Neidio i'r cynnwys

Profi heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs)

Profi a Phostio

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth yma i gael pecyn profi cartref am ddim am glamydia a gonorea. Gallwch hefyd gael pecyn am ddim a fydd yn profi am feirysau a gludir yn y gwaed megis HIV, siffilis, hepatitis B a hepatitis C. Gallwch ddefnyddio’r rhain yn eich cartref, wedyn eu postio i’r labordy yn yr amlen ragdaledig.  Danfonwch popeth yn ôl gyda’ch sampl i’r labordy, gan gynnwys y ffurflen gais, oherwydd ni ellir eich samplau cael ei brofi hebddo.

Am fwy o wybodaeth a chyfarwyddiadau pecyn ewch i Sianel YouTube Iechyd Rhywiol Cymru. Mae’r rhan helaeth o’r fideos ar gael yn Gymraeg ond mae rhai yn uniaith Saesneg.

Proses pecyn profi cartref

  1. Cam 1:Archebu eich pecyn

    Mae modd i chi archebu eich pecyn drwy’r post gan ddefnyddio’r ddolen isod.

    Dylech dderbyn eich pecyn prawf o fewn 3-5 diwrnod gwaith.

    Os oes unrhyw ymholiadau gennych am yr archebu neu am y gwasanaeth hwn, e-bostiwch [email protected]. Nodwch fod y blwch yma’n cael ei fonitro Llun i Gwener, 9am i 5pm.

     

  2. Cam 2:Mae eich pecyn yn cyrraedd yn y post

    Mae’r pecyn prawf yn gyfrwys. Nid oes gan y pecyn llwyd allanol unrhyw logo neu unrhyw wybodaeth adnabod; mae gan y bocs ei haen allanol ei hun gyda gwybodaeth am gydrannau a phwrpas y pecyn. Mae rhai fideos ar sianel YouTube Iechyd Rhywiol Cymru sy’n dangos i chi sut maen nhw’n edrych.

    Os byddwch yn archebu sawl prawf (h.y. pecyn wrin a phecyn gwaed) byddant yn cyrraedd yn yr un pecyn. Yr unig amser y byddwch yn cael mwy nag un pecyn yw os ydych wedi cael eich trin am siffilis o’r blaen.

     

  3. Cam 3:Casglu eich sampl

    Defnyddiwch y pecyn yng nghysur eich cartref i gasglu sampl. Mae cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn yn cael eu darparu gyda’r pecyn.

  4. Cam 4:Postio eich sampl

    Defnyddiwch unrhyw flwch postio Post Brenhinol i bostio eich sampl.

  5. Cam 5:Mae eich sampl yn cael ei phrosesu yn y labordy

    Mae’r pecyn wrin yn profi am glamydia a gonorea. Mae pecynnau swabiau’r wain, y gwddf a’r rhefr yn profi am glamydia a gonorea.

    Mae’r pecyn gwaed yn profi HIV, siffilis, hepatitis B, a hepatitis C.

  6. Cam 6:Derbyn eich canlyniadau

    Dylech gael eich canlyniadau o fewn 3 wythnos ar ôl dychwelyd eich pecyn. Os nad ydych wedi cael eich canlyniadau o fewn 3 wythnos anfonwch e-bost at [email protected] a byddwn yn gwirio eich canlyniadau i chi. Nodwch fod y blwch yma’n cael ei fonitro Llun i Gwener, 9am i 5pm.

    Os yw’ch holl ganlyniadau’n NEGATIF ac roedd modd prosesu’ch holl samplau, byddwch yn cael neges destun.

    Os yw unrhyw rai o’ch canlyniadau’n BOSITIF, bydd y gwasanaeth iechyd rhywiol yn eich ardal yn cysylltu â chi i drefnu eich triniaeth a’ch gofal cyfrinachol am ddim.

    Os ydych yn cael canlyniad ADWEITHIOL, NID yw hynny’n golygu bod y canlyniad yn bositif. Mae’n golygu bod y prawf wedi ymateb i rywbeth yn eich gwaed.
    Mae’r prawf cyntaf hwn yn sensitif iawn. Mae’n amlygu bron pob haint, ond gall hefyd groes-ymateb â phethau eraill yn eich gwaed.
    Os ydych yn cael canlyniad ADWEITHIOL, yna mae angen i chi gael ail sampl gwaed mewn clinig er mwyn gallu cynnal profion pellach.
    Mewn nifer o achosion, ni fydd y canlyniad cychwynnol yn cael ei gadarnhau a bydd y canlyniad terfynol yn un negatif.

    Os ydych yn derbyn unrhyw canlyniad ADWEITHIOL, bydd y gwasanaeth iechyd rhywiol yn eich ardal, yn cysylltu gyda chi i drefnu profion pellach.

Er mwyn i ni ddarparu’r gwasanaeth bydd rhaid i ni gael rhywfaint o ddata personol gennych, a gaiff eu casglu ar y system, sy’n cael ei weithredu gan Signum Health. Dim ond y data personol sy’n angenrheidiol ar gyfer y broses penodol rydym yn ei chwblhau fyddwn ni’n eu casglu a’u phrosesu. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n deall bod eich data personol yn werthfawr iawn ac rydym yn hynod o ofalus gyda diogelwch data oherwydd hynny. Rydym yn defnyddio mesurau technegol cadarn i sicrhau bod eich data personol a’r mynediad ato wedi’u cyfyngu, i bobl sydd angen eu phrosesu fel rhan o’u waith. Yn unol â gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar gyfer Diogelu Data (GDPR), pan rydym yn casglu neu’n prosesu data personol gan bobl, rhaid i ni roi gwybod iddynt sut a pham rydym yn eu phrosesu, beth rydym yn ei wneud â hwy a gyda phwy, os unrhyw un, ydym am eu rhannu â. Rydym yn gwneud hyn drwy gyfrwng Polisi Preifatrwydd.

Archebu eich pecyn

Os ydych chi’n hapus i barhau a defnyddio’r wasanaeth, archebwch eich pecyn postio gan ddefnyddio’r ddolen isod.

Cofiwch ein bod yn defnyddio gwasanaeth y Post Brenhinol a bod oedi yn effeithio arno weithiau. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth Y Post Brenhinol, ewch yma.

Mpox / BrechM

NI FYDD pecyn samplau gartref STI yn profi am Mpox. Dim ond trwy’r clinig iechyd rhywiol y gallwch chi gael prawf am Mpox – ffoniwch eich gwasanaeth lleol i drafod hyn gyda nhw. Dylech aros gartref ac osgoi cysylltiad agos â phobl eraill hyd nes y byddwch chi wedi cael gwybod beth i’w wneud. Gallwch ddod o hyd i fanylion cysylltu clinig iechyd rhywiol lleol ar wefan GIG 111 Cymru.

Nid yw profi’n bositif (neu’n negyddol am haint sy’n cael ei drosglwyddo’n rhywiol) yn golygu nad oes gennych chi Mpox – dim ond os bydd y meddyg yn eich asesu ac yn gofyn am brawf y cewch chi eich profi am Mpox.

Pecynnau cymunedol

Er mwyn cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaeth Profi a Phostio GIG Cymru, sy’n darparu mynediad cyflym a hawdd at gitiau samplu hunan-brofi ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, rydym nawr yn darparu citiau mewn nifer o leoliadau cymunedol.

Ar gyfer y rhai y byddai’n well ganddynt beidio ag ymweld â lleoliad gofal iechyd i gael eu profi, y rhai sydd efallai heb fynediad digidol at archebu hunan-brofion ar-lein, neu unigolion sydd heb gyfeiriad addas i’w derbyn, gellir casglu citiau o’r safleoedd canlynol:

BIPAB (Caerffili/Casnewydd/Blaenau Gwent/Torfaen/Sir Fynwy

Gellir casglu pecynnau Profi a Phostio o’r lleoliadau canlynol.

Daliwch ati i wirio yma. Mae lleoliadau newydd yn cael eu hychwanegu at ein rhestr o fannau casglu yn rheolaidd.

Blaenau Gwent

Clinig Pobl Ifanc (YPC) Ysbyty Aneurin Bevan | Ysbyty Aneurin Bevan, Rhodfa Calch, Glynebwy NP23 6GL (13 oed+) Dydd Mercher 5pm -7pm (Mynediad Agored)

Bydd swyddfa Brawf Glynebwy yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Bydd Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent (GDAS) yn y Goleudy yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Caerffili

Clinig Denscombe | Clinig Iechyd, Heol Claude, Denscombe, Caerffili, CF83 1GJ Dydd Mawrth 3:30pm – 6:30pm

Clinig Iechyd Rhywiol Caerffili (Clinig Denscombe) | Clinig Iechyd, Heol Claude, Denscombe, Caerffili, CF83 1GJ Dydd Mawrth 3.30pm – 5.00pm a 5.30pm – 7.30pm a dydd Gwener 9.30am – 12.00pm

Clinig Iechyd Rhywiol Bargod | Tŷ Oldway, 14 Stryd Gilfach Bargod, CF81 8LQ Dydd Llun 5.30pm – 7.30pm a dydd Iau 9.30am –12.00pm a 3.30pm – 6.00pm

Bydd Swyddfa Brawf Caerffili yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Bydd Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent (GDAS), Tŷ Sain Ffagan yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Bydd Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent, Tŷ Penmaen yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Sir Fynwy

Clinig Pobl Ifanc BIPAB SECS Clinig Cil-y-coed | Canolfan Iechyd, Heol Cae Mawr, Cil-y-coed NP26 4EW (13 oed +) Dydd Mercher 4.00pm – 6.00pm (Mynediad Agored)

Clinig Pobl Ifanc Rhymni YPC | Uned 22, Ystâd Ddiwydiannol y Lawnt, Rhymni NP22 5PW (13 oed+) Dydd Mawrth 4.00pm – 6.00pm (Mynediad Agored)

Clinig Pobl Ifanc Pont-y-pŵl | Ffordd y Parc, Canolfan Llesiant, Glan-yr-afon, Pont-y-pŵl NP4 6NZ (13 oed +) Dydd Llun 4.00pm – 6.00pm (Mynediad Agored)

Casnewydd

Bydd Greenhouse Casnewydd yn cynnig pecynnau i aelodau

Bydd New Pathways yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Clinig Iechyd Rhywiol Casnewydd |

Bydd Swyddfa Brawf Casnewydd yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Bydd Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent (GDAS) Citadel yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Bydd GDAS Adeilad yr Hen Ysgol yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Bydd GDAS Crug Glas yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Torfaen

Bydd swyddfa Brawf Dwyrain Gwent yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Bydd GDAS The Junction yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Bydd Cymorth i Fenywod Cyfannol yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

BIPBA (Abertawe/Castell-nedd Port Talbot)

Gellir casglu pecynnau Profi a Phostio o’r lleoliadau canlynol.

Daliwch ati i wirio yma. Mae lleoliadau newydd yn cael eu hychwanegu at ein rhestr o fannau casglu yn rheolaidd.

Abertawe

Fferyllfa Medihub, Canolfan Siopa, Heol Gŵyr, Cilâ SA2 7BA

Fferyllfa Superdrug, 35-36 Arcêd Tyddewi, y Cwadrant, Abertawe SA1 3QW

Fferyllfa Allied, 67 Heol Sway, Treforys, Abertawe SA6 6JA

Bydd Crisis (Abertawe) yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth

Bydd Swyddfa Brawf Abertawe yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaetheu g

Castell-nedd Port Talbot

Fferyllfa Allied, Canolfan Adnoddau Port Talbot, Heol Moor, Port Talbot, SA12 7BJ

Fferyllfa Castell-nedd, 32 Stryd y Berllan, Castell-nedd, SA11 1HA

Fferyllfa Treboeth, 697 Heol Llangyfelach, Abertawe SA5 9EL

Fferyllfa Cwm Nedd, 101 Heol Glyn-nedd, Stryd Fawr, Glyn-nedd SA11 5AT

BIPBC (Ynys Môn/Gwynedd/Conwy/Sir Ddinbych/Sir y Fflint/Wrecsam

Gellir casglu pecynnau Profi a Phostio o’r lleoliadau canlynol.

Cofiwch edrych fwy nag unwaith, oherwydd mae lleoliadau newydd yn cael eu hychwanegu at ein rhestr o fannau casglu yn rheolaidd.

Ynys Môn

Tîm Nyrsio Ysgol Ynys Môn a Gwynedd (ar gyfer pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed yn unig, fel rhan o’r cynllun Cerdyn-C)

Gwynedd

Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (16 oed +)

Fferyllfa Morrisons, Bangor (16 oed +)

Fferyllwyr Llŷn D Powys Davies, Blaenau Ffestiniog (16 oed +)

Fferyllwyr Llŷn E R Hughes, Criccieth (16 oed +)

Fferyllwyr Llŷn, T H Taylor, Llanbedrog (16 oed +)

Tîm Nyrsio Ysgol Ynys Môn a Gwynedd (ar gyfer pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed yn unig, fel rhan o’r cynllun Cerdyn-C)

Tŷ Cegin, Maesgeirchen (ar gyfer pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed yn unig, fel rhan o’r cynllun Cerdyn-C)

Coleg Meirion Dwyfor Pwllheli (ar gyfer pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed yn unig, fel rhan o’r cynllun Cerdyn-C)

Bydd GISDA yn cynnig pecynnau Profi a Phostio i bobl ifanc sy’n defnyddio eu gwasanaethau (13 oed +)

Conwy

Fferyllfa Morrisons, Bae Colwyn (16 oed +)

Hwb Cymorth Cymunedol Conwy, 7 Ffordd Rhiw, Bae Colwyn (16 oed +)

Grŵp Llandrillo Menai, Llandrillo-yn-Rhos (ar gyfer pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed yn unig, fel rhan o’r cynllun Cerdyn-C)

Sir Ddinbych

Canolfan Merched Gogledd Cymru, y Rhyl (16 oed +)

Meddygfa Tŷ Madryn, y Rhyl (16 oed +)

Fferyllfa Ffordd Wellington, y Rhyl (16 oed +)

Fferyllfa Pritchards, Alltmelyd (16 oed +)

Fferyllfa Pritchards, Prestatyn (16 oed +)

Grŵp Llandrillo Menai y Rhyl / Coleg y Rhyl (ar gyfer pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed yn unig, fel rhan o’r cynllun Cerdyn-C)

Nyrsys Ysgol Conwy a Sir Ddinbych, Ysbyty Cymunedol Inffyrmari Dinbych (ar gyfer pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed yn unig, fel rhan o’r cynllun Cerdyn-C)

Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych – Canolfan Ieuenctid Prestatyn a Chanolfan Ieuenctid y Rhyl (ar gyfer pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed yn unig, fel rhan o’r cynllun Cerdyn-C)

Bydd Cymdeithas Tai Adullam Homes yn cynnig pecynnau Profi a Phostio i denantiaid a’u teuluoedd (16 oed +)

Sir y Fflint

Tŷ Felin, Bwcle (ar gyfer pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed yn unig, fel rhan o’r cynllun Cerdyn-C)

Clinig Iechyd y Fflint (ar gyfer pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed yn unig, fel rhan o’r cynllun Cerdyn-C)

Cymdeithas Tai ClwydAlyn – Greenbank, y Fflint (ar gyfer pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed yn unig, fel rhan o’r cynllun Cerdyn-C)

Tîm Sefydlogrwydd a Llwybrau Cyngor Sir y Fflint, y Fflint (ar gyfer pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed yn unig, fel rhan o’r cynllun Cerdyn-C)

Wrecsam

Siop Wybodaeth Wrecsam, Stryd Lambpit (13 oed +)

Undeb Myfyrwyr Glyndŵr Wrecsam (16 oed +)

Llyfrgell Wrecsam (16 oed +)

Y Fferyllfa, Coedpoeth (16 oed +)

Y Fenter, Wrecsam (ar gyfer pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed yn unig, fel rhan o’r cynllun Cerdyn-C)

Partneriaeth CAIA (ar gyfer pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed yn unig, fel rhan o’r cynllun Cerdyn-C)

BIPCF (Caerdydd/Bro Morgannwg)

Gellir casglu pecynnau Profi a Phostio o’r lleoliadau canlynol.

Daliwch ati i wirio yma. Mae lleoliadau newydd yn cael eu hychwanegu at ein rhestr o fannau casglu yn rheolaidd.

Caerdydd

Bydd Swyddfa Brawf Caerdydd yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Bydd Huggard (Caerdydd) yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd | Plas y Parc, Caerdydd CF10 3QN (16 oed+).

Bydd Uned Cyfeirio Disgyblion Caerdydd yn cynnig pecynnau i ddisgyblion yr ysgol.

Bydd Hoops and Loops (trwy FTC) yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Bydd Mandeville House yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Bydd Cymru Ddiogelach Cyf yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Bydd Tîm Datrys Argyfwng a Thriniaeth yn y Cartref Gogledd Caerdydd yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Bydd Oasis yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Bydd Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Caerdydd a’r Fro yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Bydd Cynllun Cerdyn C Caerdydd a’r Fro yn cynnig pecynnau i bobl ifanc rhwng 13 a 25 oed yn unig, fel rhan o’r cynllun Cerdyn C.

Bydd Voices Action Change yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Bydd Uned Angove (DATT) yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Boots Albany Road | 77/79 Albany Rd. (16+ oed)

Boots Bae Caerdydd | Parc Manwerthu Bae Caerdydd, Caerdydd CF11 0JR (16 oed +)

Boots Heol y Frenhines | 36 Heol y Frenhines, Caerdydd CF10 2RG (16 oed +)

City Pharmacy |

Ysbyty Brenhinol Caerdydd, Heol Casnewydd, Caerdydd CF24 0SZ (16 oed+)

Fferyllfa Cyncoed | 372-374 Heol Cyncoed, Caerdydd CF23 6SA (16 oed+)

Fferyllfa Heol Woodville | 74 Heol Woodville Caerdydd CF24 4EB (16 oed +)

Bro Morgannwg

Bydd Canolfan Feddygol Sain Tathan yn cynnig pecynnau i rai sydd wedi’u cofrestru gyda’r practis.

Bydd Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Caerdydd a’r Fro yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Bydd Cynllun Cerdyn C Caerdydd a’r Fro yn cynnig pecynnau i bobl ifanc rhwng 13 a 25 oed yn unig, fel rhan o’r cynllun Cerdyn C.

Fferyllfa Brockway | 3 Plas Cleddau, y Barri CF62 7FG (16 oed +)

Fferyllfa Mayberry | 3 Adeiladau Brenhinol, Heol Stanwell, Penarth CF64 3EB (16 oed +)

BIPCTM (Pen-y-bont ar Ogwr/Rhondda Cynon Taf/Merthyr Tudful)

Gellir casglu pecynnau Profi a Phostio o’r lleoliadau canlynol.

