Neidio i'r cynnwys

Lefelau paill uchel  

Mae paill yn gallu sbarduno adweithiau alergaidd, gan gynnwys clefyd y gwair, a gall wneud cyflyrau fel asthma yn waeth.

Mae lefel a math y paill yn yr awyr yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn a’r lle. Fel arfer, mae clefyd y gwair yn cael ei achosi gan beilliau gwair ar ddiwedd y gwanwyn a dechrau’r haf.

Mae Swyddfa Dywydd y DU yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cyfrifiad paill ac mae’n cyhoeddi rhagolwg paill. Mae’n dda dysgu pa lefelau a allai effeithio arnoch chi.

Gall stormydd taranau sbarduno asthma. Y rheswm am hyn yw bod aer llaith yn cyfuno â phaill ac yn cael ei chwythu o gwmpas.

Symptomau clefyd y gwair

Mae symptomau clefyd y gwair yn gallu cynnwys: 

  • Tisian
  • Trwyn yn diferu neu drwyn llawn
  • Llygaid, gwddf, ceg, trwyn a chlustiau yn cosi
  • Mae symptomau llai cyffredin yn cynnwys colli synnwyr arogli, wyneb poenus, a chur pen
  • Mae’n bosibl y bydd dioddefwyr asthma yn gweld bod eu symptomau’n gwaethygu os ydyn nhw’n dioddef o glefyd y gwair, ac efallai y bydd eu brest yn teimlo’n dynn, y byddan nhw’n fyr eu hanadl, ac y byddan nhw’n pesychu ac yn gwichian.  

Lleihau eich cysylltiad â phaill

Mae bron yn amhosibl osgoi paill yn gyfan gwbl, ond os ydych chi’n sensitif i baill, fe allwch chi leihau eich cysylltiad ag ef drwy:  

  • Edrych ar ragolygon y cyfrifiad paill ac osgoi mynd allan os yw lefel y paill yn ganolig neu’n uchel.
  • Rhoi jeli petroliwm (fel Vaseline neu falmau rhwystr alergenau) o amgylch eich ffroenau er mwyn dal y paill.
  • Gwisgo sbectol haul amlapio, mwgwd a/neu het cantel llydan i atal paill rhag mynd i mewn i’ch trwyn a’ch llygaid.
  • Tynnu a golchi dillad awyr agored ar ôl cyrraedd adref.
  • Cael cawod a golchi eich gwallt ar ôl bod yn yr awyr agored.
  • Cau drysau a ffenestri cymaint â phosibl.
  • Defnyddio’r peiriant sugno llwch yn rheolaidd yn y cartref. Defnyddio peiriant sugno llwch sydd â hidlydd HEPA neu ddefnyddio clwtyn llaith i dynnu llwch.
  • Peidio â chadw blodau yn y tŷ.
  • Osgoi sychu eich dillad yn yr awyr agored os yw’r cyfrifiad paill yn uchel neu wrth dorri’r gwair; fe allai hyn ddod â phaill i mewn i’r tŷ.
  • Osgoi cerdded mewn mannau agored a glaswelltog, yn enwedig yn gynnar yn y bore a gyda’r nos.
  • Os oes modd, gosod hidlydd paill yn eich car os nad oes un wedi’i osod eisoes.
  • Cau ffenestri’r car wrth yrru.
  • Peidio ag ysmygu na bod o gwmpas mwg – mae’n gwneud eich symptomau’n waeth.
  • Gofyn i’ch fferyllydd neu’ch meddyg teulu am feddyginiaeth wrth-histamin i drin eich symptomau. Os ydych chi’n poeni am eich symptomau chi eich hun neu symptomau rhywun arall, gofynnwch am gyngor meddygol trwy gysylltu â’ch meddyg teulu neu ffonio GIG 111. Mewn argyfwng ffoniwch 999.

Mwy o wybodaeth

Rhagolwg paill y Swyddfa Dywydd
GIG – Clefyd y Gwair
GIG – Alergeddau
Allergy UK