mor hanfodol ar gyfer y GIG achos, ti’n gwybod, os gallwn ni stopio pethau fel canserau nawr, dwi’n meddwl mai’n helpu, mae’n helpu’r boblogaidd gymaint.

Hawys:

Rwyt ti angen swydd mewn Iechyd Cyhoeddus Cymru te!

Mikey:

Ie, ydw. Gweld chi Dydd Llun. Efallai mai dim ond menyw tê bydda i, ond byddaf yn hapus iawn yn fenyw tê!

Hawys:

Dyna ni.

(aside)

[Oes gen ti coconut maccaroons?]

Mikey:

Whoah. Bendant gwelai ti ar Ddydd Llun te.

Mikey:

O’n i eisiau gofyn hefyd, sut mae pobl yn actually gwybod bod gyda nhw HPV? Oes symptomau?

Hawys:

Na, a dyna’r broblem, dyw HPV ddim yn achosi unrhyw symptomau o gwbl i ran fwyaf o bobl felly dydyn nhw ddim yn gwybod bod nhw wedi cael eu heintio ac wedyn gallent nhw gael y feriws a phasio fe ymlaen i bobl arall heb wybod, so dyna pam bod e’n bwysig fel bod pobl yn cael y brechlyn fel bod nhw’n gallu amddiffyn eu hunain erbyn naw fath o strain HPV.

Mikey:

Ie, ac mae’r peth yw, mae’n amddiffyn yn erbyn naw fath hefyd, a chi ddim yn jyst amddiffyn eich hun, chi’n amddiffyn pobl eraill.

Hawys:

Yn gwmws, dyna ni, ac mae’r naw fath o HPV mae’r brechlyn yn amddiffyn yn erbyn, maen nhw’n galw nhw yn ‘high risk HPVs’ felly ni’n gwybod mae’r naw fath yna yw’r rhai sy’n gyfrifol am achosi’r canser.

Mikey:

Felly, dweda nawr bod rhywun sydd wedi cael HPV o’r blaen neu efallai os nad oeddent yn gwybod eu bod wedi’i cael, a fyddent nawr yn gymwys i gael y brechlyn?

Hawys:

Felly’r grŵpiau sy’n gymwys yw plant sy’n 12 a 13 blwydd oed sef blwyddyn 8 yn yr ysgol, felly maen nhw’n garfan sy’n gymwys yn ogystal â dynion sy’n hoyw neu’n ddeurywiol sy’n cael rhyw gyda dynion arall hyd at 45 o oed. Ond gyda’r brechlyn, mae’n ymdrin â naw fath gwahanol o HPV. Felly os mae rhywun wedi cael un fath o HPV o’r blaen mae e dal yn bwysig i gael y brechlyn i amddiffyn yn erbyn y mathau gwahanol.

Mikey:

Yn union, oherwydd mae’n d’amddiffyn yn erbyn hyn, efallai dy fod ti dim ond wedi cael un o’r mathau o’r blaen, felly bydd e’n d’amddiffyn yn erbyn y gweddill.

Hawys:

Ie, yn union.

Mikey:

Ie.

Hawys:

Rhywbeth syml i’w wneud i amddiffyn eich hunan. Nid dim ond am nawr, ond i’ch dyfodol, ti’n gwybod, ymhell yn y dyfodol.

Mikey:

Ie.

Mikey:

Ti’n literally a fountain of knowledge, fi wedi dysgu sut gymaint ar y galwad yma, mae’n rhaid i fi ddweud.

Hawys:

Fi’n falch.

Mikey:

Na, hyd yn oed fel nyrs, mae fe mor bwysig i wybod pethau fel hyn, a ti’n gwybod fel, mae’r vaccine yma yn actually yn amazing achos os ti’n meddwl amdano fe, mae canser yn gallu effeithio pobl mewn ffordd, mae fe jyst ddim yn neis. Ac mae rhywbeth fel y brechlyn yn gallu helpu amddiffyn pobl yn erbyn canser yn jyst, dw’i ddim yn hyd yn oed yn gallu rhoi e mewn i eiriau.

Hawys:

Na. Mae e mor bwysig ond yw e, mae’n bwysig. Mae’n bwysig i bobl cael y brechlyn os ydyn nhw’n gymwys er mwyn amddiffyn nhw am amser hir ond yw e.

Mikey:

Felly ble gallwn… oh my gosh, sorry girls. Felly ble gallwn ffeindio mwy o wybodaeth am y brechlyn HPV ac os wyt ti’n gymwys?

