Adroddiad blynyddol Sgrinio Cyn Geni Cymru 2018-19
Cyhoeddwyd ar: 28ain Tachwedd 2019
Mae’r adroddiad canlynol yn amlinellu gwaith Sgrinio Cyn Geni Cymru rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019. Mae’r adroddiad cryno hwn yn amlygu cyflawniadau’r tîm sy’n gweithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws Cymru, ac yn esbonio’r amrywiaeth eang o waith a gwblhawyd mewn perthynas â’r wyth rhaglen sgrinio cyn geni.
Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Sgrinio Cyn Geni Cymru sefydlu polisïau, safonau a fframwaith rheoli perfformiad ar gyfer y profion sgrinio cyn geni a ddarperir gan y gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru. Mae byrddau iechyd yn gyfrifol am ddarparu sgrinio yn unol â’r polisïau a’r safonau fel rhan o ofal cyn geni arferol.
Mae adolygiad llawn o Bolisïau, Safonau a Phrotocolau Sgrinio Cyn Geni Cymru wedi’i gynnal a bwriedir ei gyhoeddi ym mis Awst 2019. Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru wedi mabwysiadu polisïau, safonau a phrotocolau Sgrinio Cyn Geni Cymru. Mae hyn yn sicrhau bod gan fenywod fynediad teg i wasanaethau arfer gorau ledled Cymru.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Addrioddiad Blynyddol Sgrinio Cyn Geni Cymru 2018-2019
PDF, 2MB
Llawrlwytho PDF - Addrioddiad Blynyddol Sgrinio Cyn Geni Cymru 2018-2019 (2 MB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Polisïau, safonau a phrotocolau sgrinio Cyn Geni Cymru 2023
Gofynnodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i Sgrinio Cyn Geni Cymru (SCG) sefydlu polisïau, safonau a fframwaith ar gyfer rheoli perfformiad sgrinio cyn geni a ddarperir gan wasanaethau mamolaeth yng Nghymru. Mae […]
Cyhoeddwyd: 16eg Awst 2024
-
Adroddiad blynyddol Sgrinio Cyn Geni Cymru 2017-18
Mae Sgrinio Cyn Geni Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth â grŵp eang o randdeiliaid yng Nghymru a’r DU i fonitro’r safonau a’r protocolau ar gyfer sgrinio cyn geni. […]
Cyhoeddwyd: 7fed Chwefror 2024
-
Polisïau, safonau a phrotocolau sgrinio Cyn Geni Cymru 2019
Mae gwasanaethau mamolaeth y byrddau iechyd yng Nghymru’n darparu profion sgrinio cyn geni i fenywod beichiog fel rhan o’u gofal cyn y geni. Mae amryw o wahanol resymau dros gynnig […]
Cyhoeddwyd: 6ed Mehefin 2019
-
Adroddiad blynyddol Sgrinio Cyn Geni Cymru 2019-22
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r gwaith a wnaed gan Sgrinio Cyn Geni Cymru rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2022. Mae’r adroddiad cryno hwn yn amlygu cyflawniadau’r tîm ac […]
Cyhoeddwyd: 7fed Tachwedd 2024
-
Adroddiad blynyddol Sgrinio Cyn Geni Cymru 2022-24
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r gwaith a wnaed gan Sgrinio Cyn Geni Cymru rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2024. Mae’r adroddiad cryno hwn yn amlygu cyflawniadau’r tîm ac […]
Cyhoeddwyd: 11eg Chwefror 2025