Neidio i'r cynnwys

Ynglŷn â sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig - Pa cyflyrau mae babanod newydd-anedig yn cael eu sgrinio am?

Yng Nghymru, mae pob babi’n cael cyfle i gael prawf sgrinio am y cyflyrau sy’n dilyn:

Anhwylderau metabolig sy’n cael eu hetifeddu

Mae babanod sydd ag anhwylderau prin a etifeddir hyn yn methu prosesu rhai o’r sylweddau yn eu bwyd. Heb driniaeth, byddai babanod sydd â’r anhwylderau hyn yn datblygu problemau iechyd difrifol hirdymor, ac mewn rhai achosion gallai’r babanod fynd yn ddifrifol wael yn sydyn.

Mae sgrinio newydd-anedig yn golygu y gellir adnabod babanod sydd ag un o’r anhwylderau hyn yn gynnar, gan sicrhau eu bod yn derbyn y diet, triniaeth a gofal arbenigol cywir i atal problemau iechyd rhag datblygu.

Mae’n bwysig iawn rhoi gwybod i’ch gweithwyr iechyd os oes gennych hanes teuluol o unrhyw un o’r anhwylderau metabolig hyn.

Mae babanod yn cael cynnig sgrinio ar gyfer y chwe anhwylder metabolig etifeddol canlynol (IMDs):

  • Diffyg dadhydrogenas asyl-CoA cadwynganolig (MCADD)
  • Ffenylcetonwria (PKU)
  • Hypothyroidedd etifeddol (CHT)
  • Ffibrosis systig (CF)

Diffyg dadhydrogenas asyl-CoA cadwynganolig (MCADD)

Mae babanod sydd â MCADD yn cael anhawster torri braster i lawr i gynhyrchu egni yn eu cyrff. Os nad yw babanod yn cael eu sgrinio am MCADD, a bod y cyflwr arnyn nhw, efallai mai dim ond pan fyddan nhw’n mynd yn ddifrifol wael yn sydyn y bydd diagnosis yn cael ei wneud. Mae MCADD ar dri neu bedwar o’r babanod sy’n cael eu geni yng Nghymru bob blwyddyn.

Ffenylcetonwria (PKU)

Nid yw babanod sydd â PKU yn gallu torri i lawr un o’r asidau amino sy’n cael ei alw’n ffenylalanin. Asidau amino yw’r ‘blociau adeiladu’ mewn protein ac rydym yn cael protein o rai bwydydd. Os nad yw’r cyflwr yn cael ei drin, bydd anabledd meddyliol difrifol a pharhaol yn datblygu ar fabanod sydd â PKU. Mae sgrinio smotyn gwaed y newydd-anedig yn golygu bod cyfle i adnabod babanod â PKU, gan drin y cyflwr gyda diet arbennig i atal yr anabledd yma.

Mae PKU ar dri neu bedwar o’r babanod sy’n cael eu geni yng Nghymru bob blwyddyn.

Clefyd wrin surop masarn (MSUD), Asidaemia isofalerig (IVA), Asidwria glwtarig math 1 (GA1) ac Homosystinwria (HCU)

Mae babanod sydd ag un o’r pedwar anhwylder MSUD, IVA, GA1 neu HCU yn methu â thorri i lawr yn y ffordd arferol rai o’r asidau amino sydd yn y protein rydym yn ei fwyta. Mae hyn yn arwain at weld lefelau niweidiol o rai asidau amino a chemegion niweidiol eraill yn y gwaed. Mae’r anhwylderau yma’n rhai prin ac mae disgwyl mai un neu ddau o’r babanod sy’n cael eu geniyng Nghymru bob blwyddyn fydd ag un o’r anhwylderau.

Hypothyroidedd etifeddol (CHT)

Nid oes gan fabanod sydd â CHT ddigon o’r hormon thyrocsin. Heb yr hormon hwn, dydyn nhw ddim yn tyfu’n iawn, ac maen nhw’n gallu datblygu anabledd corfforol a meddyliol difrifol a pharhaol.

Mae tua 18 o fabanod yn cael eu geni gyda CHT yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig yn golygu bod modd canfod babanod â CHT a’i drin yn gynnar gyda thabledi thyrocsin. Bydd y driniaeth hon yn atal anabledd difrifol ac yn galluogi’r babi i ddatblygu’n arferol. Os nad yw babanod yn cael eu sgrinio, a bod CHT yn cael ei ganfod yn ddiweddarach, gallai fod yn rhy hwyr i’w hatal nhw rhag bod ag anableddau difrifol.

Ffibrosis systig (CF)

Mae’r cyflwr etifeddol hwn yn effeithio ar y traul a gallu’r ysgyfaint i weithio’n iawn. Mae babanod sydd â CF yn cael anhawster treulio bwyd, ac efallai na fyddan nhw’n magu pwysau yn dda iawn. Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o gael heintiadau ar yr ysgyfaint yn aml.
 
Mae rhwng 12 ac 14 babi yn cael eu geni gyda CF yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig yn golygu bod modd canfod babanod â CF yn gynnar a thrin y cyflwr gyda diet egni uchel,meddyginiaethau a ffisiotherapi. Credir bod triniaeth gynnar yn helpu plant sydd â CF i fyw’n hirach, ac yn iachach. Os nad yw babanod yn cael eu sgrinio ar gyfer CF, a bod y cyflwr arnyn nhw, mae modd eu profi nhw’n ddiweddarach, ond fe allai rhieni dreulio cyfnod pryderus ac ansicr cyn cael diagnosis o CF.

Anhwylderau’r cryman-gelloedd (SCD)

Anhwylderau etifeddol yw’r rhain sy’n effeithio ar y celloedd coch yn y gwaed. Os oes SCD ar y babi, gall y celloedd coch yn y gwaed droi’n siâp cryman, a glynu yn y pibellau gwaed bychan. Fe all hyn achosi poen ac anafiadau i gorff y babi, haint difrifol, neu hyd yn oed farwolaeth.

Mae tri neu bedwar babi yn cael eu geni gydag SCD yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig yn golygu bod modd canfod babanod â SCD, a’i drin yn gynnar, gan gynnwys imiwneiddio a gwrthfiotigau. Fe fydd hyn, ynghyd â gwybodaeth a chefnogaeth i rieni, yn atal salwch difrifol ac yn galluogi’r plentyn i fyw bywyd hirach ac iachach.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25ain Chwefror 2025