Atal cenhedlu - Atal cenhedlu parhaol
Diffrwythloni
Mae diffrwythloni yn ddull atal cenhedlu parhaol ar gyfer pobl nad ydynt eisiau mwy o blant, neu bobl nad ydynt eisiau plant o gwbl, ac mae dros 99% yn sicr o atal beichiogrwydd. Mae’n gweithio drwy atal sberm rhag cwrdd ag wy.
Diffrwythloni dyn
Diffrwythloni dyn (fasdoriad) – Gwneir hyn drwy dorri a selio neu glymu’r fas defferens (y tiwb sy’n cario sberm o’r ceilliau i’r pidyn).
Ewch i wefan GIG 111 Cymru am fwy o wybodaeth am ddiffrwythloni dyn.
Diffrwythloni menyw
Diffrwythloni menyw (cau tiwbiau ffalopaidd) – Gwneir hyn drwy dorri, selio neu flocio’r tiwbiau ffalopaidd sy’n cario wy o’r ofari i’r groth.
Ewch i wefan GIG 111 Cymru am fwy o wybodaeth am ddiffrwythloni menyw.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 19eg Mehefin 2025