Neidio i'r cynnwys

Y tywydd ac iechyd

Mae’r tywydd yn gallu effeithio ar iechyd pobl, yn enwedig pobl hŷn, pobl ifanc iawn a phobl â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes.

Ond, hyd yn oed os ydym yn iach, mae pethau fel lle rydyn ni’n byw a faint o arian sydd gennym ni yn gallu effeithio ar y posibilrwydd o gael ein niweidio gan y tywydd.

Mae’r tywydd yn newid ac mae mwy o newidiadau yn debygol dros amser.

Cynllunio ymlaen llaw

  • Gallech dderbyn cyngor, cymorth a budd-daliadau i gadw’ch cartref yn gynhesach (neu’n oerach), gwella’ch system wresogi neu helpu i dalu biliau. Am ragor o wybodaeth gweler Cyngor ar Bopeth a Thaliadau Tanwydd y Gaeaf (Saesneg yn unig)
  • Dylech sicrhau bod peiriannydd proffesiynol yn gwirio eich offer gwresogi a choginio (gan gynnwys simneiau a ffliwiau) o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae carbon monocsid yn gallu lladd. Heb wirio offer a systemau awyru priodol, mae carbon monocsid yn gallu cronni a bod yn beryglus iawn. Dylech sicrhau eich bod yn ymwybodol o symptomau gwenwyn carbon monocsid a bod gennych chi larwm carbon monocsid sy’n gweithio. Ni ddylai gosod larwm ddisodli’r angen i wirio offer yn rheolaidd.

Ar gyfer peirianwyr proffesiynol cofrestredig gweler:

Rhagolygon tywydd gwael?

  • Dylech sicrhau bod eich ffôn symudol wedi’i wefru a bod eich holl rifau ffôn pwysig wedi’u llwytho i’r ffôn. Mae angen cadw rhestr ohonyn nhw ar bapur hefyd.
  • Cofiwch sicrhau bod rhif ffôn a rhif polisi eich cwmni yswiriant cartref wrth law (a gofalwch fod gennych chi yswiriant rhag y tywydd hefyd).
  • Dylech sicrhau bod gennych ddigon o feddyginiaeth a bod unrhyw feddyginiaethau rheolaidd yn ddiogel.
  • Os yw tanwydd gwresogi yn cael ei ddanfon i’ch cartref, dylech sicrhau bod gennych gyflenwad digonol.
  • Cofiwch sicrhau bod gennych chi ddigon o fwyd a diod yn y tŷ.
  • Cofiwch sicrhau bod gennych chi dortsh a batris, a dylech feddwl am brynu radio batri.

Pan fydd y tywydd yn wael

  • Byddwch yn ofalus os ydych chi’n mynd allan.
  • Cofiwch sicrhau bod anwyliaid, cymdogion, ffrindiau ac aelodau’r teulu yn iawn.
  • Os oes gennych chi ffôn symudol, dylech ei wefru, ei gadw gyda chi, a sicrhau bod rhifau ffôn pwysig wedi’u llwytho i’r ffôn.
  • Dilynwch gyngor y gwasanaethau brys a’r Swyddfa Dywydd. Os ydych chi’n teimlo’n sâl, ffoniwch eich meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 111. Ffoniwch 999 mewn argyfwng.
  • Os ydych chi wedi colli’ch cyflenwad dŵr, ewch yma i gael cyngor.
  • Os yw eich cyflenwad trydan wedi torri, diffoddwch offer mawr, yn enwedig unrhyw ffwrn a thanau trydan, hyd nes y bydd y pŵer yn ei ôl. Peidiwch ag agor eich rhewgell. Os yw’r bwyd wedi dadmer erbyn i’r pŵer ddychwelyd, dylech daflu’r bwyd.
  • Os oes rhaid i chi deithio, cofiwch ddilyn cyngor teithio’r Swyddfa Dywydd. Dylech baratoi eich hun a’ch cerbyd yn gyntaf. Cofiwch ddweud wrth rywun ble rydych chi’n mynd a rhoi gwybod i’r unigolyn hwn ar ôl i chi ddychwelyd.
  • Os ydych wedi colli eich cyflenwad dŵr, dilynwch y cyngor canlynol.

Ymdopi heb gyflenwad dŵr

Os oes gennych chi brif gyflenwad dŵr fel arfer (wedi’i ddarparu gan gwmni dŵr)

  • Os oes problem gyda’ch prif gyflenwad dŵr, bydd eich cwmni dŵr lleol yn dweud wrthych beth i’w wneud.
  • Efallai y bydd yn rhaid i chi ferwi eich dŵr tap.
  • Efallai y byddwch chi’n derbyn dŵr potel neu y bydd tanceri dŵr yn cael eu gosod ger eich cartref i chi gasglu dŵr.
  • Os oes angen mwy o gymorth arnoch oherwydd eich oedran, eich iechyd neu gyflwr meddygol, efallai y gallwch wneud cais i gael eich cynnwys yng Nghofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth eich darparwr dŵr.

Os oes gennych chi gyflenwad dŵr preifat (e.e. tarddell, twll turio)

  • Os yw lliw eich dŵr wedi newid neu os oes ganddo flas neu arogl, cysylltwch â’ch awdurdod lleol am gyngor.
  • Gall eich awdurdod lleol roi cyngor i chi, ond bydd angen i berchennog neu feddiannydd y cartref ddelio â’r broblem, neu unrhyw un arall sydd â pherchnogaeth neu reolaeth dros y ffynhonnell/cyflenwad dŵr.
  • Dylai’r rhai sy’n gyfrifol am y cyflenwad dŵr fod â chynlluniau ar waith i ddelio â phrinder dŵr neu ddŵr wedi’i halogi. Gofynnwch i’ch awdurdod lleol am gyngor.

Berwi dŵr i’w ddefnyddio yn y cartref

  • Os ydych chi wedi cael gwybod bod angen i chi ferwi eich dŵr, dylech ddefnyddio dŵr berwedig yn unig ar gyfer yfed, brwsio dannedd a pharatoi bwyd.
  • Dylech ferwi’r dŵr a gadael iddo oeri cyn ei ddefnyddio, a’i gadw mewn cynhwysydd sydd â gorchudd neu gaead tra ei fod yn oeri (gallai dŵr diorchudd gael ei halogi a’ch gwneud yn sâl). 
  • Gallwch ddefnyddio dŵr heb ei ferwi i baratoi bwyd a fydd yn cael ei goginio neu os yw’r dŵr yn cael ei ferwi wrth goginio.
  • Peidiwch â defnyddio dŵr heb ei ferwi i baratoi bwyd na fydd yn cael ei goginio, fel ffrwythau, salad neu giwbiau iâ.
  • Defnyddiwch degell, yn hytrach na sosbenni, i ferwi dŵr. Gall dŵr sy’n berwi sgaldio. Os oes rhaid i chi ddefnyddio sosbenni, gofalwch fod dolenni sosbenni allan o gyrraedd plant, a chofiwch ddefnyddio’r caead.
  • Peidiwch byth ag yfed dŵr o’r tap dŵr poeth.

Ymolchi plant

  • Os nad yw’r dŵr yn ddiogel i’w yfed, mae’n well peidio â’i ddefnyddio i ymolchi plant bach rhag ofn eu bod nhw’n yfed rhywfaint ohono. Defnyddiwch ddŵr potel neu weips babis er mwyn eu hymolchi’n gyflym.

Bwyd fformiwla ar gyfer babanod

Mae’r GIG yn argymell na ddylech ddefnyddio dŵr potel i wneud bwyd fformiwla i fabanod. Nid yw’n ddi-haint ac mae’n bosibl y bydd yn cynnwys gormod o halen (sodiwm) neu sylffad.

Fodd bynnag, os oes problem gyda’ch cyflenwad dŵr arferol, mae’n bwysig iawn nad yw eich babi yn dadhydradu. Cofiwch:

  • Os oes angen i chi baratoi bwyd fformiwla ar gyfer babi, rhaid i chi fod yn ofalus gyda’r dŵr rydych chi’n ei ddefnyddio. Neu, defnyddiwch laeth fformiwla parod.
  • Os ydych wedi cael dŵr potel gan gwmni dŵr, bydd y dŵr hwn yn ddiogel i wneud bwyd babi, unwaith y bydd wedi’i ferwi ac yna ei oeri (Saesneg yn unig).
  • Os oes rhaid i chi brynu eich dŵr potel eich hun, dylech edrych ar y cynnwys mwynau cyn ei ddefnyddio oherwydd gall rhai mathau o ddŵr potel (yn enwedig “dŵr mwynol”) gynnwys llawer o halen a / neu sylffad. Gall cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd eich helpu i ddewis a defnyddio dŵr potel yn y sefyllfaoedd hyn.
  • Dylai dŵr potel gael ei ferwi, ei orchuddio a’i adael i oeri am hyd at hanner awr. Dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr i wneud y bwyd. Yna, dylech ddefnyddio’r bwyd sydd wedi’i baratoi ar unwaith.

Glanhau lensys cyffwrdd

  • Peidiwch byth â rhoi lensys cyffwrdd mewn dŵr, wedi’i ferwi neu fel arall, oherwydd gall hyn arwain at heintiau’r llygad.
  • Dylech ddefnyddio toddiant glanhau lensys cyffwrdd a dilyn y cyfarwyddiadau i’w ddefnyddio.

Glanhau cynwysyddion dŵr

  • Rhaid i unrhyw gynwysyddion sy’n cael eu defnyddio i gludo dŵr fod yn lân.
  • Defnyddiwch dabledi neu hylifau sterileiddio, gan ddilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, i lanhau powlenni, bwcedi a chynwysyddion eraill.

Beth am fflysio’r toiled?

  • Gall prinder dŵr olygu nad oes digon o ddŵr i fflysio’r toiled. Felly, ewch ati i  gadw’r dŵr a gafodd ei ddefnyddio ar gyfer coginio a golchi’r llestri, a’i ddefnyddio i fflysio’r toiled.
  • Gallwch ddefnyddio ffynonellau dŵr eraill, fel casgenni dŵr o’r ardd, ar gyfer fflysio hefyd.

Beth os nad oes modd fflysio’r toiled o gwbl oherwydd rhwystr?

  • Os oes modd, dylech ddefnyddio toiledau sy’n perthyn i aelodau’r teulu, ffrindiau a chymdogion sydd â chyflenwad dŵr o hyd, neu ddefnyddio toiledau cyhoeddus, neu doiledau mewn canolfannau gorffwys, siopau lleol, archfarchnadoedd a gwestai.
  • Gallech ystyried defnyddio toiledau cemegol (“portaloos”).

Defnyddio dŵr o ffynonellau eraill e.e. ffynhonnau neu darddellau cymunedol

  • Peidiwch â defnyddio’r ffynonellau hyn ar gyfer yfed, ymolchi neu baratoi bwyd rhag ofn nad ydyn nhw’n ddiogel. 

Ar ôl tywydd gwael

Dilynwch gyngor y gwasanaethau brys, yr awdurdod lleol a’r cwmnïau yswiriant i gael unrhyw wybodaeth am lanhau.

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn