Cadw’n ddiogel mewn dyfroedd awyr agored yng Nghymru
Mae nofio gwyllt yn nofio, dipio, padlo neu chwarae mewn dyfroedd naturiol awyr agored.
Gallai hyn fod mewn afonydd, llynnoedd, cronfeydd dŵr neu yn y môr.
Mae nofio gwyllt yn boblogaidd. Gall helpu ag iechyd a lles corfforol a meddyliol. Ond gall dŵr agored fod yn beryglus – byddwch yn ymwybodol o’r risgiau a dilynwch yr awgrymiadau hyn i fod yn fwy diogel.
Gall nofio gwyllt hefyd gael ei alw’n nofio dŵr agored neu’n dipio – mae’r wybodaeth hon yn cynnwys pob un o’r rhain.
Beth yw’r risgiau sy’n gysylltiedig â nofio gwyllt?
Gall y rhain gynnwys peryglon corfforol a pheryglon oherwydd ansawdd y dŵr.
Peryglon corfforol
Gall y tywydd, y llanw, y cerrynt a dyfnder y dŵr i gyd newid yn sydyn iawn, felly mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r rhain, cyn mynd i’r dŵr, a phan fyddwch yn y dŵr. Hyd yn oed yn yr haf, gall y dŵr fod yn oer iawn, gan arwain at sioc dŵr oer. Gall eich rhwystro rhag nofio a gallai effeithio ar eich anadlu.
Efallai na fyddwch yn gallu gweld peryglon o dan y dŵr a allai achosi anaf, yn enwedig wrth ddeifio neu neidio i mewn. Gallai’r dŵr fod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau eraill, gan gynnwys hwylio, caiacio, sgïo jet, neu weithgaredd diwydiannol neu amaethyddol. Gwnewch ymholiadau cyn mynd i’r dŵr.
Mae’n bosibl y bydd creaduriaid fel sglefrod môr neu fôr-wiberod yn y dŵr hefyd, ac mae’n well eu hosgoi. Nid yw pigiadau’n cael effaith ddifrifol fel arfer, a gellir eu trin â chymorth cyntaf, ond weithiau mae’n bosibl y bydd angen i chi fynd i’r ysbyty.
Ansawdd y dŵr
Weithiau gall y dŵr rydych mewn cysylltiad ag ef gynnwys heintiau a allai eich gwneud yn sâl. Gall yr heintiau hyn effeithio ar iechyd unrhyw un, ond gallai’r risg fod yn fwy i rai pobl, er enghraifft plant ifanc iawn, pobl oedrannus, neu bobl sydd â systemau imiwnedd gwan.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a rhai awdurdodau lleol yn gwirio’n rheolaidd am heintiau a all achosi chwydu a dolur rhydd mewn nifer o safleoedd dŵr ymdrochi rhwng mis Mai a mis Medi. Gallwch weld canlyniadau’r gwiriadau hyn ar-lein, ynghyd â rhagor o wybodaeth am bob safle. Efallai yr hoffech holi trefnwyr unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau dŵr agored ynghylch pa brofion maen nhw’n eu gwneud i’ch helpu i osgoi mynd yn sâl ar ôl cymryd rhan.
Mae gordyfiant algâu hefyd i’w weld mewn dŵr. Gall llawer o fathau o algâu fod yn niferus iawn, yn enwedig mewn tywydd braf a chynnes, a ffurfio gordyfiant algâu. Gall y gordyfiant newid lliw y dŵr neu ffurfio haenen ar wyneb y dŵr a all fod yn ddrewllyd. Mae llawer o fathau o algâu ym Mhrydain. Mae’r rhain yn cynnwys algâu gwyrddlas (cyanobacteria) sydd i’w gweld mewn dŵr croyw (e.e. llynnoedd a nentydd) ac algâu’r môr sy’n cynnwys gwymon a phlanhigion bach.
Mae’r rhan fwyaf o’r gordyfiant yn ddiniwed, ond gall rhai gynnwys tocsinau a all achosi cosi, symptomau tebyg i glefyd y gwair, cyfog a gwres uchel. Gan nad oes modd dweud wrth edrych a yw gordyfiant algâu yn niweidiol ai peidio, mae’n well peidio â nofio yn rhywle lle mae gordyfiant algâu. Edrychwch am arwyddion ar lan y dŵr a allai fod yn eich cynghori i beidio â defnyddio’r dŵr.
I roi gwybod am ordyfiant algâu ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru neu ffoniwch eu llinell digwyddiadau amgylcheddol 0300 065 3000 (24 awr).
Mae peryglon ansawdd dŵr llai cyffredin yn cynnwys Leptosbirosis (Clefyd Weil) – haint sy’n cael ei ledaenu drwy bi-pi anifeiliaid sydd wedi’u heintio; a chosi nofwyr (dermatitis cercariaidd) – brech croen sy’n cael ei hachosi gan adwaith alergaidd i barasitiaid bach sy’n cael eu rhyddhau gan falwod wedi’u heintio. Mae hyn yn fwy cyffredin ym misoedd yr haf.
Ffyrdd o leihau’r risg
Cyn i chi fynd i mewn i’r dŵr:
- Edrychwch ar ragolygon y tywydd ac unrhyw amodau eraill.
- Gwnewch yn siŵr nad oes risg o beryglon corfforol yn y man lle mae arnoch eisiau nofio – cadwch yn glir o ardaloedd amaethyddol neu ddiwydiannol.
- Gwiriwch ansawdd y dŵr os oes modd.
- Peidiwch â nofio ar ôl glawiad trwm gan fod hyn yn gallu gwneud ansawdd y dŵr yn waeth.
- Peidiwch â nofio lle mae gordyfiant algâu yn bresennol.
- Edrychwch am arwyddion rhybudd am y dŵr a dilynwch y cyngor a roddir.
- Gorchuddiwch unrhyw friwiau a chrafiadau â phlasteri gwrth-ddŵr.
- Peidiwch â mynd i’r dŵr os ydych wedi cael alcohol neu os ydych wedi cymryd cyffuriau.
- Peidiwch â nofio ar eich pen eich hun – os oes rhaid i chi wneud hynny, gwnewch yn siŵr eich bod wedi dweud wrth rywun i ble rydych yn mynd.
- Cynlluniwch sut y byddwch yn mynd i mewn ac allan o’r dŵr.
- Peidiwch â neidio neu ddeifio os nad ydych yn gwybod ei bod yn ddiogel.
- Gwisgwch siwt wlyb sy’n addas i dymheredd y dŵr ac ewch â digon o ddillad cynnes gyda chi (gan gynnwys cap a menig) i’w gwisgo ar ôl bod yn nofio.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth i’w wneud os byddwch yn syrthio i ddŵr oer yn ddamweiniol.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth i’w wneud os cewch eich pigo gan sglefren fôr, môr-wiberod neu greaduriaid eraill.
Pan fyddwch mewn cysylltiad â’r dŵr:
- Ceisiwch beidio â llyncu’r dŵr wrth i chi nofio.
- Os byddwch yn mynd i drafferthion yn y dŵr, ceisiwch ymlacio, peidio â chynhyrfu ac arnofio.
- Cadwch lygad barcud ar blant, hyd yn oed rhai sy’n gallu nofio, a chadwch hyd braich oddi wrthynt.
- Byddwch yn ymwybodol o weithgareddau eraill sy’n digwydd o’ch cwmpas yn y dŵr.
Ar ôl i chi fod mewn cysylltiad â’r dŵr:
- Gwisgwch amdanoch yn gyflym ar ôl gorffen nofio er mwyn cynhesu. Gallai diod gynnes, ddi-alcohol hefyd eich helpu i gynhesu.
- Glanhewch unrhyw friwiau cyn gynted ag y bo modd ar ôl gadael y dŵr.
- Yn gyffredinol, pryd bynnag rydych wedi bod mewn cysylltiad â’r môr, mewn afon, llyn neu unrhyw ddŵr agored arall, mae’n syniad da i olchi eich dwylo cyn bwyta ac i olchi eich corff â dŵr glân cyn gynted ag y bo’n bosibl.
- Os byddwch yn teimlo’n sâl ar ôl bod mewn cysylltiad â dŵr gofynnwch am gyngor meddygol cyn gynted ag y bo modd.
Ble gallaf gael gwybod mwy?
Ansawdd dŵr ymdrochi – am wybodaeth am ansawdd dŵr ymdrochi ledled Cymru.
Nofio dŵr agored (saesneg yn unig) – am wybodaeth ar atal achosion o foddi a diogelwch dŵr.
Cyngor a chynghorion diogelwch nofio dŵr agored yr RNLI (Saesneg yn unig– am wybodaeth ar sut i fwynhau ein harfordiroedd yn ddiogel.
ROSPA (Saesneg yn unig) – diogelwch dŵr a boddi.