Brechiad y pas (pertwsis) - Brechiad y pâs yn ystod beichiogrwydd
Mae brechlyn y pas (pertwsis) yn cael ei gynnig i bob menyw feichiog rhwng 16 a 32 wythnos o feichiogrwydd er mwyn amddiffyn eu babanod rhag y clefyd difrifol hwn.
Gallwch gael y brechlyn ar ôl 32 wythnos o feichiogrwydd, ond efallai na fydd yn cynnig yr un lefel o amddiffyniad. Mae angen cael eich brechu ym mhob beichiogrwydd.
Mae babanod sy’n rhy ifanc i gael eu brechu rhag y pas yn wynebu risg uwch o broblemau iechyd difrifol fel heintiau difrifol ar yr ysgyfaint (niwmonia) neu, mewn achosion prin, marwolaeth. Mae hyn yn cynnwys babanod dan ddau fis oed, yn enwedig y rhai na chafodd eu mamau eu brechu rhwng 16 a 32 wythnos o’u beichiogrwydd.
I gael rhagor o wybodaeth am symptomau’r pas, ewch i GIG 111 Cymru.
Mae cael eich brechu yn ystod beichiogrwydd yn bwysig.
Mae’r amddiffyniad a gewch o frechlyn y pas yn cael ei drosglwyddo i’ch baban heb ei eni. Yn ogystal â helpu i’w amddiffyn yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd, nes iddo gael ei imiwneiddiad arferol cyntaf pan fydd yn wyth wythnos oed.
Mae’r brechlyn hefyd yn eich amddiffyn rhag cael y pas ac yn lleihau’r risg y byddwch yn ei drosglwyddo i’ch baban.
Nid oes brechlyn sy’n diogelu rhag y pas yn unig. Mae’r brechlyn a roddir i chi yn frechlyn cyfun sy’n diogelu rhag gwahanol glefydau, gan gynnwys y pas. Nid yw’r brechlyn yn fyw, ac ni all achosi’r pas. Byddwch yn cael cynnig un dos o’r brechlyn, a roddir fel pigiad yn rhan uchaf y fraich.
Cymhwystra ar gyfer y brechlyn
Ynglŷn â’r brechlyn
Diogelwch ac effeithiolrwydd
Rhagor o wybodaeth
- Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr: Gwybodaeth i glinigwyr (Saesneg yn unig)
- Brechiad y pas – Vaccine Knowledge Project (Saesneg yn unig)
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 27ain Ebrill 2026