Asbestos
Asbestos yw’r enw a roddir i nifer o fwynau ffibrog naturiol. Mae dau brif fath: serpentin (crysotil neu asbestos gwyn) ac amffibol, (gan gynnwys asbestos amosit/brown). Mae mwynau asbestos yn gryf ac yn gallu gwrthsefyll gwres a chemegau felly fe’u hystyriwyd unwaith yn ddeunyddiau adeiladu delfrydol ar gyfer pethau fel byrddau inswleiddio, boeleri, pibellau a thoeon dalennau. Mae deunyddiau sy’n cynnwys asbestos mewn llawer o leoedd o hyd ond maent bellach wedi’u gwahardd mewn deunyddiau adeiladu newydd.
Beth yw effaith dod i gysylltiad ag asbestos o ran iechyd?
Mae risg fach iawn i iechyd pobl os nad yw asbestos wedi ei ddifrodi. Fodd bynnag, os bydd cynhyrchion sy’n cynnwys asbestos yn cael eu difrodi, gall y ffibrau gael eu rhyddhau i’r aer. Gall pobl sy’n gweithio gydag asbestos neu sydd â chynnyrch sy’n cynnwys asbestos fod yn agored i lefelau uwch o ffibrau asbestos yn yr aer.
Gall anadlu crynodiadau uchel o asbestos am gyfnod hir (a elwir yn aml yn gysylltiad oes gyfan) gael effaith andwyol ar yr ysgyfaint a gall achosi clefyd o’r enw asbestosis. Mae asbestosis yn arwain at broblemau gyda’r galon ac anawsterau anadlu. Mae hefyd yn bosibl datblygu canser yr ysgyfaint o ganlyniad, gan fod asbestos yn cael ei ystyried fel carsinogen dynol ac nid oes unrhyw lefel hollol ddiogel.
Gall pobl sy’n anadlu crynodiadau is, dros gyfnod hir, ddatblygu placiau pliwrol neu fesothelioma.
Beth yw maint y broblem?
Gan fod asbestos wedi cael ei ddefnyddio’n aml yn y gorffennol a bod y ffibrau’n rhai naturiol, rydym i gyd yn dod i gysylltiad â lefel isel o asbestos ac yn ei anadlu bob dydd. Mae’n annhebygol iawn y bydd y cyhoedd yn dod i gysylltiad â lefel ddigon uchel o asbestos, dros gyfnod digon hir o amser, i achosi effeithiau andwyol ar iechyd.
Os ydych mewn cysylltiad â rhywun neu rywbeth sydd wedi bod mewn cysylltiad uniongyrchol ag asbestos, mae’n annhebygol y bydd hyn yn peri risg uwch o ran iechyd y cyhoedd, yn enwedig os yw’r cysylltiad yn un tymor byr yn unig.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n dod i gysylltiad ag asbestos?
Ni ddylai deunyddiau asbestos sydd heb eu difrodi, neu mewn man lle nad oes unrhyw un yn debygol o darfu arnynt, achosi niwed. Os byddwch yn dod i gysylltiad â ffibrau asbestos, dylech symud o leoliad y cysylltiad.
Os oes gennych ffibrau asbestos ar eich croen a’ch dillad:
- Peidiwch ag ysgwyd na brwsio’r ffibrau oddi arnoch – bydd hyn yn eu gwasgaru i’r awyr a’u gwneud yn fwy tebygol o gael eu hanadlu.
- Tynnwch yr holl lwch a ffibrau y gallwch eu gweld oddi ar eich corff, eich dillad a’ch esgidiau, drwy ddefnyddio clwtyn llaith a’i batio’n ofalus.
- Tynnwch unrhyw ddillad wedi’u halogi (nid dros y pen) a’u rhoi mewn bag gyda’r clwtyn llaith.
- Cysylltwch â’ch awdurdod lleol am gyngor ar gael gwared ar y dillad.
Beth sy’n cael ei wneud i reoli’r effaith?
Mae asbestos bellach wedi’i wahardd rhag cael ei ddefnyddio yn y DU. Mae Rheoliadau Rheoli Asbestos 2012 yn nodi bod rhaid i unrhyw waith sy’n ymwneud ag asbestos gael ei wneud gan rywun sydd wedi’i drwyddedu’n briodol gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Mae’n bosibl y gall deunyddiau sy’n cynnwys asbestos fod yn eich cartref os cafodd ei adeiladu cyn 2000. Mae’n bosibl bod asbestos wedi’i ddefnyddio i wneud cynhyrchion concrid fel toeau a phibellau, tanciau dŵr, byrddau inswleiddio, mewn nenfydau neu orchuddion nenfwd fel artecs.
Ni ddylech boeni am asbestos yn eich cartref os nad yw wedi’i ddifrodi ac os nad yw’n debygol y bydd rhywun yn tarfu arno. Y peth gorau i’w wneud yw gadael llonydd iddo. Fodd bynnag, os oes angen i chi gael gwared ar asbestos o’ch cartref, dylech gysylltu ag adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol am gyngor.
Pa sefydliadau eraill mae angen cysylltu â nhw?
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn sicrhau bod gweithleoedd yn dilyn cyfreithiau i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu diogelu rhag dod i gysylltiad ag asbestos ac mae hefyd yn gyfrifol am drwyddedu contractwyr i weithio gydag asbestos. Gall erlyn y rhai nad ydynt yn dilyn y cyfreithiau ar reoli asbestos. Mae ganddo hefyd gyfres o dudalennau gwe sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth am asbestos (Saesneg yn unig).
Gellir cysylltu ag Adrannau Iechyd yr Amgylchedd Awdurdodau Lleol am gyngor ar reoli asbestos. Dylid cysylltu â hwy hefyd os ydych yn amau bod rhywun wedi bod yn tipio asbestos yn anghyfreithlon.
Gwybodaeth bellach
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Adnoddau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Adroddiadau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn