Neidio i'r cynnwys

PEP (Post Exposure Prophylaxis) a PrEP (Pre-Exposure Prophylaxis)

Ydych chi’n chwilio am Broffylacsis ôl-gysylltiad HIV (PEP/PEPSE)?

Mae PEP (Post-Exposure Prophylaxis) yn gwrs o dabledi gwrth-HIV a gymerir am 28 diwrnod ar ôl rhyw a allai eich atal chi – neu rywun rydych wedi cael rhyw ag ef/hi – rhag cael eich heintio â HIV (er enghraifft pan nad ydych chi wedi defnyddio condom neu os bydd condom yn torri).

Er mwyn sicrhau’r siawns orau i’r PEP fod yn effeithiol, mae gofyn i chi ddechrau cymryd y feddyginiaeth cyn gynted â phosib ar ôl dod i gysylltiad â HIV – cyn pen 24 awr fyddai orau, ond ddim hwyrach na 72 awr (3 diwrnod). Dydy’r PEP ddim yn debygol o weithio ar ôl 72 awr.

Os ydych chi’n meddwl bod angen i chi ddechrau cymryd PEP, cysylltwch â ni ar unwaith. Ewch i GIG 111 Cymru a dewiswch ‘Iechyd Rhywiol’ a rhowch eich cod post i ddod o hyd i’r gwasanaethau sy’n gyfagos i chi.

Os oes arnoch angen PEP dros y penwythnos neu y tu allan i oriau swyddfa, pan fydd y clinigau ar gau, y lle gorau i chi fynd yw’r Adran Achosion Brys.

Beth ydi Pre-Exposure Prophylaxis (PrEP)?

Strategaeth newydd i atal HIV yw Pre-Exposure Prophylaxis, neu PrEP, lle bydd pobl sy’n HIV-negyddol yn defnyddio cyffuriau ôl-wrthfiraol HIV a ddefnyddir fel arfer i drin heintiad HIV, i leihau eu risg o gael eu heintio ag HIV.

Ers haf 2018 mae’r GIG Cymru wedi bod yn rhadnodi’r paratoadau cyffredinol am y meddyginiaeth sydd yn cael ei defnyddio i creu PrEP (Emtricitabine 200mg a Tenofovir Disproxil 245mg). Mae yna nifer o creadigwyr sydd yn cwrdd a’r safonau’r WHO a’r FDA. ‘Teva’ yw’r brand cyffredin sydd yn cael ei darparu trwy GIG Cymru.

Sut mae PrEP yn gweithio?

Os byddwch yn eich diogelu eich hun â PrEP ac yn cael eich amlygu i HIV, bydd PrEP yn atal HIV rhag mynd i mewn i’ch celloedd a dyblygu. Felly dylech ddal i fod yn HIV negyddol. Fodd bynnag, bydd PrEP yn effeithiol dim ond pan fydd yna ddigon o’r sylweddau gweithredol yn eich gwaed cyn i chi gael eich amlygu i HIV.

Ddylwn i ystyried cymryd PrEP?

Ar gyfer pobl nad oes ganddyn nhw HIV y mae PrEP – pobl sydd â risg mawr o’i gael oherwydd eu hymddygiad rhywiol neu eu hamlygiad potensial i haint HIV, felly os ydych chi’n HIV negyddol, ac ni fyddwch yn defnyddio condomau bob amser, yna gallai PrEP leihau eich risg o gael HIV.

Yr arwyddion y gallech fod â risg uwch o HIV, ar wahân i ymddygiad, yw eich bod wedi cael haint a drosglwyddir yn rhywiol yn ddiweddar neu eich bod wedi defnyddio ‘post-exposure prophylaxis’ (PEP).

Mae treialon ymysg dynion fydd yn cael rhyw â dynion, merched trawsryweddol, pobl heterorywiol, a defnyddwyr sy’n chwistrellu cyffuriau wedi dangos y gall PrEP leihau’r risg o haint HIV yn eithaf sylweddol – pan gymerir PrEP yn gyson, ac os defnyddir dulliau rhyw diogel eraill hefyd.

Fodd bynnag, cyn dechrau PrEP, mae’n rhaid i chi fod yn sicr eich bod yn HIV negyddol. Mae prawf HIV-negyddol sydd wedi’i gadarnhau’n hollol angenrheidiol i ddechrau ar PrEP. Hefyd mae angen i bobl sydd ar PrEP gael eu hail-brofi am HIV bob tri mis. Fe gewch brawf HIV yn eich Clinig Iechyd Rhywiol Integredig lleol.

Am ba hyd y bydd angen i mi gymryd PrEP cyn iddo fod yn effeithiol?

O’i gymryd pob dydd, mae PrEP yn ddiogel ac yn hynod effeithiol i atal haint HIV. Mae PrEP yn cyrraedd lefel amddiffynnol ar gyfer rhyw rhefrol trwy gymryd dos dwbl rhwng 2 a 24 awr cyn rhyw ac yna cymryd un tabled am 24 awr ar ôl, ac eto 48 awr ar ôl y dos cyntaf. Fodd bynnag, os na chymerir bob dydd mae’r effaith amddiffynnol yn llaihau. Ar gyfer rhyw trwy’r wain, mae PrEP yn cyrraedd ei lefel mwyaf amddiffynnol ar ôl tua 7 diwrnod o ddefnydd bob dydd, ac argymhellir bod angen ei gymryd bob dydd i gynnal yr effaith amddiffynnol.