Hawys:

Felly gallwch fynd i’r tudalen brechlyn ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru am fwy o wybodaeth am y brechlyn HPV a brechlynnau arall.

Mikey:

Okay, fab. Dyna fe, literally ar lein, clic cyflym a dyna ni. Diolch yn fawr, yn wirioneddol diolch am siarad gyda fi heddiw. Dwi ‘di caru’r sgwrs yma, dwi’n teimlo fel fy mod i wedi dysgu gymaint. Ti’n gwybod, hyd yn oed i feddwl bod canser a phethau sy’n gallu achosi gymaint o boen a chymaint o frifo i bobl ac i deuluoedd ac mae rhywbeth fel brechlyn, y brechlyn HPV yn gallu helpu gymaint. Ac rydw i mor gyffroes i weld canlyniadau’r frechlyn HPV mewn blynyddoedd i ddod.

Mikey:

O ddiolch Hawys, fi ‘di joio mas draw heddiw, diolch.

Hawys:

Croeso Mickey, hyfryd i siarad gyda thi

Mikey:

Diolch, ta ra!

Hawys:

Hwyl nawr, ta ra!

*chwerthin* (*laughing*)

Hawys:

Mi-key,

Mikey:

Mi-key, my key.

O’n i’n actually wedi dweud, o’n i’n siarad gyda rhywun yn ddiweddaraf, o’n i wedi dweud, “enw fi yw Mikey”, ti’n gwybod fel jyst, my keys. O’n nhw’n dod o America a rodden nhw’n dod mewn last night, fel, not even ten minutes later, a dywedon nhw, “Oh, car key are you up to anything tonight?”

Hawys:

Car key!

Mikey:

O’n i fel, uh, girl?

Hawys:

Mae hwnna’n well. Car key.

Mikey:

Ie, o’n i fel, car key? Ok.

Mikey:

O, diolch Hawys, fi really ‘di joio’r chat yma. Literally nawr, fi di really joio’r chat yma. Fi wedi dysgu sut gymaint. Achos fi wedi edrych mewn i HPV a phethau fel hynny, ond fi wedi dysgu loads mwy ar ôl hwn hefyd a chael y sgwrs yma.

Hawys:

O, mae e mor bwysig. Mae’n grêt fel bod ni’n gallu rhannu’r wybodaeth yma ond yw e, i wneud pobl yn ymwybodol o beth sydd yn digwydd.

Sgil-effeithiau

Y sgil-effeithiau cyffredin yw rhan goch ddolurus, chwyddedig lle rhoddwyd y brechlyn. Weithiau gall lwmp bach, caled di-boen ffurfio ar safle’r pigiad hefyd. Mae’r sgil-effeithiau hyn fel arfer yn diflannu ar ôl cwpl o ddiwrnodau. 

Mae’r sgil-effeithiau llai cyffredin yn cynnwys cur pen/pen tost, cyfog a thwymyn (tymheredd uchel). Mae adweithiau eraill, mwy difrifol, yn brin. 

I gael rhagor o wybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin a phrin, ewch i:   

Os ydych yn pryderu am symptomau, ffoniwch GIG 111 Cymru. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol. 

Gallwch roi gwybod am unrhyw sgil-effeithiau tybiedig brechiadau a meddyginiaethau drwy’r cynllun Yellow Card. Gallwch wneud hyn ar-lein yn wefan Yellow Card neu drwy ffonio llinell gymorth Yellow Card ar 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).  

Gwybodaeth i’r cyhoedd

Os hoffech ddysgu rhagor am y brechlyn HPV neu’r clefydau y mae’n amddiffyn yn eu herbyn, edrychwch ar y wybodaeth a restrir isod.  

Gallwch hefyd ffonio GIG 111 Cymru neu eich meddygfa i gael cyngor os oes gennych unrhyw gwestiynau. 

Gwybodaeth i ysgolion

Trawsysgrif – Beth yw’r brechlyn HPV?

Helo, Cerys ydw i. Dw i’n nyrs, ac fe hoffwn i ddangos i chi sut gallwn ni weithio gyda’n gilydd i’ch amddiffyn chi rhag HPV. Os ydych chi ym mlwyddyn 8, felly’n ddeuddeg neu’n dair ar ddeg oed – mae’r wybodaeth yma i chi!

I ddechrau, beth yw HPV? Grŵp o feirysau yw HPV sy’n gallu achosi rhai mathau o ganser ac sy’n gallu achosi dafadennau neu haint yn y croen.

