Neidio i'r cynnwys

Brechiad HPV ar gyfer GBMSM

Mae’r brechiad papilomafeirws dynol (HPV) ar gael gan wasanaethau iechyd rhywiol arbenigol a chlinigau HIV ar gyfer dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion (GBMSM). Mae ar gael i’r rhai 45 oed neu iau.

Bydd y brechiad yn helpu i atal haint HPV, a all achosi dafadennau gwenerol a chanserau sy’n gysylltiedig â HPV fel canser yr anws, y pidyn a’r gwddw. Mae’n arbennig o bwysig i’r rhai sy’n byw gyda HIV a’r rhai sydd â phartneriaid rhywiol lluosog.

Mae’r adnodd hon yn cynnwys gwybodaeth am HPV a’r brechiad.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech mwy o wybodaeth, gallwch ymweld â wefan GIG 111 Cymru (safle allanol), siaradwch â’ch meddyg neu nyrs neu cysylltwch â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111.