Daliwch ati i wirio yma. Mae lleoliadau newydd yn cael eu hychwanegu at ein rhestr o fannau casglu yn rheolaidd.

Pen-y-bont ar Ogwr

Bydd swyddfa Brawf Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth

Fferyllfa Nanty | 77a Stryd Fawr, Nantyffyllon, Maesteg CF34 0BT (16 oed +)

Merthyr Tudful

Bydd Pobl Marsh House yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth

Fferyllfa Keir Hardie | Parc Iechyd Keir Hardie, Heol Aberdâr, Merthyr Tudful CF48 1BZ (16 oed+)

Rhondda Cynon Taf

Bydd Swyddfa Brawf Pontypridd yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth

Bydd Brynawel Rehab yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth

Fferyllfa Treherbert | 167 Stryd Bute, Treherbert CF42 5PE (16 oed +)

Fferyllfa Tynewydd | 59 Stryd Gwendoline, Tynewydd, Treherbert CF42 5BL (16 oed +)

Valleys Link Cilfynydd | 192 Heol Gelli, Pentre CF41 7NA (16 oed+)

Avicenna Aberaman | Heol Caerdydd, Aberdâr CF44 6RH (16 oed +)

Avicenna Abercynon | Stryd Margaret. Abercynon CF45 4RE (16 oed+)

BIPHD (Sir Gaerfyrddin/Sir Benfro/Ceredigion)

Gellir casglu pecynnau Profi a Phostio o’r lleoliadau canlynol.

 

Daliwch ati i wirio yma. Mae lleoliadau newydd yn cael eu hychwanegu at ein rhestr o fannau casglu yn rheolaidd.

 

Sir Gaerfyrddin

Fferyllfa Well Llanybydder | Sgwâr y Farchnad, Llanybydder SA40 9UE (16 oed +)

 

Bydd Meddygfa Teilo (GP) yn cynnig pecynnau i rai sydd wedi cofrestru gyda’r practis.

 

Bydd Harlow & Knowles Pharmacy/Penygroes (16 oed +)

 

Bydd Harlow & Knowles Pharmacy/ Pont-iets (16 oed +)

 

Bydd Fferyllfa Harlow & Knowles/Porth Tywyn (16 oed +)

 

Bydd Meddygfa Tywi yn cynnig pecynnau i rai sydd wedi cofrestru gyda’r practis.

 

Ceredigion

Bydd Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Aberystwyth yn cynnig pecynnau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

 

Undeb y Myfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth | Undeb y Myfyrwyr, Penglais, Aberystwyth SY23 3DX (16 oed +)

 

Bydd Meddygfa Borth yn cynnig pecynnau i rai sydd wedi cofrestru gyda’r practis.

 

Bydd Meddygfa Emlyn yn cynnig pecynnau i rai sydd wedi cofrestru gyda’r practis.

 

Bydd Grŵp Meddygol Ystwyth yn cynnig pecynnau i rai sydd wedi cofrestru gyda’r practis.

 

Sir Benfro

Bydd Meddygfa Winch Lane yn cynnig pecynnau i rai sydd wedi cofrestru gyda’r practis.

 

Bydd Meddygfa Arberth yn cynnig pecynnau i rai sydd wedi cofrestru gyda’r practis.

Map o Gymru wedi’i rannu’n saith rhanbarth wedi’u rhifo, mae pob rhanbarth yn cynrychioli bwrdd iechyd.

  1. Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  2. Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  3. Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
  4. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  5. Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
  6. Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
  7. Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Os ydych chi’n wefan sy’n bodoli’n barod ac eisiau archebu mwy o stoc neu eisiau cysylltu, e-bostiwch y tim iechyd rhywiol os gwelwch yn dda: [email protected].

Os ydych chi’n gweithio rhywle yr ydych yn teimlo y byddai’n cael budd o gael pecynnau profi cymunedol ar eich gwefan, cysylltwch drwy e-bostio’r cyfeiriad e-bost uchod i ddechrau’r sgwrs.