Neidio i'r cynnwys

Adnoddau brechlyn ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol - Storio, dosbarthu a gwaredu brechlynnau

Storio, dosbarthu a gwaredu brechlynnau ar y llyfr gwyrdd, pennod 3 (UKHSA)

Mae trafod a storio brechlynnau’n gywir cyn eu rhoi yn hanfodol er mwyn cynnal effeithiolrwydd brechlynnau.  Y cysyniad allweddol yw’r tymheredd cyson, sy’n cynnwys popeth sy’n angenrheidiol i gadw brechlynnau o dan yr amodau storio gofynnol o’r gwneuthurwr hyd at eu rhoi.

Mae sensitifrwydd tymheredd brechlynnau gan Sefydliad Iechyd y Byd yn cynnig gwybodaeth am reoli brechlynnau i’w diogelu rhag gwres ac oerfel ac mae’n cynnwys manylion am sefydlogrwydd brechlynnau a ddefnyddir fel rhan o raglenni imiwneiddio cenedlaethol.

Mae Canllawiau ar Ddigwyddiadau Brechu (Diweddarwyd Ionawr 2020) yn canllawiau i weithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymwneud ag imiwneiddio ar gamau i’w cymryd mewn ymateb i wallau o ran brechlynnau.

Mae ImmForm hefyd yn cael ei ddefnyddio i roi gwybod am achosion mewn perthynas â thymheredd cyson.

Defnyddio brechlynnau oddi ar y label

Weithiau mae’r dosau ar gyfer rhai brechlynnau plentyndod trwyddedig yn wahanol (“oddi ar y label”) i’r dosau a argymhellir yng Nghrynodeb o Nodweddion Cynnyrch (SPC) y cwmni. Gelwir hyn yn gyffredinol yn ddefnydd “oddi ar y label”.

Yn yr achosion hyn, mae’r argymhelliad “oddi ar y label” yn cael ei ategu gan ganllawiau gan y llywodraeth, y JCVI neu un o argymhellion y Llyfr Gwyrdd ac mae wedi’i gynnwys yn y templedi PGD.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 16eg Mehefin 2025