Radon
Mae radon yn nwy ymbelydrol di-liw, di-arogl. Mae’n cael ei ffurfio o bydredd ymbelydrol y symiau bach o wraniwm sy’n cael eu ffurfio yn naturiol ym mhob craig a phridd o amgylch y DU.
I’r rhan fwyaf ohonom, y cysylltiad mwyaf a gawn ag ymbelydredd yw drwy radon.
Ar ôl ysmygu, radon yw’r prif achos o ganser yr ysgyfaint.
Pam mae radon yn risg i iechyd?
Gall yr elfennau ymbelydrol y mae radon yn eu ffurfio gael eu hanadlu i mewn i’n hysgyfaint. Pan fyddant y tu mewn i’r ysgyfaint, mae’r elfennau hyn yn parhau i allyrru pelydriad sy’n achosi niwed lleol a all arwain at ganser yr ysgyfaint.
Mae radon yn achosi dros 1,100 o farwolaethau o ganser yr ysgyfaint bob blwyddyn yn y DU. Mae hanner y marwolaethau hyn yn digwydd ymhlith y rhai sy’n ysmygu ar hyn o bryd.
Yr uchaf yw lefelau’r radon a pho hwyaf yw’r cysylltiad ag ef, y mwyaf yw’r risg – yn enwedig os ydych chi’n ysmygu.
Ble mae dod o hyd i radon?
Mae lefelau radon yn isel ym mhob man yn yr awyr agored. Yn y rhan fwyaf o achosion mae lefel radon dan do yn isel ac mae’r risg i iechyd yn fach. Fodd bynnag, mae lefel radon dan do yn dibynnu ar y ddaear oddi tano a sut mae’r adeilad yn cael ei ddefnyddio.
Gallwch weld a ydych mewn ardal sydd wedi’i heffeithio gan radon neu ‘ardal â phroblem’ drwy ddefnyddio map dangosol, sydd wedi’i lunio gan Public Health England ac Arolwg Daearegol Prydain, sydd ar gael yn UKRadon.
Po dywyllaf y lliw, y mwyaf yw’r siawns o lefel radon uwch dan do. Os ydych yn byw neu’n gweithio mewn ‘ardal â phroblem’ radon neu’n agos at un, rydym yn eich cynghori i fesur y lefelau dan do.
Mesur radon yn y cartref ac adeiladau eraill
Nid oes modd rhagweld yn ddibynadwy lefel radon mewn cartref neu adeilad, felly mae angen ei fesur gyda synhwyrydd radon. Gall radon fynd i mewn i adeiladau o dan y ddaear ac mae’n amrywio o gartref i gartref ac yn ôl ffordd o fyw.
Mae synwyryddion radon yn ddiogel ac yn syml i’w defnyddio e.e. gellir eu gosod ar silff. Cregyn plastig gwag bach ydynt sy’n cynnwys darn o blastig clir sy’n cofnodi’r difrod a achosir gan radon.
Nid yw’r synwyryddion yn rhyddhau nac yn casglu unrhyw beth peryglus. Fodd bynnag, gallant gael eu difrodi gan wres neu eu boddi mewn dŵr ac ni ddylid eu hagor.
Mae swm y radon yn amrywio dros amser ac o ystafell i ystafell mewn cartref. Caiff y prawf ei gynnal dros dri mis er mwyn caniatáu ar gyfer amrywiadau mewn lefelau.
Nod y prawf yw penderfynu ar eich cysylltiad chi, felly rydym yn argymell profi’r ystafell fyw a’r ystafell wely gan mai’r rhain yw’r ystafelloedd rydych chi a’ch teulu yn eu defnyddio fwyaf.
Pa lefel o radon ddylai wneud i mi boeni?
Caiff radon ei fesur mewn Becquerels fesul metr ciwbig o aer (Bqm-3). Y lefel gyfartalog yng nghartrefi’r DU yw 20 Bqm-3.
