Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau cyffredin sgrinio'r fron - Eich apwyntiad

Allaf ddod â rhywun gyda fi i’m hapwyntiad?

Dim ond ardal aros fach sydd sy’n arwain yn uniongyrchol i’r ciwbicl newid, felly mae lle yn gyfyng. Os oes angen i chi ddod a rhywun gyda chi, mae’n bosibl gwneud hynny, ond bydd angen i chi roi gwybod i ni. Efallai y bydd yn well i chi gael eich apwyntiad yn y ganolfan sgrinio’r fron lleol. Yn anffodus ni allwn eich sgrinio os dewch a phlant gyda chi i’ch apwyntiad.

Beth os bydd angen cymorth arnaf i fynd am fy mhrawf sgrinio’r fron?

Os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch ar gyfer sgrinio, rhowch wybod i ni cyn eich apwyntiad fel y gallwn drafod pa gymorth y gellir ei roi.

Y tro diwethaf y cefais brawf sgrinio’r fron, methodd y radiograffydd gwblhau fy mhelydr-x o’r fron. A ddylwn ddod am brawf sgrinio eto?

Dylech, hyd yn oed os nad oedd y radiograffydd yn gallu cwblhau’r pelydr-x o’r fron, byddwn yn gallu darllen y delweddau a gymerwyd gennym a rhoi canlyniad i chi am yr ardal a welwyd.

Beth os wyf yn cefnogi rhywun nad yw’n gallu gwneud penderfyniadau?

Mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â ni cyn dod a’r unigolyn rydych yn ei gefnogi i’w apwyntiad. Gallwn drafod pa gymorth y gellir ei roi fel y gellir sgrinio’r unigolyn. I gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalen ‘Gwybodaeth i ofalwyr a’r bobl y meant yn eu cefnogi’.

A yw’r prawf yn boenus?

Mae rhai pobl yn teimlo bod pelydr-x o’r fron yn anghyfforddus ac i eraill mae’n boenus.  Mae pawb yn wahanol. Os ydych yn poeni y bydd y prawf yn boenus, gallwch gymryd poenladdwr megis parasetemol cyn y prawf. I gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalen ‘Ynglŷn â’ch apwyntiad’.

Beth os wyf yn defnyddio ci cymorth?

Os byddwch yn defnyddio ci cymorth sydd wedi’i hyfforddi gan Assistance Dogs UK, caniateir i’ch ci ddod gyda chi i’ch apwyntiad sgrinio’r fron. Pan gewch eich mamogram bydd yn gallu aros yn yr ardal aros neu’r dderbynfa. Ni chaniateir unrhyw anifeiliaid eraill ar y safle.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 11eg Chwefror 2026