Gwybodaeth i ofalwyr a'r bobl y maent yn eu cefnogi - Deall eich rôl mewn sgrinio
Mae gofalwyr a darparwyr gofal yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod y bobl y maent yn gofalu amdanynt yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i gael mynediad at sgrinio pan gânt eu gwahodd.
Bydd yr wybodaeth ar y dudalen hon yn eich helpu os ydych yn:
- rhywun sydd wedi cael gwahoddiad i gael ei sgrinio ac sydd angen cymorth
- ofalwr di-dâl
- gweithiwr gofal, neu’n
- weithiwr iechyd proffesiynol
Os ydych chi’n ofalwr di-dâl sy’n rhoi cymorth i rywun, mae’r un mor bwysig i chi ofalu am eich iechyd eich hun.
Rydym yn deall efallai nad ydych yn gweld eich hun fel gofalwr.
Dangosodd ‘Arolwg Cyflwr Gofalu, 2022 (Saesneg yn unig)’ Gofalwyr Cymru fod hanner yr holl ofalwyr wedi cymryd dros flwyddyn i gydnabod eu rôl ofalu, gyda thros draean wedi cymryd mwy na thair blynedd i gydnabod eu hunain yn ofalwr.
Os ydych chi’n ffrind neu’n aelod o’r teulu sy’n rhoi cymorth i rywun, efallai y bydd yr wybodaeth ar y dudalen hon yn ddefnyddiol.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014) yn diffinio gofalwr di-dâl fel:
‘Rhywun sy’n darparu gofal di-dâl i oedolyn neu blentyn anabl. Gall y person sy’n derbyn gofal fod yn aelod o’r teulu neu’n ffrind, na all ymdopi heb ei gymorth oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth. Gallai gofalwr fod yn ŵr sy’n gofalu am ei wraig, yn rhiant sy’n gofalu am ei blentyn sydd ag anghenion gofal a chymorth neu’n blentyn sy’n gofalu am ei riant.’
Cymryd rhan mewn sgrinio
I wneud penderfyniad ynghylch cymryd rhan mewn sgrinio, rhaid i berson gael:
- mynediad at wybodaeth glir a chywir, mewn fformat sy’n addas i’w hanghenion
- cymorth (os oes ei angen arnynt) i ddeall yr wybodaeth
- amser i ystyried yr wybodaeth, a
- chymorth pellach (os oes ei angen arnynt) i’w helpu i wneud penderfyniad.
Trawsysgrif
Felly mae cymryd rhan mewn sgrinio yn rhywbeth pwysig iawn y gallwch ei wneud i helpu i ofalu am eich iechyd eich hun. Ac rydym yn gwybod bod sgrinio yn chwilio am arwyddion cynnar rhai cyflyrau lle gallant fod yn rhy fach i’w gweld neu eu teimlo, neu efallai na fyddwch yn sylwi bod unrhyw beth yn wahanol.
Ond yr hyn rydym yn ei wybod, yw os ydym yn canfod y cyflyrau hyn yn gynnar, yna mae gennych y cyfle gorau o driniaeth lwyddiannus.
Felly mae gofalwyr a darparwyr gofal, gan gynnwys gofalwyr di-dâl a allai fod yn gofalu am aelodau o’r teulu neu ffrindiau, yn chwarae rôl wirioneddol hanfodol wrth gefnogi’r bobl maent yn gofalu amdanynt, i gael mynediad at sgrinio.
Ac os ydych yn ofalwr, mae’n bwysig iawn eich bod yn gofalu am eich iechyd eich hun hefyd, mae cymryd rhan mewn sgrinio yn ddewis a byddem yn annog pawb sy’n cael eu gwahodd i sgrinio ddefnyddio’r wybodaeth rydym yn ei darparu i’w helpu i wneud penderfyniad gwybodus am hynny.
Mae’r adnodd hwn i ofalwyr ar y wefan yn rhoi gwybodaeth benodol os ydych yn rhywun sydd angen cymorth i gael mynediad at sgrinio, os ydych yn weithiwr gofal iechyd neu’n weithiwr cymorth gofal, neu os ydych yn ofalwr di-dâl, yn gofalu am ffrind neu aelod o’r teulu.
Felly’r hyn y byddem yn eich annog i’w wneud yw mynd drwy’r holl wybodaeth ar y wefan hon ac yn enwedig, cysylltu â’r rhaglen drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt neu’r llythyr gwahoddiad fel y gallwn sicrhau ein bod yn darparu’r gofal yn y ffordd iawn i chi ac yn gallu ateb unrhyw gwestiynau.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 26ain Chwefror 2025