A allaf i ddefnyddio PrEP ar ôl cael fy amlygu i HIV?

Mae PrEP i’w ddefnyddio dim ond ar gyfer pobl sydd â risg a pharhaus o gael haint HIV ond sydd wedi cael amser i gymryd y cyffur fel ei fod yn cyrraedd ei lefelau amddiffynnol cyn cael ei amlygu i HIV. Gallai ‘POST-exposure prophylaxis’ (PEP) eich atal rhag datblygu haint HIV os byddwch yn credu eu bod wedi eu hamlygu i’r firws yn ddiweddar. Fodd bynnag, nid yw’n gweithio bob amser. Mae’n rhaid i chi ddechrau’r driniaeth cyn gynted ag sydd bosib wedi i chi gael eich amlygu i HIV, o fewn ychydig oriau yn ddelfrydol ac o fewn 72 awr fan bellaf ar ôl amlygiad posib diweddar i HIV i fod ag unrhyw bosibilrwydd o weithio. Cymerir PEP yn ddyddiol am hyd at 28 diwrnod wedi iddo gael ei ragnodi i rywun sy’n credu eu bod wedi’u hamlygu i HIV.

Ydi PrEP yn fy niogelu i rhag STIs eraill?

Nid yw PrEP yn atal trosglwyddiad STIs (Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol) eraill – mae angen i chi ddefnyddio condomau i ddiogelu rhag STIs. Yn gyffredinol bydd cyfranogwyr treialon PrEP a chleientiaid rhaglenni PrEP â chyfraddau uwch o STIs yn gyffredinol, ond gan fod y cyfranogwyr a’r cleientiaid hyn â thuedd i ymddwyn yn beryglus yn rhywiol, mae’n wir ar y dechrau cyn iddyn nhw gychwyn ar PrEP. Mae’r rhan fwyaf o astudiaethau’n dangos fod dynion sydd â’r risg mwyaf o ran HIV – sy’n cynnwys y rheiny sydd eisoes ddim yn defnyddio condomau – yn fwyaf tebygol o geisio PrEP. Mewn llawer o ddinasoedd lle cynhaliwyd prosiectau arddangos roedd cyfraddau STI yn codi ymhell cyn i PrEP ddod ar gael yn eang.

Beth yw’r broses o gael PrEP gan y GIG yng Nghymru?

I gael PrEP gan y GIG yng Nghymru mae angen i chi gysylltu â’r clinig iechyd rhywiol. Fe gewch brofion gwaed i sicrhau fod eich arennau a’ch iau yn gweithio’n normal, gan y gallai’r cyffur effeithio ar hynny. Fe gewch brofion hefyd i sicrhau eich bod yn HIV negyddol gan nad yw cymryd y meddyginiaeth am PrEP ar ei ben ei hun yn ddigonol i drin HIV, felly os ydych chi eisoes ag HIV gallai olygu bod y firws yn datblygu ymwrthedd i gyffuriau a hynny’n ei gwneud yn anodd i chi gael eich trin.

Bob tro yr ewch yno fe gewch brofion gwaed i sicrhau bod eich arennau a’ch iau yn dal i weithio’n iawn. Fe gewch brofion hefyd ar gyfer HIV ac STIs eraill.

Ym mhle yng Nghymru allaf i gael PrEP?

I gael PrEP am ddim ar y GIG gallwch fynd i’r clinigau isod:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Casnewydd

Ffôn: 01633234848 (ffôn wedi’i neilltuo ar gyfer ymholiadau PrEP a HIV)

neu 01495765065 (opsiwn 2 ar gyfer Saesneg, 1 ar gyfer Cymraeg yna opsiwn 2 ar gyfer HIV & PrEP).

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Llinell apwyntiadau: Conwy a Sir Ddinbych: 03000 856 000 (Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9.00am a 3.00pm).

Llinell benodi: Sir y Fflint a Wrecsam: 03000 847662 (Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9.00am a 1.00pm).

Llinell benodi: Ynys Môn a Gwynedd: 03000 850074 (Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am-3pm).

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Clinig PrEP, Adran Iechyd Rhywiol, CRI
Ffôn: 029 2033 5208

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Ysbyty Dewi Sant
Ffôn: 01443 443836

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Llinell gwybodaeth ac apwyntiadau: 01267 248674

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Ysbyty Singleton.

Ffôn: 0300 555 0279

neu e-bost [email protected] i gael apwyntiad

Os oes unrhyw gwestiynau gennych, a ddim yn gallu mynd i glinig, neu angen cymorth i’w cysylltu, cysylltwch â’r tîm iechyd rhywiol drwy e-bostio: [email protected] os gwelwch yn dda.

Ym mhle arall allwn i gael PrEP?

Gellir prynu PrEP yn rhwydd ar-lein a gellir ei fewnforio i’r DU heb dorri unrhyw gyfreithiau. Mae yna nifer o wefannau lle gallwch brynu fersiynau Truvada® generig sy’n gryn dipyn yn rhatach. Dolen Saesneg yw hon.