Neidio i'r cynnwys

Beichiogrwydd heb ei gynllunio - Parhau â’r beichiogrwydd

Os byddwch chi’n penderfynu parhau â’r beichiogrwydd, byddwch chi’n gallu cael gofal cynenedigol (gofal yn ystod beichiogrwydd), boed chi’n bwriadu bod yn rhiant neu’n dewis mabwysiad. I ddechrau cael gofal cynenedigol, ewch i’ch practis meddyg teulu neu efallai y byddwch yn gallu mynd yn syth at fydwraig yn eich uned famolaeth agosaf.

Gall eich meddyg teulu neu eich bydwraig drafod y canlynol gyda chi:

  • bwyta’n iach ac ymarfer corff
  • cymryd asid ffolig a fitamin D
  • rhoi’r gorau i ysmygu
  • lleihau neu roi’r gorau i yfed alcohol
  • rhoi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau adloniadol (recreational drug use)
  • cael cyngor ynghylch heintiau a drosglwyddir yn rhywiol

Os oes gennych chi gyflwr meddygol fel epilepsi neu diabetes, siaradwch â’ch meddyg neu eich bydwraig cyn gynted â phosib, oherwydd efallai y bydd angen gofal arbennig arnoch chi.

Mae manylion meddygon teulu a fferyllfeydd ar gael ar wefan GIG 111 Cymru.

Gall y Canllaw ar feichiogrwydd a babis fod o help i chi.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 19eg Mehefin 2025