Gweithio gyda’n gilydd i leihau llygredd aer awyr agored, risgiau ac anghydraddoldebau
Bwriedir i’r canllawiau hyn helpu GIG Cymru i wneud cyfraniad gwerthfawr at gydymdrechion i leihau llygredd aer, risgiau ac anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymrwymedig i wella ansawdd aer awyr agored yng Nghymru, ond mae’n amlwg ein bod yn wynebu heriau sylweddol wrth wneud hynny. Mae gan GIG Cymru rôl hollbwysig i’w chwarae ac mae’r canllawiau hyn yn dangos sut y gall polisi ac arfer y GIG gefnogi cydymdrechion i reoli ansawdd aer ledled Cymru. Mae’r canllawiau yn ategu cyfrifoldebau presennol ac yn ceisio annog ffyrdd gwahanol o weithio a chamau gweithredu i leihau llygredd aer. Nodir pedair egwyddor bwysig er mwyn helpu i gefnogi gweithgarwch gwella ansawdd aer yn y GIG a thu hwnt, dylanwadu arno, rhoi gwybod amdano a’i hyrwyddo. Mae’r canllawiau yn ategu ein hymrwymiad yn ein strategaeth genedlaethol, Ffyniant i Bawb, i greu cymunedau iachach ac amgylcheddau gwell drwy leihau allyriadau a sicrhau gwelliannau hanfodol i ansawdd ein haer. Mae hefyd yn nodi’r berthynas uniongyrchol rhwng y gwaith hwn ac egwyddorion a gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Ochr yn ochr â’r canllawiau hyn, bydd Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i ddangos pwysigrwydd gwella ansawdd aer drwy gynnal rhaglen benodol o waith ac ymchwil. Mae hyn yn cynnwys canllawiau polisi newydd ar ansawdd aer a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru sy’n cydnabod ysgolion a llwybrau teithio llesol fel lleoliadau allweddol ar gyfer gweithredu, ynghyd â lleoedd eraill gan gynnwys ysbytai, cartrefi gofal, meithrinfeydd a meysydd chwarae. Mae’r canllawiau hyn hefyd yn esbonio bod pobl hŷn, unigolion â salwch cronig, plant a phobl sy’n ymgymryd â gweithgarwch corfforol am gyfnodau estynedig oll yn haeddu’r un lefel o ddiogelwch ble bynnag y bônt. Gan ganolbwyntio ar ddiogelu iechyd cenedlaethau’r dyfodol, anogir bod ystyriaeth arbennig yn cael ei rhoi i’r risgiau hirdymor i blant sy’n gysylltiedig â llygredd aer. Felly, mae’r canllawiau polisi newydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fabwysiadu dull seiliedig ar risg o asesu a rheoli llygredd aer a, gan weithio gyda chymorth cyrff cyhoeddus eraill (gan gynnwys y GIG) a’r cyhoedd, ategu ymyriadau lleol wedi’u targedu â chamau gweithredu cyffredinol sy’n ceisio lleihau llygredd aer a’r risgiau cysylltiedig er budd pawb yng Nghymru.
Mae gan GIG Cymru gyfraniad pwysig i’w wneud er mwyn lleihau effeithiau llygredd aer. Er mwyn cefnogi’r dull hwn o weithredu, mae rhaglen waith wedi’i llunio gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cynnwys darparu amrywiaeth o ddeunyddiau gwybodaeth a all helpu i hysbysu staff a’r cyhoedd am risgiau sy’n gysylltiedig ag ansawdd aer gwael a’r camau y gallant eu cymryd er mwyn lleihau’r broblem. Mae’r aer a anadlwn yn anghenraid pob dydd pwysig yr ydym, o bosibl, yn ei gymryd yn ganiataol. Mae rheoli ansawdd aer yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer iechyd y cyhoedd y mae’n rhaid i bob un ohonom ei chydnabod. Mae angen i gamau integredig i wella ansawdd aer gael eu cymryd yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Gyda’n gilydd, mae’n rhaid i bob un ohonom gydnabod yr angen hwn a gweithredu, yn unigol ac ar y cyd, yn y gwaith ac yn ystod ein bywydau bob dydd.