Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau cyffredin sgrinio llygaid diabetig - Cwestiynau am eich apwyntiad sgrinio llygaid diabetig

Ar ôl fy apwyntiad, am ba mor hir y bydd fy llygaid wedi’u heffeithio?

Gall eich golwg fynd yn aneglur a gall eich llygaid fod yn sensitif iawn i olau a llacharedd am hyd at chwe awr.  Rydym yn argymell eich bod yn dod â phâr o sbectol haul i helpu gyda’r sensitifrwydd i olau.

Rhaid i chi beidio â gyrru cerbyd na ddefnyddio peiriannau nes eich bod yn teimlo eich bod yn gallu gweld yn glir.

A fydd y diferion yn achosi unrhyw sgil-effeithiau?

Weithiau mae’n bosibl y bydd eich ceg yn sych ar ôl cael y diferion, ond dim ond rhywbeth dros dro fydd hyn.  Mewn achosion prin iawn, gall y diferion achosi cynnydd mewn pwysedd yn y llygad.

Symptomau hyn yw:

  • poen neu anesmwythder difrifol yn neu o amgylch eich llygad
  • cochni yng ngwyn eich llygad
  • golwg aneglur sy’n gwaethygu neu sy’n barhaus ychydig oriau ar ôl cael eich sgrinio, weithiau gyda chylchoedd o liwiau’r enfys o amgylch goleuadau,
  • cyfog neu chwydu.

Os cewch unrhyw rai o’r symptomau hyn ar ôl cael eich sgrinio, dylech gael eich gweld ar unwaith gan eich optometrydd, neu dylech fynd i’r adran damweiniau ac achosion brys.  Ni ddylech oedi oherwydd efallai y bydd angen triniaeth arnoch i leihau’r pwysedd yn eich llygad.

Rwy’n poeni y gallai fy symudedd fy atal rhag mynd i fy apwyntiad sgrinio llygaid diabetig – beth ddylwn i ei wneud?

Cysylltwch â ni cyn eich apwyntiad, fel y gallwn gynnig apwyntiad hygyrch i chi.

Rwyf wedi colli fy apwyntiad, beth ddylwn i ei wneud?

Cysylltwch â ni  os gwnaethoch golli eich apwyntiad sgrinio llygaid diabetig.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 24ain Mawrth 2026