Neidio i'r cynnwys

Adnoddau brechlyn ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol - Gwybodaeth brechu

Byddwch yn ymwybodol nad yw adnoddau ar ein tudalennau imiwneiddio a brechu yn cymryd lle barn glinigol ymarferwyr. Dylai ymarferwyr gyfeirio at imiwneiddio rhag clefydau heintus (Llyfr Gwyrdd)  Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) i gael y wybodaeth ddiweddaraf am weinyddu brechlynnau a gweithdrefnau brechu, ar gyfer clefydau heintus y gellir eu hatal drwy frechu yn y DU.

Gellir chwilio am daflenni data a thaflenni cleifion Crynodeb o Nodweddion Cynnyrch (SPC) ar y Compendiwm Meddyginiaethau Electronig ar wefan Medicines. (Cliciwch ar y ddolen, teipiwch enw’r brechlyn (e.e. polio) yn y blwch chwilio, yna cliciwch Go).

Mae MedicinesComplete (Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain gynt (BNF) a nawr yn rhan o MedicinesComplete) hefyd yn ddefnyddiol i gael gwybodaeth am frechlynnau/imiwnoglobwlin penodol:

Mae’r wefan Grŵp Brechlyn Rhydychen yn darparu gwybodaeth am frechlynnau, clefydau heintus, diogelwch a gwyddor brechlynnau. Mae’r grŵp wedi llunio adnodd defnyddiol sy’n amlinellu’r cynhwysion mewn brechlynnau (yn yr adran diogelwch a gwyddor brechlynnau).

Gallwch arechebu taflenni, posteri ac adnoddau brechu eraill o Adnoddau Gwybodaeth Iechyd. (Need to update)

Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol Cymru gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2022. Fe’i datblygwyd i adeiladu ar y ddarpariaeth ragorol o raglenni brechu ac imiwneiddio ac i baratoi’r ffordd ar gyfer trawsnewid brechlynnau yng Nghymru. Mae’r fframwaith yn nodi 6 maes blaenoriaeth allweddol i ganolbwyntio arnynt: tegwch brechu; brechu wedi’i alluogi’n ddigidol; cymhwysedd; llythrennedd brechu cyhoeddus; defnyddio; a llywodraethu.

Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI)

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn bwyllgor cynghori arbenigol annibynnol sy’n rhoi cyngor imiwneiddio i awdurdodau iechyd y DU, gan gynnwys amserlenni brechu ac argymhellion diogelwch brechlynnau. Yng Nghymru, mae ganddo gyfrifoldeb statudol.

Mae gwefan y JCVI yn cynnwys gwybodaeth, adroddiadau blynyddol, cofnodion cyfarfodydd, cyhoeddiadau, datganiadau, cyngor, argymhellion, a dolen i gynnwys wedi’i archifo. I’w cael mynediad i’r wybodaeth hon, ewch i wefan llywodraeth DU.

Y Llyfr Gwyrdd

Mae’r Llyfr Gwyrdd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am frechlynnau a gweithdrefnau brechu, ar gyfer clefydau heintus y gellir eu hatal drwy frechu yn y DU. I gael gwybodaeth am imiwneiddio yn erbyn clefydau heintus, ewch i wefan Llywodraeth y DU.

Amserlenni brechu

Mae’r amserlen imiwneiddio gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am frechiadau rheolaidd a brechiadau nad ydynt yn rheolaidd.

Amserlenni: Y DU a gwledydd eraill

Mae amserlen imiwneiddio rheolaidd y DU yn cwmpasu pob plentyn ac oedolyn. Argymhellir brechlynnau ychwanegol ar gyfer rhai unigolion risg uchel e.e.. Brechlynnau Hep B, BCG, niwmococol a meningococol. I gael rhagor o wybodaeth gweler penodau perthnasol y Llyfr Gwyrdd.

Gwybodaeth:

Gall cymhwysedd am brechlyn fod yn wahanol yng Nghymru a Lloegr ar gyfer rhai rhaglenni.

Brechu unigolion sydd â statws imiwneiddio ansicr neu anghyflawn

Mae’r ddolen isod yn rhoi nodyn atgoffa, yn seiliedig ar y Llyfr Gwyrdd, i helpu gweithwyr iechyd proffesiynol i frechu pobl yn gywir i’w hamddiffyn nhw a’u teuluoedd rhag clefydau.

Mae’n bwysig tynnu sylw at y ffaith bod y cyngor mewn perthynas â Hib/MenC (Menitorix®) yn wahanol i bolisi Cymru. Mae GIG Cymru’n pennu ‘stop terfynol’ felly o 1 Gorffennaf 2025, ni fydd Hib/MenC (Menitorix®) yn cael ei gynnwys yn yr amserlen imiwneiddio i blant yng Nghymru mwyach. Cyfeiriwch at Bolisi Cymru Newidiadau i’r rhaglen imiwneiddio rheolaidd i blant ac i’r rhaglen frechu ddewisol rhag hepatitis B ar wefan llywodraeth Cymru am wybodaeth bellach.

Unigolion sy’n cael eu brechu yn unol ag amserlen y tu allan i’r DU

Os nad yw’n hysbys a yw plant ac oedolion sy’n dod i’r DU wedi cael eu himiwneiddio’n llwyr, dylid tybio nad ydynt wedi’u himiwneiddio a dylid cynllunio cwrs llawn o imiwneiddiadau.

Gweler yr amserlenni imiwneiddio yn y DU ac mewn gwledydd eraill uchod am ddolenni i wybodaeth am amserlenni imiwneiddio:

Imiwneiddio unigolion â chyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes

Gellir dod o hyd i brotocolau imiwneiddio ar gyfer cleifion ar ôl trawsblaniad a phobl â chanser neu lewcemia isod:

Oedolion

Plant

Nodyn: Cyfeiriwch at newidiadau cenedlaethol y rhaglen imiwneiddio plentyndod ochr yn ochr â’r canllawiau protocol canlynol. 

Imiwneiddio staff gofal iechyd a labordy

Mae Pennod 12 y Llyfr Gwyrdd yn cynnwys gwybodaeth am imiwneiddio i weithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol.

Imiwneiddio yn ystod beichiogrwydd

Cyngor i weithwyr iechyd proffesiynol ar fenywod beichiog sy’n cael eu brechu’n anfwriadol rhag brech yr ieir, yr eryr neu’r frech goch, clwy’r pennau, rwbela.

Tegwch brechu

Mae’r dudalen hon yn cynnwys adnoddau a chanllawiau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac eraill i gefnogi GIG Cymru i leihau annhegwch ac anghydraddoldebau o ran rhoi’r brechlyn.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 16eg Mehefin 2025