Atal cenhedlu - Cylch geweiniol atal cenhedlu
Cylch bach plastig, meddal, tua 4mm o drwch a 5.5cm o ddiamedr yw’r cylch gweiniol. Mae’n cael ei osod yn y wain (fagina) am 21 diwrnod lle mae’n rhyddhau dau hormon – estrogen a progestogen. Mae’r rhain yn debyg i’r hormonau naturiol a gynhyrchir gan yr ofarïau ac maent fel y rhai a ddefnyddir yn y bilsen gyfun.
Ewch i wefan GIG 111 Cymru am fwy o wybodaeth am y cylch geweiniol.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 19eg Mehefin 2025