Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Polisïau a safonau sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig

  • Blynyddol
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n gyfrifol am gynllunio, paratoi a chyflawni rhaglen Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru. Mae’r rhaglen yn cynnig sgrinio smotyn gwaed i bob babi newydd-anedig sy’n byw yng Nghymru pan fydd yn 5 diwrnod oed a phob babi sy’n dod i fyw yng Nghymru, hyd at un oed.

Mae’r polisïau a safonau yn y ddogfen hon yn amlinellu’r hyn sydd angen ei gyflawni ym mhob agwedd ar y rhaglen.

Datblygwyd System Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru i gefnogi’r gwaith o reoli rhaglen ddiogel a chynaliadwy ledled Cymru. Mae’r system hon yn casglu ac yn coladu gwybodaeth ar draws y rhaglen er mwyn monitro ansawdd sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig ac yn darparu adroddiadau sicrwydd ansawdd ac adroddiadau rheoli yn seiliedig ar y polisïau a’r safonau.

Mae System Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru hefyd yn nodi babanod y mae’r rhaglen yn disgwyl derbyn cerdyn smotyn gwaed ar eu cyfer neu gadarnhad bod y prawf wedi’i wrthod, ac yn rhoi gweithdrefnau di-feth ar waith ar gyfer babanod sydd o bosibl wedi mynd drwy’r rhwyd.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Polisïau a Safonau Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru

PDF, 356KB

Llawrlwytho PDF - Polisïau a Safonau Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru (356 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig