Polisïau, safonau a phrotocolau sgrinio Cyn Geni Cymru 2023
Cyhoeddwyd ar: 16eg Awst 2024
- Blynyddol
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Gofynnodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i Sgrinio Cyn Geni Cymru (SCG) sefydlu polisïau, safonau a fframwaith ar gyfer rheoli perfformiad sgrinio cyn geni a ddarperir gan wasanaethau mamolaeth yng Nghymru. Mae SCG yn rhan o Adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd â phrofiad helaeth o reoli a darparu rhaglenni sgrinio sy’n seiliedig ar y boblogaeth. Y Grŵp Ansawdd a Rheoli Clinigol a’r grwpiau cynghori penodol i raglen sy’n darparu’r llywodraethu ar gyfer y gwaith. Nid yw SCG yn darparu unrhyw wasanaethau sgrinio cyn geni, nac yn eu rheoli’n uniongyrchol.
Mae gwasanaethau mamolaeth y byrddau iechyd yng Nghymru yn cynnig profion sgrinio cyn geni i fenywod beichiog fel rhan o’u gofal cyn geni. Mae amryw o wahanol resymau dros gynnig profion sgrinio cyn geni ac mae’r rhain yn gwneud y rhaglen sgrinio cyn geni’n un gymhleth sydd â nifer o wahanol ddibenion, ac ystyriaethau a goblygiadau moesegol unigryw. Mae cefnogi unigolion i wneud penderfyniadau gwybodus personol am eu dewisiadau sgrinio cyn geni yn bwysig yn ystod beichiogrwydd. Rhaid i weithwyr iechyd proffesiynol sicrhau bod gan unigolion y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnynt i wneud penderfyniadau a rhoi cydsyniad ar sail gwybodaeth.
Y diben y cytunwyd arno ar gyfer y rhaglen sgrinio cyn geni yng Nghymru yw:
- canfod cyflyrau penodol sy’n bresennol naill ai yn y fam neu yn y babi sy’n debygol o effeithio ar iechyd y naill neu’r llall, lle mae dull effeithiol o ymyrryd neu driniaeth ar gael ar eu cyfer
Yn achos rhai cyflyrau, mae triniaeth ar gael yn ystod y cyfnod cyn geni neu ar ôl y geni i wella iechyd y fam neu’r babi.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Polisïau, safonau a phrotocolau sgrinio Cyn Geni Cymru 2023
PDF, 1MB
Llawrlwytho PDF - Polisïau, safonau a phrotocolau sgrinio Cyn Geni Cymru 2023 (1 MB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Adroddiad blynyddol Sgrinio Cyn Geni Cymru 2017-18
Mae Sgrinio Cyn Geni Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth â grŵp eang o randdeiliaid yng Nghymru a’r DU i fonitro’r safonau a’r protocolau ar gyfer sgrinio cyn geni. […]
Cyhoeddwyd: 7fed Chwefror 2024
-
Adroddiad blynyddol Sgrinio Cyn Geni Cymru 2018-19
Mae’r adroddiad canlynol yn amlinellu gwaith Sgrinio Cyn Geni Cymru rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019. Mae’r adroddiad cryno hwn yn amlygu cyflawniadau’r tîm sy’n gweithio’n agos gyda […]
Cyhoeddwyd: 28ain Tachwedd 2019
-
Polisïau, safonau a phrotocolau sgrinio Cyn Geni Cymru 2019
Mae gwasanaethau mamolaeth y byrddau iechyd yng Nghymru’n darparu profion sgrinio cyn geni i fenywod beichiog fel rhan o’u gofal cyn y geni. Mae amryw o wahanol resymau dros gynnig […]
Cyhoeddwyd: 6ed Mehefin 2019
-
Adroddiad blynyddol Sgrinio Cyn Geni Cymru 2019-22
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r gwaith a wnaed gan Sgrinio Cyn Geni Cymru rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2022. Mae’r adroddiad cryno hwn yn amlygu cyflawniadau’r tîm ac […]
Cyhoeddwyd: 7fed Tachwedd 2024
-
Adroddiad blynyddol Sgrinio Cyn Geni Cymru 2022-24
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r gwaith a wnaed gan Sgrinio Cyn Geni Cymru rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2024. Mae’r adroddiad cryno hwn yn amlygu cyflawniadau’r tîm ac […]
Cyhoeddwyd: 11eg Chwefror 2025