Brechlyn DTaP/IPV/Hib/HepB (6 mewn 1) - Cymhwysedd ac apwyntiadau
Imiwneiddio babanod
Mae’n bwysig cynnig gwarchodaeth i fabanod cyn gynted â phosibl, oherwydd gallant ddal yr afiechydon difrifol hyn o enedigaeth.
Mae’r brechlyn ‘6-mewn-1’ (DTaP/IPV/Hib/HepB) yn cael ei gynnig yn rheolaidd i fabanod yn 8, 12 ac 16 wythnos oed.
Anafiadau sy’n agored i detanws
Mae’n bosibl y bydd babanod sydd â briw sy’n agored i gael tetanws (edrychwch ar y pwyntiau bwled isod) yn cael cynnig dos o’r brechlyn ‘6-mewn-1’.
Cysylltwch â meddyg teulu neu ewch i’r adran mân anafiadau neu’r adran damweiniau ac achosion brys agosaf os ydych chi’n pryderu am friw, yn enwedig:
- Os yw’n friw dwfn
- Os oes baw neu rywbeth y tu mewn i’r briw
- Os nad yw eich plentyn wedi’i frechu’n llawn ar gyfer tetanws, neu os nad ydych yn siŵr.
Bydd meddyg yn asesu’r briw ac yn penderfynu a oes angen triniaeth. Os nad yw’r unigolyn wedi’i frechu’n llawn ar gyfer tetanws, gellir rhoi dos o frechlyn sy’n cynnwys tetanws.
Sut i archebu
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y brechlyn ‘6-mewn-1’, neu os ydych chi’n ansicr ynghylch pryd dylid ei roi, gallwch gysylltu â’ch meddygfa am gyngor.
Os yw eich babi neu eich plentyn wedi methu apwyntiad ar gyfer y brechlyn ‘6-mewn-1’ siaradwch â’ch meddyg teulu neu nyrs y feddygfa am gyngor.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 28ain Ebrill 2025