Llygredd sŵn amgylcheddol
Ystyr sŵn yw sain ddieisiau neu niweidiol. Daw sŵn amgylcheddol o drafnidiaeth (ffyrdd, rheilffyrdd, traffig awyr) a diwydiant. Gall gael ei achosi ar y cyd â llygredd aer.
Nid yw sŵn amgylcheddol yn cynnwys sŵn o weithgareddau domestig, cymdogion, gweithleoedd na gweithgareddau milwrol.
Beth yw’r peryglon iechyd sy’n gysylltiedig â llygredd sŵn?
Gall dod i gysylltiad â sŵn amgylcheddol niweidio iechyd pobl. Mae’r risgiau i iechyd yn cynnwys clefyd cardiofasgwlaidd, tarfu ar gwsg, perfformiad a dysgu gwael, problemau iechyd meddwl, straen ac ansawdd bywyd is.
Beth sy’n cael ei wneud yng Nghymru?
Mae deddfwriaeth yn ei gwneud hi’n ofynnol i Weinidogion wneud cynlluniau i fynd i’r afael â sŵn amgylcheddol ger prif ffyrdd a rheilffyrdd o amgylch ein dinasoedd mwyaf ac mewn mannau tawel fel parciau, ysgolion ac ysbytai.
Beth mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud?
Rydyn ni’n cefnogi cymryd camau i leihau neu atal sŵn a chreu ‘seinwedd’ sy’n llesol i iechyd a lles. Rydyn ni’n argymell atebion sy’n lleihau llygredd sŵn ac aer. Byddwn yn gwneud hyn drwy lywio penderfyniadau caniatâd cynllunio a thrwyddedu amgylcheddol lleol.
Mwy o wybodaeth
I gael cymorth i ddelio â sŵn gan gymdogion ac eiddo masnachol cysylltwch â’ch awdurdod lleol, fel arfer adran iechyd yr amgylchedd yw hwn.
Gwybodaeth bellach
Adnoddau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Adroddiadau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn