Eich amddiffyn rhag brech M
Mae brech M yn glefyd prin sy’n cael ei achosi gan y feirws brech M, sy’n lledaenu trwy gyswllt agos rhwng pobl.
Mae brechlyn ar gael i helpu i amddiffyn rhag brech M. Yng Nghymru, mae’r GIG yn cynnig y brechlyn ar sail fesul achos i Ddynion Hoyw, Deurywiol a Dynion eraill sy’n cael Rhyw gyda Dynion (GBMSM) sy’n bodloni unrhyw un o’r meini prawf yn y rhestr isod.
Cael partneriaid rhywiol lluosog
- Cymryd rhan mewn rhyw grŵp (neu bartïon rhyw)
- Mynd i leoliadau rhyw (fel sawnau neu ystafelloedd cefn)
- Wedi cael haint bacteriol yn ddiweddar fel clamydia neu gonoroea o ganlyniad i ryw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
Gall pobl sydd â chysylltiad agos ag aelodau’r gymuned GBMSM sydd mewn perygl o gael brech M hefyd gael y brechlyn. Mae hyn yn cynnwys pobl o bob rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol.
Gweithredwch: Os ydych chi’n meddwl eich bod chi mewn perygl, trefnwch apwyntiad gyda’ch gwasanaeth iechyd rhywiol.
Gallwch ddod o hyd i restr o wasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru yn wefan GIG 111 Cymru (safle allanol). Cliciwch ar y tab ‘Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlu’ i weld manylion y gwasanaethau.