Brechlyn DTaP/IPV/Hib/HepB (6 mewn 1) - Diogelwch ac effeithiolrwydd
Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o difftheria, tetanws, y pas, polio, hib a Hepatitis B. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau’r clefydau hyn, hyd yn oed os ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich brechu.
Sgîl-effeithiau’r brechlyn
Er ei fod yn ddiogel iawn, gall y brechlyn ‘6-mewn-1’ fel brechlynnau eraill fod â sgîl-effeithiau. Mae’r sgîl-effeithiau cyffredin yn cynnwys y canlynol:
- poen, cochni a chwyddo yn safle’r pigiad
- tymheredd uchel
- taflu i fyny
- crïo abnormal
- anniddig
- dim awydd bwyd.
Mae adweithiau eraill yn brin. Am fwy o wybodaeth am y sgîl-effeithiau cyffredin a phrin gwelwer:
Os ydych chi’n bryderus am symptomau, ffoniwch GIG 111 Cymru ar 111 neu eich meddygfa. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.
Dylech roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy gynllun y Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy fynd i wefan Yellow Card (Saesneg yn unig) neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25ain Mawrth 2026