Brechlyn Td/IPV (atgyfnerthiad 3 mewn 1) - Am frechlyn TTd/IPV 3 mewn 1
Rhoddir y brechlyn Td/IPV, a elwir hefyd yn frechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1 ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau, i hybu gwarchodaeth rhag 3 afiechyd ar wahan: tetanws, difftheria a pholio.
Pigiad sengl yw hwn fel rheol a roddir yng nghyhyr rhan uchaf y fraich. Enw brand y brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1 ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau sy’n cael ei roi yn y DU yw Revaxis.
Cymhwysedd ac apwyntiadau
Mae’r brechlyn atgyfnerthu 3-mewn-1 ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau ar gael am ddim gan y GIG i bob person ifanc yn eu harddegau fel rhan o’r rhaglen imiwneiddio genedlaethol.
Mae’n cael ei roi fel mater o drefn ar yr un pryd â’r brechlyn MenACWY.
Clwyfiau sy’n beryglus i tetanus
Efallai y caiff pobl ifanc a phobl ifanc o dan 25 oed sy’n cael clwyf sy’n beryglus i tetanus gynnig dos o’r brechlyn 3 mewn 1.
Cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ewch i’r adran anafiadau bach neu A&E agosaf os ydych chi’n pryderu am glwyf, yn enwedig os:
- Mae’n glwyf dwfn
- Mae baw neu rhywbeth yn y clwyf
- Nid yw eich plentyn wedi cael y brechlyn tetanus yn llawn, neu os nad ydych chi’n siŵr
Bydd meddyg yn asesu’r clwyf a phenderfynu a oes angen triniaeth. Os nad yw’r brechlyn tetanus wedi’i roi’n llawn, efallai y caiff dos o frechlyn sy’n cynnwys tetanus ei roi.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y brechlyn 3 mewn 1, neu os ydych chi’n ansicr ynghylch pryd dylid ei roi, gallwch gysylltu â’ch meddygfa am gyngor.
Diogelwch ac effeithiolrwydd
Mae’r brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1 ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau yn frechlyn diogel iawn.
Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o detanws, difftheria a pholio. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau’r clefydau hyn, hyd yn oed os ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich brechu.
I gael rhagor o wybodaeth am tetanws, difftheria a polio, ewch i wefan GIG 111 Cymru:
- Gwybodaeth am Tetanws (safle allanol).
- Gwybodaeth am Difftheria (safle allanol).
- Gwybodaeth am Polio (safle allanol).
Neu dysgwch fwy am yr afiechydon ar ein tudalennau, lle mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu:
Sgîl-effeithiau y brechlyn
Fel gyda phob brechlyn, mae rhai pobl yn cael mân sgîl-effeithiau fel:
- Chwyddo
- Cochni
- Safle’r pigiad fymryn yn ddolurus
Weithiau gall lwmp bach, di-boen ddatblygu, ond fel rheol mae’n diflannu mewn ychydig wythnosau. Mae adweithiau eraill yn brin. Am fwy o wybodaeth am y sgîl-effeithiau cyffredin a phrin, ewch i wefan GIG 111 Cymru (safle allanol).
Os ydych chi’n bryderus am symptomau, ffoniwch GIG 111 Cymru ar 111 neu eich meddygfa. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.
Gallwch roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy gynllun y Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy fynd i wefan Yellow Card (safle allanol) neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 15fed Rhagfyr 2025