Atal cenhedlu - Cynllunio teulu naturiol
Mae cynllunio teulu naturiol yn ffordd o atal beichiogrwydd.
Mae’r prif fathau o gynllunio teulu naturiol yn cynnwys:
- tracio’r mislif i weld pryd rydych yn fwyaf ffrwythlon er mwyn osgoi rhyw neu ddefnyddio condomau ar y dyddiau hynny (dull ymwybyddiaeth ffrwythlondeb).
- bwydo eich babi ar y fron am hyd at chwe mis i oedi ofyliad (dull amenorhea y llaetha).
- nid yw tynnu’r pidyn cyn alldaflu (weithiau gelwir hyn y dull tynnu) yn ffordd effeithiol o osgoi beichiogrwydd ac nid yw’n cael ei argymell.
Ewch i wefan GIG 111 Cymru am fwy o wybodaeth am gynllunio teulu naturiol.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 20fed Mehefin 2025