Neidio i'r cynnwys

Defnyddio sylweddau a dibyniaeth (cyffuriau)

Mae Cymru’n unigryw yn y DU am fod strategaeth unedig ar gyfer camddefnyddio sylweddau Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed: Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Cymru 2008-2018 sy’n mynd i’r afael â’r defnydd o gyffuriau, alcohol ac amryw o gyffuriau.

Mae hyn yn cyd-fynd â’r dull a fabwysiadwyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. O fewn Iechyd y Cyhoedd, mae dwy is-adran, Gwella Iechyd a Diogelu Iechyd yn gysylltiedig â’r agenda camddefnyddio sylweddau.

Mae Gwella Iechyd yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth ac addysg gan alluogi unigolion i gael rheolaeth dros benderfynyddion iechyd ac felly gwella eu hiechyd.

Mae Diogelu Iechyd yn pwysleisio datblygu dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a fwriadwyd ar gyfer diogelu iechyd a lles, atal salwch ac ymestyn bywyd.

Mae’r timau’n brofiadol ac mewn sefyllfa dda i roi canllawiau a gwybodaeth gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth ar y niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, a allai hefyd gynnwys mwy o weithgaredd rhywiol a gweithgaredd peryglus arall (e.e. troseddu a charcharu) a’r perygl cysylltiedig o heintiau a feirysau a gludir yn y gwaed a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.

Cyffuriau sy’n Dod i’r Amlwg yng Nghymru ac Adnabod sylweddau newydd (WEDINOS)

Mae marchnadoedd cyffuriau yn newid. Gall fod yn anodd cael gwybodaeth gywir a chadw’n ddiogel. Mae WEDINOS yn profi sylweddau i roi gwybodaeth gyflym a chywir i ddefnyddwyr unigol ac eraill er mwyn lleihau niwed. Mae’n brosiect lleihau niwed, sy’n darparu gwasanaeth dienw ac yn adlewyrchu tueddiadau yn y defnydd o sylweddau.

Mae WEDINOS yn cyhoeddi adroddiadau misol a blynyddol sy’n cynnwys canfyddiadau dadansoddol y prosiect a mewnwelediadau i’r dirwedd gyffuriau esblygol yng Nghymru a’r DU ehangach. Maent yn cynnwys amrywiaeth o gyhoeddiadau, gan gynnwys bwletinau misol, adroddiadau blynyddol, a dadansoddiadau o bynciau arbennig. Gallwch weld y adroddiadau a gyhoeddwyd gan WEDINOS yma.

Gwybodaeth bellach

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Adnoddau

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data