Dŵr ac iechyd
Mae dŵr glân yn hanfodol i’n hiechyd a’n lles.
Yng Nghymru, mae cwmnïau dŵr yn cyflenwi dŵr yfed iach a diogel, yn unol â safonau ansawdd dŵr perthnasol. Mae dŵr nad yw’n cael ei gyflenwi gan gwmnïau dŵr – cyflenwad ‘preifat’ – yn cael ei fonitro a’i asesu hefyd yn erbyn safonau dŵr yfed i sicrhau ei ansawdd. Mae gan rhyw 80,000 o bobl yng Nghymru gyflenwad dŵr preifat.
Mae’r Arolygiaeth Dŵr Yfed yn darparu sicrwydd annibynnol bod cyflenwadau dŵr yng Nghymru a Lloegr yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys gwirio bod cwmnïau dŵr yn cyflenwi dŵr sy’n dderbyniol i’r cyhoedd.
Risgiau iechyd
Daw’r risg fwyaf o lygredd microbaidd. Y brif ffynhonnell o ficrobau fel bacteria a firysau yw dŵr yfed wedi’i lygru gan faw pobl neu anifeiliaid (gan gynnwys adar). Mae peryglon microbaidd eraill yn cynnwys Legionella, bacteria sy’n gallu tyfu mewn systemau dŵr, ac alga gwenwynig gwyrddlas (yr enw cywirach ar hwn yw cyanobacteria) sy’n gallu tyfu mewn llynnoedd a chronfeydd dŵr.
Gall cemegau effeithio ar ansawdd dŵr hefyd. Gall y ffynonellau o gemegau mewn dŵr gynnwys y canlynol:
- cemegau o weithgareddau diwydiannol neu amaethyddol fel plaleiddiaid ac olew cynhesu
- cemegau naturiol fel creigiau llawn metelau fel arsenic a haearn
- cemegau o broses trin dŵr
- o ddeunyddiau sy’n dod i gysylltiad â dŵr fel pibellau wedi’u gwneud o blwm
Y prif berygl radiolegol yw radon, nwy ymbelydrol naturiol sydd i’w ganfod weithiau mewn dŵr yfed.
Mae gan gwmnïau dŵr gynlluniau diogelwch dŵr i reoli’r risgiau o ficrobau, cemegau a pheryglon radiolegol mewn dŵr yfed ac i sicrhau eu bod yn cyrraedd safonau seiliedig ar iechyd. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys prosesau trin dŵr yfed, gan gynnwys diheintydd a ffilteri i gael gwared ar lygrwyr a rheolaeth ar ansawdd, fel monitro ansawdd dŵr yn y tarddiad ac yn nhapiau’r defnyddwyr.
Ein rôl ni
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda chwmnïau dŵr, awdurdodau lleol ac eraill i sicrhau bod y dŵr o’r safon uchaf. Un ffordd rydym yn gwneud hyn yw drwy’r Bartneriaeth Iechyd Dŵr ar gyfer Cymru sy’n dod ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol at ei gilydd i weithio ar faterion cysylltiedig â dŵr ac iechyd. Mae’r gwaith presennol yn cynnwys rheoli risgiau o blwm mewn dŵr yfed, cyflenwadau dŵr preifat, dyfroedd ymdrochi a sychder.
Weithiau mae digwyddiadau llygredd dŵr yn dod i’r amlwg a phan fydd hyn yn digwydd rydym yn gweithio gydag eraill i asesu’r effaith bosib ar iechyd ac i sicrhau bod mesurau priodol yn cael eu rhoi ar waith er mwyn diogelu’r cyhoedd.
Os ydych yn bryderus am ansawdd eich dŵr yfed, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â’ch cwmni dŵr yn y lle cyntaf, neu eich awdurdod lleol os yw eich cyflenwad dŵr yn un preifat. Os oes gennych chi ymholiadau iechyd cyhoeddus, cysylltwch ag Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gwybodaeth bellach
Adnoddau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Adroddiadau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn