Neidio i'r cynnwys

Cyfarfod Bwrdd 17 Rhagfyr 2020

Gwybodaeth am y cyfarfod

Rhoddir rhybudd trwy hyn y bydd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei gynnal ddydd Iau, 17 Rhagfyr 2020 am 10am.  

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw, ac yn cynnal cymaint o’i fusnes â phosibl mewn sesiynau y mae croeso i aelodau’r cyhoedd eu mynychu a’u harsylwi fel rheol.  Fodd bynnag, yng ngoleuni’r cyngor a’r arweiniad cyfredol mewn perthynas â Coronafeirws (COVID-19) penderfynom ym mis Mawrth 2020 er lles gorau diogelu’r cyhoedd, ein staff ac aelodau’r Bwrdd, na fyddem bellach yn ymgynnull mewn grwpiau er mwyn cynnal cyfarfodydd. Ers hynny, rydym wedi bod yn cynnal cyfarfodydd Bwrdd rhithwir, ac nid ydym wedi gallu eu ffrydio’n fyw.  

Rydym yn falch o gynghori ein bod yn darlledu ein cyfarfod Bwrdd ar 17 Rhagfyr roi’r cyfle i unrhyw un sydd â mynediad i’r rhyngrwyd arsylwi mewn amser real. Mae’r ddolen i’r cyfarfod wedi’i chynnwys isod a bydd hefyd yn cael ei rhannu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol:

 

Mae recordiad o gyfarfod 17 Rhagfyr 2020 ar gael ar y ddolen isod. Yn Saesneg yn unig mae’r fideo hwn ar gael.

Recordiad o'r cyfarfod

Yn Saesneg yn unig mae'r fideo hwn ar gael