Atal cenhedlu - Atal cenhedlu rhwystrol
Mae dulliau atal cenhedlu rhwystrol yn cynnwys diafframau, condomau a chapiau gwddf y groth. Maen nhw’n gweithio drwy atal sberm rhag cyrraedd wy drwy greu rhwystr ffisegol rhwng y ddau.
Y condom yw’r unig ddull atal cenhedlu sy’n gallu eich amddiffyn rhag heintiau.
Archebu condomau am ddim o GIG CymruCondom allanol (condom dyn)
Mae condom allanol yn ffitio dros bidyn a chodiad arno ac mae wedi’i wneud o latecs tenau iawn (rwber). Os oes gennych alergedd i latecs, mae rhai polywrethan (plastig) neu polyisopren ar gael. Gallwch archebu condomau am ddim o GIG Cymru.
Am fanylion ar Gynllun Cerdyn-C Cymru, ewch i wefan Cerdyn C-Cymru.
Ewch i wefan GIG 111 Cymru am fwy o wybodaeth am gondomau dynion.
Condom mewnol (condom menyw)
Mae condom mewnol wedi’i wneud o polywrethan (plastig meddal) neu nitril polymer (rwber synthetig). Mae’n cael ei roi yn y wain (fagina) ac mae’n ei leinio’n llac.
Ewch i wefan GIG 111 Cymru am fwy o wybodaeth am gondomau menywod.
Diafframau a chapiau gwddf y groth
Maen nhw’n ffitio y tu mewn i’ch gwain (fagina) ac yn gorchuddio gwddf y groth (y fynedfa i’r groth). Mae gwahanol siapiau a meintiau o ddiafframau a chapiau i’w cael.
Cromenni crwn ag ymyl hyblyg yw diafframau gweiniol. Maent wedi’u gwneud o silicon.
Mae capiau gwddf y groth hefyd wedi’u gwneud o silicon, ond maent yn llai.
I fod yn effeithiol, dylid defnyddio diafframau a chapiau â sbermladdwr. Sylwedd sy’n lladd sberm yw sbermladdwr. Mae ar gael mewn gwahanol ffurfiau, er enghraifft eli neu gel.
Ewch i GIG 111 Cymru am fwy o wybodaeth am ddiafframau a chapiau gwddf y groth.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 19eg Mehefin 2025