Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adroddiad blynyddol Sgrinio Cyn Geni Cymru 2019-22

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 7fed Tachwedd 2024

  • Blynyddol
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r gwaith a wnaed gan Sgrinio Cyn Geni Cymru rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2022. Mae’r adroddiad cryno hwn yn amlygu cyflawniadau’r tîm ac yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni drwy weithio’n agos gyda chydweithwyr ledled Cymru, ac mae’n esbonio’r amrywiaeth eang o waith a wnaed ar gyfer yr wyth rhaglen sgrinio cyn geni.

Sefydlwyd Sgrinio Cyn Geni Cymru yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru i sefydlu polisïau, safonau a fframwaith rheoli perfformiad ar gyfer sgrinio cyn geni a ddarperir gan wasanaethau mamolaeth yng Nghymru. Mae byrddau iechyd yn gyfrifol am ddarparu sgrinio yn unol â’r polisïau, y safonau a’r protocolau fel rhan o ofal cyn geni arferol.

Mae’r adroddiad yn cwmpasu cyfnod pandemig Covid-19, pan dderbyniwyd parhau â sgrinio cyn geni oherwydd natur sensitif o ran amser y profion a gynigir. Ar gyfer gwasanaethau cyn geni, cafwyd ymateb cynhwysfawr gan bob asiantaeth ar draws systemau iechyd a gofal lleol, rhanbarthol, a chenedlaethol i sicrhau bod modd parhau i ddarparu pob gwasanaeth. Addasodd tîm Sgrinio Cyn Geni Cymru i angen brys i gynorthwyo Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei ymateb brys wrth barhau i weithio gyda byrddau iechyd i sicrhau y gellid darparu gwasanaethau sgrinio cyn geni yn ddiogel ac yn effeithiol.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad Blynyddol Sgrinio Cyn Geni Cymru 2019-22

PDF, 2MB

Llawrlwytho PDF - Adroddiad Blynyddol Sgrinio Cyn Geni Cymru 2019-22 (2 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

  • Polisïau, safonau a phrotocolau sgrinio Cyn Geni Cymru 2023

    Gofynnodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i Sgrinio Cyn Geni Cymru (SCG) sefydlu polisïau, safonau a fframwaith ar gyfer rheoli perfformiad sgrinio cyn geni a ddarperir gan wasanaethau mamolaeth yng Nghymru. Mae […]

    Cyhoeddwyd: 16eg Awst 2024

  • Adroddiad blynyddol Sgrinio Cyn Geni Cymru 2017-18

    Mae Sgrinio Cyn Geni Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth â grŵp eang o randdeiliaid yng Nghymru a’r DU i fonitro’r safonau a’r protocolau ar gyfer sgrinio cyn geni. […]

    Cyhoeddwyd: 7fed Chwefror 2024

  • Adroddiad blynyddol Sgrinio Cyn Geni Cymru 2018-19

    Mae’r adroddiad canlynol yn amlinellu gwaith Sgrinio Cyn Geni Cymru rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019. Mae’r adroddiad cryno hwn yn amlygu cyflawniadau’r tîm sy’n gweithio’n agos gyda […]

    Cyhoeddwyd: 28ain Tachwedd 2019

  • Polisïau, safonau a phrotocolau sgrinio Cyn Geni Cymru 2019

    Mae gwasanaethau mamolaeth y byrddau iechyd yng Nghymru’n darparu profion sgrinio cyn geni i fenywod beichiog fel rhan o’u gofal cyn y geni. Mae amryw o wahanol resymau dros gynnig […]

    Cyhoeddwyd: 6ed Mehefin 2019

  • Adroddiad blynyddol Sgrinio Cyn Geni Cymru 2022-24

    Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r gwaith a wnaed gan Sgrinio Cyn Geni Cymru rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2024. Mae’r adroddiad cryno hwn yn amlygu cyflawniadau’r tîm ac […]

    Cyhoeddwyd: 11eg Chwefror 2025

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig