Llifogydd ac iechyd
Bydd llifogydd yn digwydd os bydd glaw mawr wedi disgyn mewn cyfnod byr a’r ddaear, yr afonydd a’r nentydd yn methu â draenio’r dŵr ychwanegol yn ddigon cyflym. Yn ystod storm, mae ardaloedd arfordirol weithiau’n cael llifogydd arfordirol am fod lefel y môr yn codi a’r tywydd yn arw.
Boddi yw’r perygl mwyaf uniongyrchol i iechyd. Gall anaf difrifol ddigwydd wrth syrthio i ddŵr sy’n llifo’n gyflym neu oherwydd peryglon cudd o dan y dŵr, os bydd clawr neu orchudd twll archwilio wedi mynd ar goll, er enghraifft.
Mae dŵr llifogydd yn aml wedi ei lygru gan garthffosiaeth, cemegion a baw anifeiliaid a gall hynny achosi llawer o wahanol glefydau.
Mae peryglon eraill yn cynnwys cael eich caethiwo, heb drydan na dŵr glân, gan achosi straen a phryder mawr.
Mae perygl difrifol o wenwyn carbon monocsid wrth ddefnyddio gwresogydd a generadur petrol neu ddiesel. Ni ddylai’r offer hyn gael eu defnyddio y tu mewn i adeiladau i sychu tai ac adeiladau.
Cynlluniwch ymlaen llaw
- Holwch a yw eich ardal mewn perygl o lifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Ond cofiwch fod glaw trwm, yn enwedig ar dir llawn dŵr, yn gallu achosi llifogydd mewn mannau eraill
- Dylech baratoi cynllun gweithredu brys a rhestr o offer (Saesneg yn unig).
- Dylech sicrhau bod eich yswiriant cartref yn cynnwys llifogydd.
Os bydd llifogydd yn eich taro
- Dilynwch gyngor y gwasanaethau brys.
- Cadwch draw o ddŵr llifogydd. Peidiwch â cherdded, gyrru na gadael i blant neu anifeiliaid anwes chwarae mewn llifddyfroedd.
- Os oes rhaid i chi fynd i mewn i’r dŵr, gwisgwch fenig ac esgidiau rwber a chofiwch fod yn ofalus am unrhyw beryglon cudd.
- Cadwch unrhyw anaf neu friw yn lân ac yn sych. Gall gwisgo blaster a rhwymyn gwrth-ddŵr helpu.
- Cofiwch ymolchi’ch dwylo, yn enwedig ar ôl bod yn y toiled, cyn bwyta neu wrth baratoi bwyd – dyma’r ffordd bwysicaf o ddiogelu rhag clefydau niweidiol. Os nad oes gennych chi ddŵr glân, defnyddiwch hylif neu glytiau diheintio.
- Os ewch chi’n sâl ar ôl llyncu dŵr o lifogydd neu laid ar ddamwain, yn enwedig os byddwch yn datblygu dolur rhydd, twymyn neu boen stumog o fewn 10 diwrnod o fod mewn cysylltiad â dŵr llifogydd neu garthffosiaeth – cysylltwch â GIG 111 Cymru neu eich meddyg.
- Peidiwch â throi offer trydanol ymlaen os yw wedi bod mewn dŵr llifogydd nes bod trydanwr cymwys wedi gwirio’r offer, gan fod perygl o gael eich trydanu
- Dylai’r offer gwresogi a choginio gael gwasanaeth gan beiriannydd Gas Safe (Saesneg yn unig), hyd yn oed os yw’n edrych fel petai’n gweithio fel arfer. Mae perygl o wenwyn carbon monocsid os nad yw’r offer yn gweithio’n iawn.
Llifogydd a phlant
- Peidiwch â gadael i blant chwarae mewn dŵr llifogydd
- Dylai plant ymolchi eu dwylo’n aml, cyn pob pryd bwyd bob tro
- Os bydd babi yn sâl â dolur rhydd ac yn chwydu ar ôl bod mewn cysylltiad â dŵr llifogydd, dylai’r rhieni ofyn am gyngor meddygol gan Galw Iechyd Cymru 111 neu feddyg teulu
- Peidiwch â gadael i blant chwarae ar arwynebau caled mwdlyd nes eu bod wedi’u glanhau. Mae golau haul a phridd yn helpu i ddinistrio heintiau niweidiol, felly fel rheol bydd yn ddiogel i blant chwarae ar laswellt ar ôl tua wythnos
- Dylai teganau sydd wedi’u halogi â dŵr llifogydd gael eu golchi mewn dŵr poeth a glanedydd. Gellir rhoi teganau meddal yn y peiriant golchi ar dymheredd poeth (60°C).
Glanhau
- Gwisgwch ddillad amddiffynnol: esgidiau rwber, ffedog a menig rwber. Mae gwisgo mwgwd wyneb safonol, fel y rhai sy’n cael eu gwerthu mewn siopau DIY, hefyd yn syniad da os ydych chi’n sgwrio, yn defnyddio pibell ddŵr neu’n golchi dan wasgedd. Mae gogls hefyd yn amddiffyniad ychwanegol i’ch llygaid a gallwch eu hailddefnyddio ar ôl eu golchi’n drylwyr.
- Defnyddiwch ddŵr poeth a sebon i lanhau’r holl arwynebau caled a gafodd eu heffeithio, yn cynnwys waliau, lloriau a dodrefn, a defnyddiwch gynhyrchion glanhau cartref cyffredin. Bydd angen i’r cyfan sychu’n drylwyr gan fod hyn hefyd yn helpu i ddinistrio unrhyw germau sy’n weddill.
- Peidiwch â chymysgu unrhyw gynhyrchion glanhau gyda’i gilydd neu â hylif cannu oherwydd gall hyn ryddhau mygdarth peryglus.
- Golchwch eitemau ffabrig meddal ar gylch poeth (60°C neu uwch), er mwyn dinistrio’r rhan fwyaf o germau. Bydd angen i eitemau na ellir eu rhoi mewn peiriant golchi dillad gael eu glanhau yn broffesiynol. Dylid cynghori glanhawyr arbenigol bod yr eitem wedi dod i gysylltiad â dŵr llifogydd. Os nad yw hyn yn bosibl, efallai y bydd rhaid eu taflu i ffwrdd.
- Dylech olchi’r holl ddillad sy’n cael eu gwisgo yn ystod y broses lanhau ar wahân.
- Bydd gwresogi ac awyru da yn helpu’r broses sychu. Gadewch y drysau a’r ffenestri ar agor pan fo modd a phan fydd yn ddiogel. Gallwch helpu’r broses hon trwy ddefnyddio gwyntyllau, ac unedau aerdymheru a sychu lleithder.
- Peidiwch â defnyddio generadur petrol neu ddiesel mewn adeiladau er mwyn sychu cartrefi ac adeiladau. Mae perygl difrifol o wenwyn carbon monocsid a all ladd.
- Cofiwch ymolchi’ch dwylo’n gyson a chael egwyl yn rheolaidd yn yr awyr iach.
Diogelwch bwyd ar ôl llifogydd
Am wybodaeth am:
- Paratoi a storio bwyd yn ddiogel
- Paratoi bwyd babi
- Ffrwythau a llysiau ffres wedi eu tyfu gartref
- Gwaredu bwyd sydd wedi’i ddifrodi gan lifogydd
ewch i wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Llifogydd ac iechyd meddwl
Peidiwch â bychanu’r pwysau a’r straen o ymdopi â llifogydd a’r gwaith glanhau. Cymerwch amser i ystyried eich iechyd meddwl a’ch lles eich hun a’ch anwyliaid.
Peidiwch â’i gorwneud hi pan ewch ati i lanhau. Pan fyddwch wedi dioddef llifogydd, ymateb cyffredin yw teimlo’n flinedig, gofidus neu bryderus, neu gael trafferth cysgu. Os ydych chi’n poeni am eich iechyd meddwl eich hun neu iechyd meddwl rhywun arall, gofynnwch am gymorth gan deulu a ffrindiau, eich meddyg teulu neu am gymorth arbenigol arall.
Os ydych chi’n helpu rhywun sydd wedi cael ei effeithio gan lifogydd, mae ffyrdd syml y gallwch gynnig cymorth:
- Ceisiwch ddod yn ymwybodol o hyd a lled natur y digwyddiad llifogydd, nodi’r cymorth sydd ar gael i’r rhai a gafodd eu heffeithio, ac a oes perygl o lifogydd yn y dyfodol.
- Gwnewch yn siŵr eu bod yn ddiogel. Helpwch nhw i gysylltu ag asiantaethau adfer ar ôl llifogydd os oes angen.
- Sylwch a oes anghenion iechyd corfforol sydd angen sylw’n syth, er enghraifft, efallai fod angen ambiwlans neu fod angen iddyn nhw fynd i’r ysbyty.
- Gofynnwch am anghenion megis bwyd, dŵr, lloches a meddyginiaeth.
- Ewch ati i helpu pobl i gysylltu â’u hanwyliaid ac eraill sy’n gallu darparu ffynonellau cymorth cyfarwydd
- Nodwch ffyrdd ymarferol a diogel o’u helpu i ddiwallu eu hanghenion a’u tywys at y gwasanaethau priodol
- Byddwch yn glust i wrando, rhannwch unrhyw wybodaeth sydd gennych chi, ac ewch ati i helpu pobl i wneud cynlluniau ar gyfer y camau nesaf.
Ffynonellau cymorth pellach
Fforwm Llifogydd Cenedlaethol Elusen i helpu, cefnogi a chynrychioli pobl sydd mewn perygl o lifogydd.
Flood Re – yn helpu yswirwyr i helpu deiliaid tai sydd mewn perygl o lifogydd.
Gwefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.