Neidio i'r cynnwys

Brechlyn eryr - Ynglŷn â'r brechlyn eryr

Bydd y brechlyn eryr yn lleihau eich siawns o ddatblygu’r eryr a’r sgil-effeithiau poenus hirdymor, gan gynnwys niwralgia ôl-herpetig (PHN).

Os byddwch yn cael yr eryr, mae’n debyg y bydd yn salwch ysgafnach a byrrach os ydych wedi cael y brechlyn.  

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Pwy ddylai gael y brechiad? Mae arbenigwyr brechlynnau wedi cynghori y dylid cynnig y brechlyn rhag yr eryr i bobl 60 oed

Mae arbenigwyr brechlynnau wedi cynghori y dylid cynnig y brechlyn rhag yr eryr i bobl 60 oed a throsodd. Bydd yn cael ei wneud mewn camau dros 10 mlynedd.

Maen nhw hefyd wedi cynghori bod y brechlyn yn cael ei gynnig i bobl 18 oed a hŷn sydd â systemau imiwnedd gwan iawn.

Mae’r tabl hwn yn dangos pwy sy’n gymwys i gael brechlyn rhag yr eryr o fis Awst 2025.

Eich oedran   A oes gennych system imiwnedd wan iawn?   Pryd y byddwch yn cael y brechlyn eryr  
18 oed a throsodd Oes Ar neu ar ôl eich pen-blwydd yn 18 oed
65 neu 70

 

Nac oes Ar neu ar ôl eich pen-blwydd yn 65 neu 70 oed
70 i 79 Nac oes Os nad ydych chi wedi cael brechiad yr eryr eisoes, rydych chi’n gymwys. Trefnwch apwyntiad gyda’ch meddygfa.
66 i 69 Nac oes Os gwnaethoch chi droi yn 65 oed cyn 1 Medi 2023 byddwn yn cysylltu â chi pan fyddwch yn troi yn 70 oed.
60 i 64 Nac oes Byddwn yn cysylltu â chi pan fyddwch yn troi yn 65 oed

Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl gymwys, bydd y brechlyn rhag yr eryr yn cael ei gynnig nes eu bod yn 80. Fodd bynnag, os oes gennych system imiwnedd wan iawn, gallwch gael y brechlyn o’r adeg y byddwch yn 18 oed hyd at unrhyw oedran.

Gall pobl â system imiwnedd wan iawn gynnwys:

  • rhai â chanserau penodol, fel lewcemia neu lymffoma
  • rhai sy’n cymryd meddyginiaethau penodol
  • rhai sy’n cymryd dos cymedrol i uchel o steroidau, a
  • rhai sydd wedi cael trawsblaniad organ.

Nid oes terfyn oedran uchaf ar gyfer cael y brechlyn rhag yr eryr os oes gennych system imiwnedd wan iawn. Fodd bynnag, argymhellir eich bod yn cael y brechlyn cyn gynted ag y byddwch yn gymwys er mwyn i chi gael eich diogelu cyn gynted â phosibl.

Dylech fanteisio ar y cynnig i gael y brechiad rhag yr eryr os ydych chi’n gymwys.

A oes angen y brechlyn arnaf os wyf wedi cael yr eryr o’r blaen?

Oes. Hyd yn oed os ydych eisoes wedi cael yr eryr, dylech gael y brechlyn o hyd gan y bydd yn lleihau eich risg o gael yr eryr eto.

Beth am bobl sydd y tu allan i’r grwpiau oedran hyn?

Bydd pobl iau yn cael cynnig y brechlyn pan fyddant yn cyrraedd yr oedran cymwys.

Gallwch gael yr eryr ar unrhyw oedran, ond mae’r risg, difrifoldeb a chymhlethdodau yn cynyddu wrth i chi fynd yn hŷn. Mae pobl â systemau imiwnedd gwan iawn mewn mwy o berygl, a dyna pam mae’r brechlyn weithiau’n cael ei argymell yn gynharach.

Ynglŷn â’r brechlyn eryr

Beth yw brechlyn yr eryr?

Shingrix yw enw’r brechlyn rhag yr eryr. Mae’n cael ei roi fel pigiad i gyhyr rhan uchaf y fraich.

Nid yw Shingrix yn frechlyn byw, sy’n golygu nad yw’n cynnwys feirws byw. Gallwch ddarllen y daflen wybodaeth ganlynol i gleifion os hoffech ddysgu rhagor am y brechlyn (Saesneg yn unig).

Os ydych yn gymwys, gallwch gael y brechlyn ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Y tro nesaf y byddwch yn siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, gofynnwch iddynt am y brechlyn eryr.

Sawl dos fydd ei angen arnaf?

Bydd angen dau ddos arnoch chi:

  • Os oes gennych system imiwnedd wan iawn, dylech gael yr ail ddos o leiaf wyth wythnos ar ôl eich dos cyntaf.
  • Os nad oes gennych system imiwnedd wan iawn, dylech gael yr ail ddos o leiaf chwech i 12 mis ar ôl eich dos cyntaf.

Unwaith y byddwch wedi cael y ddau ddos, nid oes angen rhagor o frechlynnau’r eryr arnoch.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y brechlyn eryr, siaradwch â’ch meddyg teulu neu nyrs practis.

Sut byddaf yn cael y brechlyn?

Dylai eich meddygfa gysylltu â chi i wneud apwyntiad pan fyddwch yn gymwys.

Os na fyddant, neu os ydych yn meddwl eich bod wedi methu’r gwahoddiad, cysylltwch â nhw a dywedwch wrthynt eich bod yn meddwl ei bod yn bryd i chi gael brechlyn yr eryr.

A oes angen i mi gael y brechlyn bob blwyddyn?

Na, unwaith y byddwch wedi cael y ddau ddos, ni fydd angen rhagor o frechlynnau’r eryr arnoch.

A yw’r brechlyn eryr yn cynnwys gelatin porc?

Er bod gelatin yn cael ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o fwydydd a meddyginiaethau, yn cynnwys rhai brechlynnau, nid yw’r brechlyn rhag yr eryr a ddefnyddir yn y DU ar hyn o bryd (Shingrix) yn cynnwys gelatin porc.

Diogelwch ac effeithiolrwydd

A yw brechlyn yr eryr yn ddiogel?

Ydy, mae’r brechlyn rhag yr eryr yn ddiogel. Mae’n bodloni’r holl safonau diogelwch. Unwaith y bydd brechlyn yn cael ei ddefnyddio, caiff ei ddiogelwch ei fonitro’n agos.

A allaf gael yr eryr o hyd ar ôl i mi gael fy mrechu?

Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o’r eryr. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod am arwyddion a symptomau’r eryr, hyd yn oed os ydych chi wedi cael eich brechu. I gael rhagor o wybodaeth am yr eryr,  ewch i wefan GIG 111 Cymru (Saesneg yn unig).

A allaf gael y brechlyn rhag yr eryr ar yr un pryd â brechlynnau eraill?

Gallwch gael y brechlyn rhag yr eryr ar yr un pryd â’r rhan fwyaf o frechlynnau eraill. Gall y person sy’n rhoi’r brechlyn i chi drafod hyn gyda chi.

Oes unrhyw sgîl-effeithiau?

Mae sgîl-effeithiau brechiad yr eryr yn eithaf ysgafn fel rheol ac nid ydynt yn para’n hir.

Y sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin yw:

  • poen, cochni neu chwydd yn y fraich lle rhoddwyd y pigiad
  • cur pen/pen tost
  • symptomau stumog (fel teimlo’n sâl neu fod yn sâl, anhwylder ar y stumog neu boen yn y stumog)
  • teimlo’n flinedig
  • oerfel neu dwymyn, a
  • phoenau cyffredinol

Gallwch orffwys a chymryd y dos arferol o paracetamol (dilynwch y cyngor yn y pecyn) i’ch helpu i deimlo’n well. Peidiwch â defnyddio peiriannau na gyrru os ydych chi’n teimlo’n sâl.

Os yw’r sgil-effeithiau’n para mwy nag ychydig ddyddiau, dylech siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Yn anaml, gall pobl gael adwaith difrifol yn fuan ar ôl cael eu brechu, sy’n achosi anawsterau anadlu a gall beri iddynt lewygu. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig. Gall ddigwydd hefyd gyda meddyginiaethau eraill a bwyd. Mae’r adweithiau hyn yn hynod o brin, ac yn effeithio ar lai nag un mewn miliwn o bobl. Mae staff sy’n rhoi brechiadau wedi’u hyfforddi i reoli’r adweithiau hyn.

Gall pobl sy’n cael adwaith anaffylactig gael eu trin yn llwyddiannus ac fel arfer maent yn gwella o fewn ychydig oriau.

Dysgu rhagor am sgîl-effeithiau   

Mae’r holl sgîl-effeithiau wedi’u cynnwys yn y daflen wybodaeth i gleifion ar gyfer y brechlyn. I gael rhagor o wybodaeth am sgîl-effeithiau, ewch i wefan EMC am wybodaeth am Shingrix (Saesneg yn unig).

Os bydd gennych gwestiynau am sgil-effeithiau, gallwch ofyn i’r unigolyn a fydd yn rhoi’r brechlyn i chi.

Dylech roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau ar-lein yn wefan Yellow Card (Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 5yh).

A oes unrhyw un na ddylai gael y brechiad yr eryr?

Ni ddylid rhoi’r brechlyn i unigolyn sydd wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i:

  • ddos blaenorol o’r brechlyn, neu
  • gynhwysyn yn y brechlyn.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth y person sy’n rhoi’r brechlyn i chi os ydych chi wedi cael adwaith alergaidd difrifol i’r brechlyn neu ei gynhwysion yn y gorffennol.

Os oes gennych anhwylder gwaedu, siaradwch â’ch meddyg neu nyrs practis cyn i chi gael y brechlyn.

A ddylwn i gael y brechlyn os ydw i’n sâl ar ddiwrnod yr apwyntiad?

Os ydych chi’n sâl, mae’n well aros nes eich bod yn well i gael y brechlyn, ond dylech geisio ei gael cyn gynted â phosibl. Os na allwch ddod i’ch apwyntiad brechu, canslwch ac aildrefnwch yr apwyntiad.

Nid yw annwyd neu fân salwch arall yn rheswm dros ohirio eich brechlyn.  

Rhagor o wybodaeth

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 23ain Ebrill 2025