Neidio i'r cynnwys

Brechlyn eryr - Diogelwch ac effeithiolrwydd

A yw brechlyn yr eryr yn ddiogel?

Ydy, mae’r brechlyn rhag yr eryr yn ddiogel. Mae’n bodloni’r holl safonau diogelwch. Unwaith y bydd brechlyn yn cael ei ddefnyddio, caiff ei ddiogelwch ei fonitro’n agos.  

A allaf gael yr eryr o hyd ar ôl i mi gael fy mrechu?

Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o’r eryr. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod am arwyddion a symptomau’r eryr, hyd yn oed os ydych chi wedi cael eich brechu. I gael rhagor o wybodaeth am yr eryr,  ewch i wefan GIG 111 Cymru (safle allanol).

A allaf gael y brechlyn rhag yr eryr ar yr un pryd â brechlynnau eraill?

Gallwch gael y brechlyn rhag yr eryr ar yr un pryd â’r rhan fwyaf o frechlynnau eraill. Gall y person sy’n rhoi’r brechlyn i chi drafod hyn gyda chi.

Oes unrhyw sgîl-effeithiau?

Mae sgîl-effeithiau brechiad yr eryr yn eithaf ysgafn fel rheol ac nid ydynt yn para’n hir. 

Y sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin yw: 

  • poen, cochni neu chwydd yn y fraich lle rhoddwyd y pigiad 
  • cur pen/pen tost  
  • symptomau stumog (fel teimlo’n sâl neu fod yn sâl, anhwylder ar y stumog neu boen yn y stumog) 
  • teimlo’n flinedig 
  • oerfel neu dwymyn, a 
  • phoenau cyffredinol  

Gallwch orffwys a chymryd y dos arferol o paracetamol (dilynwch y cyngor yn y pecyn) i’ch helpu i deimlo’n well. Peidiwch â defnyddio peiriannau na gyrru os ydych chi’n teimlo’n sâl.   

Os yw’r sgil-effeithiau’n para mwy nag ychydig ddyddiau, dylech siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.  

Yn anaml, gall pobl gael adwaith difrifol yn fuan ar ôl cael eu brechu, sy’n achosi anawsterau anadlu a gall beri iddynt lewygu. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig. Gall ddigwydd hefyd gyda meddyginiaethau eraill a bwyd. Mae’r adweithiau hyn yn hynod o brin, ac yn effeithio ar lai nag un mewn miliwn o bobl. Mae staff sy’n rhoi brechiadau wedi’u hyfforddi i reoli’r adweithiau hyn. 

Gall pobl sy’n cael adwaith anaffylactig gael eu trin yn llwyddiannus ac fel arfer maent yn gwella o fewn ychydig oriau.     

Dysgu rhagor am sgîl-effeithiau   

Mae’r holl sgîl-effeithiau wedi’u cynnwys yn y daflen wybodaeth i gleifion ar gyfer y brechlyn. I gael rhagor o wybodaeth am sgîl-effeithiau, ewch i wefan EMC am wybodaeth am Shingrix (safle allanol).

Os bydd gennych gwestiynau am sgil-effeithiau, gallwch ofyn i’r unigolyn a fydd yn rhoi’r brechlyn i chi.   

Dylech roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau ar-lein yn wefan Yellow Card (safle allanol), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 5yh).  

A oes unrhyw un na ddylai gael y brechiad yr eryr?

Ni ddylid rhoi’r brechlyn i unigolyn sydd wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i:   

  • ddos blaenorol o’r brechlyn, neu   
  • gynhwysyn yn y brechlyn.   

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth y person sy’n rhoi’r brechlyn i chi os ydych chi wedi cael adwaith alergaidd difrifol i’r brechlyn neu ei gynhwysion yn y gorffennol.   

Os oes gennych anhwylder gwaedu, siaradwch â’ch meddyg neu nyrs practis cyn i chi gael y brechlyn. 

A ddylwn i gael y brechlyn os ydw i’n sâl ar ddiwrnod yr apwyntiad?

Os ydych chi’n sâl, mae’n well aros nes eich bod yn well i gael y brechlyn, ond dylech geisio ei gael cyn gynted â phosibl. Os na allwch ddod i’ch apwyntiad brechu, canslwch ac aildrefnwch yr apwyntiad. 

Gwybodaeth:

Nid yw annwyd neu fân salwch arall yn rheswm dros ohirio eich brechlyn.  Os ydych chi’n ansicr, trafodwch hyn gyda’r person sy’n rhoi’r brechlyn i chi.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14eg Awst 2025