Fel arfer, bydd eich corff yn creu gwrthgyrff yn naturiol i frwydro yn erbyn heintiau a feirysau, ond mae’r brechlyn yn rhoi help llaw i ni er mwyn amddiffyn rhag HPV. 

Mae’r datrysiad clyfar yma’n dysgu’ch corff sut i amddiffyn ei hunan rhag HPV. Mae mor syml â hynny, a bydd un ddos yn ddigon am oes. 

Dw i’n siŵr eich bod chi’n meddwl tybed ydy’r brechlyn HPV yn brifo? Wel… efallai y teimlwch chi binsiad bach ar ochr eich braich, ond ddylai’r teimlad ddim para’n hir. Os ydych chi’n poeni o gwbl, bydd y Nyrs yn deall ac yn gallu tawelu’ch meddwl.

Gan ei fod yn beth newydd a bod angen i’ch corff ddod i arfer â fe, weithiau mae’r brechlyn HPV yn gallu achosi pen tost neu fraich boenus lle cawsoch chi’r brechlyn, ond fel arfer dydy hynny ddim yn para’n hir o gwbl.

Beth sy’n digwydd nesaf? Ym mlwyddyn 8, bydd tîm nyrsio neu imiwneiddio ysgol yn dod i’ch ysgol i gynnig y brechlyn pwysig yma i chi. Bydd gennych amser i fynd â gwybodaeth adre ac i drafod y brechlyn gyda rhiant neu warcheidwad. Dim ond ar ôl cael eich caniatâd chi a chaniatâd eich rhiant neu warcheidwad bydd y nyrs yn rhoi’r brechlyn i chi. Os nad ydych chi’n mynd i’r ysgol, gofynnwch i’ch rhiant neu’ch gwarcheidwad drefnu apwyntiad i chi gyda nyrs y practis yn eich meddygfa leol.

Beth am rannu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu am HPV gyda’ch rhieni neu’ch gwarcheidwaid drwy ddangos y fideo yma iddyn nhw? Neu fe allan nhw fynd i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Trawsysgrif – HPV C&A

HPV yw’r enw byr ar gyfer y Feirws Papiloma Dynol, sef feirws cyffredin iawn sydd yn gallu achosi rhai fathau o ganser.

Mae HPV yn cael ei ledaenu drwy gysylltiad croen â chroen, a ni fydd pawb yn cael symptomau felly nid ydynt yn ymwybodol eu bod wedi cael eu heintio.

Amcangyfrifir y bydd wyth allan o 10 person yn cael eu heintio gan HPV ar un adeg yn eu bywydau ond nid yw hyn yn golygu fydd pawb yn mynd ymlaen i cael canser.

Gardasil 9 yw enw y brechlyn HPV sydd yn cael ei defnyddio yn y Deyrnas Unideg.

Mae’r brechlyn hwn yn cynnwys proteinau unigol o naw fath o HPV sydd yn creu ymateb

imiwnyddol yn y corff.

Fe’i rhoddir drwy bigiad yn rhan uchaf o’r fraiche a mae’n wych o ran rhoi amddiffyniad yn erbyn y feirws HPV, ac yn ei dro fe’i gall helpu amddiffyn yn erbyn rhai fathau o ganser.

Canser ceg y groth yw’r prif fath o ganser sy’n gallu cael ei achosi o’r feirws HPV, ond hefyd gall achosi canser y wain, y fwlfa, y pidyn a’r anws, ac ambell waith, rhai fathau o ganser y geg a’r gwddf.

Disgwylir i’r brechlyn achub cannoedd o bywydau bob blwyddyn yn y Deyrnas Unideg.

Ers iddo gael ei gyflwyno yn 2008, mae wedi lleihau cyfraddau canser ceg y growth bron 90% mewn menywod yn eu 20au.

Mae’r sgil-effeithiau fel arfer yn ysgafn. Y sgil-effeithiau mwyaf cyffredin yw cur pen a poen yn y fraiche ond fel arfer dyw’r rhain ddim yn para’n hir o gwbl.

Fel gyda pob brechlyn, mae adroddiadau sgil-effeithiau yn cael eu monitro’n agos a’u hadolygu gan Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd yn y Deyrnas Unideg.

Mae’r dystiolaeth yn dangos bod y brechlyn HPV yn ddiogel iawn ac yn cynnig amddiffyniad  rhagorol yn erbyn HPV.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 11eg Awst 2025