Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru 2017-18

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 29ain Rhagfyr 2020

  • Blynyddol
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Croeso i’r adroddiad ystadegol blynyddol cyntaf a gyhoeddir gan Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru (DESW) fel rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cafodd DESW (Gwasanaeth Sgrinio Retinopatheg Diabetig Cymru yn flaenorol) ei gomisiynu’n wreiddiol fel gwasanaeth cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2002. Daeth DESW yn weithredol ym mis Mehefin 2003 ac erbyn 2004 roedd yn darparu gwasanaeth i gleifion ym mhob ardal Bwrdd Iechyd. Cafodd y gwasanaeth ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro tan fis Ebrill 2016 pan drosglwyddodd i ymuno â’r Rhaglenni Sgrinio Cymru gyfan seiliedig ar boblogaeth eraill a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Nod y gwasanaeth yw canfod retinopathi diabetig cyn colli golwg. Mae tystiolaeth ymchwil yn dangos bod nodi a thriniaeth gynnar yn gallu atal colli golwg mewn 70 – 90% o bobl â retinopathi diabetig sy’n bygwth golwg (VISION 2020 Sefydliad Iechyd y Byd (Saesneg yn unig)).

DESW yw’r unig raglen sgrinio gydol oes yn y DU. Mae pawb sy’n 12 a hŷn sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes, sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru, yn gymwys i gael profion sgrinio’r retina rheolaidd gyda DESW.

Yn ystod 2017/18, am y tro cyntaf, cytunodd DESW i gyfres o safonau gwasanaeth er mwyn mesur perfformiad y gwasanaeth. Mae’r rhain wedi’u cyhoeddi bob mis ers mis Ebrill 2018, a byddant yn arwain at gyhoeddi ei adroddiad Ystadegol Swyddogol cyntaf yn 2020.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru 2017-18

PDF, 781KB

Llawrlwytho PDF - Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru 2017-18 (781 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig