Neidio i'r cynnwys

Amddiffyn rhag haint HPV er mwyn helpu i leihau eich risg o ganser

Ni allwch amddiffyn eich hun rhag popeth.

Ond gallwch gael eich brechu rhag y feirws papiloma dynol (HPV), sef feirws cyffredin sy’n gallu achosi llawer o wahanol fathau o ganser.

Mae’r brechlyn HPV yn helpu i amddiffyn pobl ifanc rhag canserau a achosir gan HPV. Mae mwy na 280 miliwn o ddosau o’r brechlyn wedi’u rhoi ledled y byd, mewn o leiaf 113 o wledydd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech mwy o wybodaeth, gallwch ymweld â wefan GIG 111 Cymru, siaradwch â’ch meddyg neu nyrs neu cysylltwch â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111.

Amddiffyn rhag haint HPV er mwyn helpu i leihau eich risg o ganser – Fideo BSL