Cwestiynau cyffredin sgrinio'r fron - Gwahoddiad sgrinio
Ble byddaf yn cael fy sgrinio?
Cewch eich sgrinio yn un o’r unedau sgrinio symudol neu mewn canolfan sgrinio. Rydym yn ceisio rhoi apwyntiad i chi mor agos at eich cartref â phosibl. Rhowch wybod i ni os yw’r lleoliad sgrinio yn anodd i chi.
Sut y gallaf gael apwyntiad?
Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Pan fydd hi’n amser i chi gael eich sgrinio, cewch wahoddiad.
Allaf ofyn am sgrinio’r fron pan fyddaf yn 50?
Na allwch. Rydym yn gwahodd menywod yn seiliedig ar bryd y bydd aelodau practis eu meddyg yn cael ei sgrinio bob tair blynedd. Cewch wahoddiad i gael eich sgrinio cyn eich pen-blwydd yn 53 oed.
Beth sy’n digwydd pan fyddaf yn cyrraedd 70 mlwydd oed, a gaf wahoddiad eto?
Ni fydd Bron Brawf Cymru yn eich gwahodd ar gyfer sgrinio’r fron, ond gallwch gysylltu â ni a gofyn am apwyntiad.
Fe wnes i fethu fy apwyntiad sgrinio’r fron, oes angen i mi aros i gael gwahoddiad arall?
Os methoch chi’ch apwyntiad sgrinio’r fron, gallwch gysylltu â Bron Brawf Cymru i drefnu apwyntiad newydd. Mae’n bwysig nad ydych yn aros am dair blynedd cyn y cewch wahoddiad eto.
Rwy’n drawsryweddol, a ddylwn gael sgrinio’r fron?
Os ydych yn drawsryweddol, anneuaidd neu’n rhywedd amrywiol ac nid ydych yn siŵr pa brawf sgrinio a gynigir i chi, gallwch gael rhagor o wybodaeth trwy ymweld â’n tudalen gwybodaeth i bobl sy’n drawsryweddol.
Rwy’n feichiog/ yn bwydo ar y fron, a ddylwn gael sgrinio’r fron?
Rydym yn awgrymu eich bod yn siarad gyda ni cyn cael sgrinio’r fron.
Mae mewnblaniadau gen i yn fy mronnau, allaf i gael prawf sgrinio’r fron?
Gallwch. Cewch daflen i’w darllen oherwydd y gall mewnblaniadau wneud sgrinio’n fwy anodd.
Ni allaf ddeall yr wybodaeth a anfonwyd ataf, allaf ofyn amdani ar ffurf arall?
Mae gwybodaeth am sgrinio’r fron ar gael ar wahanol ffurfiau gan gynnwys: hawdd ei ddeall; print mawr, braille, Iaith Arwyddion Prydain. Mae’r wybodaeth hon ar gael i’w lawrlwytho o’n secsiwn Adnoddau. Yn ogystal, gallwch gysylltu â ni cyn eich apwyntiad a gallwn anfon yr wybodaeth sydd ei hangen atoch.
Beth os oes angen cyfieithydd ar y pryd arnaf?
Rhowch wybod i ni cyn eich apwyntiad os bydd angen gwasanaeth cyfieithu ar y pryd fel y gallwch wneud trefniadau.
Rwyf yn cael gofal am ganser y fron o hyd, pam ydych wedi fy ngalw?
Mae’r rhaglen sgrinio yn galw pob menyw o fewn yr oedran sgrinio pob tair blynedd er mwyn sicrhau na fydd unrhyw un yn cael ei cholli. Os ydych o dan ofal yr ysbyty, gofynnir i chi roi gwybod i ni.
Allaf newid fy apwyntiad?
Gallwch. Cysylltwch â ni os na allwch ddod i’ch apwyntiad, efallai y gallwn gynnig amser neu ddyddiad mwy cyfleus i chi.
Sut y gallaf gysylltu â chi?
Gallwch ein ffonio, ysgrifennu neu anfon e-bost atom. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n tudalen cysylltu â ni.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 10fed Chwefror 2026