Ar gyfer lefelau sy’n is na 100 Bqm-3, mae eich risg unigol yn parhau’n gymharol isel ac ni ddylech boeni. Fodd bynnag, mae’r risg iechyd yn cynyddu wrth i lefel y radon gynyddu.
Mewn eiddo domestig mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn argymell y dylid lleihau lefelau radon os yw’r cyfartaledd yn fwy na Lefel Weithredu o 200 Bqm-3. Mae’r Lefel Weithredu hon yn cyfeirio at y crynodiad cyfartalog blynyddol fel y caiff ei fesur gan ddefnyddio dau synhwyrydd (mewn ystafell wely ac ystafell fyw) dros dri mis, i gyfartaledd yr amrywiadau tymor byr.
Lefel Darged o 100 Bqm-3 yw’r canlyniad delfrydol ar gyfer gwaith adfer mewn adeiladau presennol a mesurau amddiffynnol mewn adeiladau newydd.
Os yw canlyniad asesiad radon rhwng y Lefelau Targed a Gweithredu, dylid ystyried yn ddifrifol dilyn camau i ostwng y lefel, yn enwedig os oes ysmygwr neu rywun oedd yn arfer ysmygu yn y cartref.
Ar gyfer gweithleoedd mae deddfwriaeth iechyd a diogelwch yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr mewn ‘ardaloedd â phroblem radon’ asesu cysylltiad â radon. Mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol hefyd i unrhyw weithle lle ceir gweithleoedd dan ddaear, hyd yn oed os nad ydynt mewn ardal â phroblem radon. Daw Rheoliadau Ymbelydriadau Ïoneiddio 2017 i rym pan fydd radon uwchlaw 300 Bqm-3 (cyfartaledd blynyddol) yn bresennol. Rhaid i gyflogwyr gymryd camau i leihau’r cysylltiad â radon yn yr achosion hy
Camau i unioni / lleihau cysylltiad
Gall rhai camau syml megis selio o amgylch hatshys atig ac agoriadau mawr mewn lloriau, a sicrhau mwy o ddulliau awyru, leihau cysylltiad. Fodd bynnag, nid ydynt yn gostwng lefelau radon ar eu pen eu hunain. Dylid cyfuno’r camau gweithredu hyn â mesurau effeithiol eraill.
Mae enghreifftiau o fesurau effeithiol yn cynnwys:
- Pwmp radon – pwmp radon gweithredol, wedi’i ffitio â ffan, yw’r ffordd fwyaf effeithiol o leihau lefelau radon dan do. Mae’r pympiau yn gweithio orau o dan loriau solet ac o dan loriau crog os yw’r tir wedi’i orchuddio â choncrid neu bilen. Weithiau, gall pympiau goddefol heb ffan ostwng lefelau radon.
- Awyru positif – ffan fach dawel yn chwythu awyr iach, o’r to fel arfer, i mewn i’r adeilad.
- Awyru naturiol o dan y llawr – mae gan lawer o gartrefi a rhai gweithleoedd lawr gwaelod crog a lle oddi tano. Gall awyru’r lle yn dda leihau crynodiadau radon.
- Awyru gweithredol dan y llawr – defnyddir ffan naill ai i chwythu aer i mewn drwy’r amser neu i dynnu aer allan o’r lle o dan y llawr crog. Gellir defnyddio hyn pan nad yw’r broses awyru naturiol o dan y llawr yn ddigonol i ostwng lefel y radon.
Rhagor o wybodaeth
- I gael rhagor o wybodaeth am y tri cham allweddol i reoli radon mewn adeiladau – gwirio, mesur, gweithredu, ewch i wefan UKRadon (Saesneg yn unig).
- I gael rhagor o wybodaeth am radon yn y gweithle, ewch i wefan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (Saesneg yn unig).
- I gael help i roi’r gorau i ysmygu ewch i ‘Helpa fi i Stopio’.