Brechiad y pas (pertwsis) - Am brechiad y pas
Mae brechiad y pas yn ffordd ddiogel ac effeithiol o warchod merched beichiog, babanod heb eu geni, babanod a phlant rhag yr haint yma.
Nid oes brechiad sy’n gwarchod rhag y pas yn unig. Yn lle hynny, mae’r brechiadau sy’n cael eu cynnig yn frechiadau cyfunol sy’n gwarchod rhag gwahanol afiechydon, gan gynnwys y pas.
Byddwch yn cael cynnig un dos o’r brechlyn, a roddir fel pigiad yn rhan uchaf y fraich. Nid yw’r brechlyn yn fyw, ac ni all achosi’r pas.
Pa frechlyn y pas fydda i’n ei gael?
Mae pob brechlyn y pas hefyd yn cynnwys difftheria a thetanws. Yn dibynnu ar ba frechlyn a gynigir i chi, gall rhai gynnwys polio hefyd. Dyma’r brechlynnau sy’n cael eu rhoi yn ystod beichiogrwydd:
Bydd babanod yn derbyn y brechlyn 6-mewn-1, tra bydd plant ac oedolion yn cael y brechlyn 4-mewn-1. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y brechiadau hyn ar y tudalennau canlynol:
Pwysigrwydd brechu yn ystod beichiogrwydd
Bydd yr imiwnedd a gewch o’r brechlyn yn trosglwyddo i’ch baban drwy’r brych. Mae’r brych y tu mewn i’ch croth ac mae’n cysylltu eich cyflenwad gwaed chi â’ch baban yn y groth. Bydd yr imiwnedd hwn yn helpu i ddiogelu eich baban yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf o fywyd pan fydd fwyaf agored i niwed, hyd nes ei fod yn ddigon hen i gael brechlyn y pas cyntaf pan fydd yn wyth wythnos oed. Bydd yr amddiffyniad y bydd eich baban yn ei gael o ganlyniad i chi’n cael y brechlyn yn pylu, felly mae’n bwysig eich bod yn mynd â’ch baban i gael ei frechiadau arferol.
Mae’r brechlyn hefyd yn eich amddiffyn rhag cael y pas ac yn lleihau’r risg y byddwch yn ei drosglwyddo i’ch baban.
Pam na all babanod gael ei frechu adeg geni?
Hyd yn oed pe bai eich baban yn cael ei frechu ar unwaith, ni fyddai’n cael ei amddiffyn o’i enedigaeth gan ei bod yn cymryd hyd at bythefnos i ddatblygu ymateb i’r brechlyn. Hefyd, mae angen i fabanod gwblhau’r rhestr lawn o frechiadau sy’n cynnwys brechlyn y pas er mwyn iddo gael lefel dda o amddiffyniad rhag y pas.
Pwysigrwydd brechu plant
Os oes gennych chi blant ifanc eraill, mae’n bwysig gwneud yn siŵr eu bod nhw’n gyfredol o ran eu brechiadau. Bydd hyn yn helpu i’w hatal rhag cael y pas a’i drosglwyddo i’ch baban newydd.
Mae’r amserlenni imiwneiddio arferol ar gyfer Cymru yn rhoi manylion ynghylch pryd y disgwylir i’ch plentyn gael ei frechiadau.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25ain Ebrill 2025