Neidio i'r cynnwys

Atal cenhedlu - Atal cenhedlu rhwystrol

Mae dulliau atal cenhedlu rhwystrol yn cynnwys diafframau, condomau a chapiau gwddf y groth. Maen nhw’n gweithio drwy atal sberm rhag cyrraedd wy drwy greu rhwystr ffisegol rhwng y ddau.

Y condom yw’r unig ddull atal cenhedlu sy’n gallu eich amddiffyn rhag heintiau.

Archebu condomau am ddim o GIG Cymru

Condom allanol (condom dyn)

Mae condom allanol yn ffitio dros bidyn a chodiad arno ac mae wedi’i wneud o latecs tenau iawn (rwber). Os oes gennych alergedd i latecs, mae rhai polywrethan (plastig) neu polyisopren ar gael. Gallwch archebu condomau am ddim o GIG Cymru.

Am fanylion ar Gynllun Cerdyn-C Cymru, ewch i wefan Cerdyn C-Cymru.

Ewch i wefan GIG 111 Cymru am fwy o wybodaeth am gondomau dynion.

Condom mewnol (condom menyw)

Mae condom mewnol wedi’i wneud o polywrethan (plastig meddal) neu nitril polymer (rwber synthetig). Mae’n cael ei roi yn y wain (fagina) ac mae’n ei leinio’n llac.

Ewch i wefan GIG 111 Cymru am fwy o wybodaeth am gondomau menywod.

Diafframau a chapiau gwddf y groth

Maen nhw’n ffitio y tu mewn i’ch gwain (fagina) ac yn gorchuddio gwddf y groth (y fynedfa i’r groth). Mae gwahanol siapiau a meintiau o ddiafframau a chapiau i’w cael.

Cromenni crwn ag ymyl hyblyg yw diafframau gweiniol. Maent wedi’u gwneud o silicon.

Mae capiau gwddf y groth hefyd wedi’u gwneud o silicon, ond maent yn llai.

I fod yn effeithiol, dylid defnyddio diafframau a chapiau â sbermladdwr. Sylwedd sy’n lladd sberm yw sbermladdwr. Mae ar gael mewn gwahanol ffurfiau, er enghraifft eli neu gel.

Ewch i GIG 111 Cymru am fwy o wybodaeth am ddiafframau a chapiau gwddf y groth.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 19eg Mehefin 2025